Bydd buddsoddiad newydd yn ehangu mynediad, lleihau amseroedd aros a chefnogi mwy o staff y GIG a gofal cymdeithasol.
Bydd buddsoddiad newydd yn ehangu mynediad, lleihau amseroedd aros a chefnogi mwy o staff y GIG a gofal cymdeithasol.
Nid yw mathau penodol o gymorth bob amser yn “addas i bawb”. Ar ôl dod i’r casgliad nad oedd ei phrofiad cyntaf o therapi yn diwallu ei hanghenion, cafodd Laura, gweithiwr yn y GIG, ei chymell i rannu adborth gonest ac archwilio dull gwahanol.
Dychwelodd symposiwm rhithwir blynyddol Canopi ym mis Ionawr eleni, gan ddod â chlinigwyr, ymchwilwyr a phobl â phrofiad byw ynghyd i drin a thrafod ffiniau ymchwil ym maes iechyd meddwl a lles.
Y mis Tachwedd hwn, i gydnabod mis ymwybyddiaeth iechyd meddwl dynion, rydym yn edrych ar sut mae diwylliant, gwrywdod a phwysau yn y gweithle yn dylanwadu ar les dynion.
Yn ddiweddar, gofynnwyd i un o therapyddion Canopi, “Os gallech chi roi dim ond un darn o gyngor i wella iechyd meddwl, beth fyddai hwnnw?” a’i ateb oedd “y pum ffordd at les.”
Yn aml, nid ydym yn sylwi ar heriau iechyd meddwl ymhlith gweithwyr gofal iechyd proffesiynol ac, i lawer, gall estyn allan am gymorth deimlo fel cam amhosibl. Ond i’r rhai sy’n cymryd y cam hwn, gall y canlyniadau newid bywydau.
Yn y blog hwn, mae Matt , sy’n nyrs cofrestredig, yn rhannu ei daith — o sylwi ar arwyddion cynnar trafferthion meddyliol, i gael cefnogaeth drwy Canopi.
I lawer o siaradwyr Cymraeg, gall dod o hyd i gymorth iechyd meddwl yn eu mamiaith newid bywydau. Mae Canopi yn falch o allu cynnig hyn i staff y GIG a gofal cymdeithasol sy’n gweithio ledled Cymru.
Weithiau, y peth anoddaf am gael cymorth yw cydnabod pryd mae angen y cymorth hwnnw arnoch chi. I Chris, sy’n weinyddwr yn y GIG, daeth yr adeg honno ar ôl cyfnod heriol iawn yn y gwaith.
Heddiw yw diwrnod cyntaf y gwanwyn yn swyddogol. I lawer ohonom, mae hi’n adeg glanhau ein cartrefi, tacluso ein gerddi a chlirio’r cypyrddau dillad. Ond beth am ein hiechyd meddwl? Yn y blog hwn, fe edrychwn ar y ffyrdd gwahanol y gallwn godi hwyliau a chael dylanwad positif ar ein lles meddyliol dros y gwanwyn.
Mae Becs yn wyliwr adar brwd ac yn uwch swyddog cyfathrebu Canopi. Yn y blog hwn, mae’n rhannu sut mae dysgu, gwrando a gweld adar wedi gwella ei hiechyd meddwl ac yn cynnig rhai awgrymiadau i’ch helpu i ddechrau sylwi ar y bywyd gwyllt y tu allan i’ch ffenestr.
Yn y gwasanaeth Canopi, mae’ch adborth yn bwysig iawn inni. Dyna pam rydyn ni’n gofyn i bawb gwblhau arolwg adborth ar ôl cael cymorth gennyn ni.
Mae adborth yn ein helpu i greu gwell gwasanaeth cymorth i staff y GIG a gofal cymdeithasol yng Nghymru. Darllenwch ymlaen i gael gwybod yr hyn a ddywedodd y bobl sy’n defnyddio ein gwasanaeth am Canopi.
Gall darllen fod yn fath o gymorth seicolegol o’r enw bibliotherapi. I gydnabod ei fanteision, cychwynnodd Canopi y gyfres lyfrau Hunangymorth ar y Sul (‘Self-Help Sunday’). Yma, rydyn ni’n rhannu’r pum llyfr gorau y mae ein cydweithwyr wedi’u hargymell i ni.
Mae Susan Cousins yn swyddog prosiect, yn gwnselydd, a hi hefyd yw awdur y llyfr “Overcoming Everyday Racism: Building Resilience and Wellbeing in the Face of Discrimination and Microaggressions”. Yn y blog hwn, mae Susan yn sôn am ei phrofiadau personol a sut gwnaeth y rhain ei hysgogi i ysgrifennu llyfr. Mae hi’n rhannu ei phrif negeseuon am sut i feithrin gwydnwch a lles ac yn cynnig cyngor i’ch helpu i gofleidio pwy ydych chi’n llawn, y tu hwnt i gyfyngiadau canfyddiadau pobl eraill.
Drama a ddarlledir ar S4C yw ‘Creisis’. Mae’n dilyn profiadau nyrs seiciatrig sy’n gweithio’n rhan o dîm ‘Datrys Argyfyngau a Thriniaeth Gartref’ yng Nghwm Rhondda. Roedd seiciatrydd Canopi, Dr Rhys Bevan-Jones, yn ymgynghorydd seiciatrig i’r ddrama. Yma, mae’n sôn rhagor am y gyfres a sut mae’n adlewyrchu profiadau gweithwyr y GIG yng Nghymru heddiw.