Categorïau
Blog

Fe wnaeth Canopi fy helpu i reoli fy straen a pharhau i weithio ym maes gofal cymdeithasol

Mae Joanne yn weithiwr cymdeithasol profiadol yng Nghymru. Gofynnodd am gymorth gan Canopi yn 2023 ar ôl cael trafferth gyda straen gwaith. Yn yr erthygl blog hon, mae’n esbonio sut wnaeth therapi gwybyddol ymddygiadol a ddarparwyd drwy Canopi ei helpu i reoli straen yn y gwaith.

 

Rwy’n weithiwr gofal cymdeithasol gyda 30 mlynedd o brofiad o weithio ym maes iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru wledig. Yn fy rôl bresennol mewn tîm diogelu, rwy’n ymdrin â rhai achosion cymhleth a wnaeth gyfrannu at deimladau fy mod wedi fy llethu gan straen yn 2023.

Ar y pryd, doeddwn i ddim yn teimlo fy mod i’n gallu siarad â’m rheolwr am hyn ac fe wnes i osgoi mynd i weld fy meddyg teulu, gan ofni y byddai’n dweud wrthyf am gymryd amser i ffwrdd o’r gwaith, gan arwain at fwy o bwysau ar fy nghydweithwyr – heb sôn am y sylw digroeso fyddai’n gysylltiedig â hynny. 

Yn y gorffennol, roeddwn i wedi profi pyliau o banig ac wedi symud i dîm gwaith arall mewn ymgais i ymdopi â theimladau tebyg. Y tro hwn, roeddwn i eisiau dod o hyd i ffordd o reoli fy straen yn y gwaith er mwyn gallu aros yn y tîm diogelu ond osgoi mynd yn ôl i’r un hen batrwm o banig. 

Cofiais fy mod i wedi gweld poster Canopi ar y wal yn y gwaith ac wedi mynd ar y fewnrwyd gwaith i ddarllen mwy amdano. Roedd gwybod fy mod i’n gallu cysylltu â nhw’n ddienw, heb i’m cyflogwr fod yn ymwybodol, yn rhywbeth wnaeth fy helpu i gymryd y cam cyntaf. Ar ôl cysylltu â’r gwasanaeth ar-lein, siaradais â Meddyg-Cynghorydd hyfryd a roddodd ychydig o gyngor cychwynnol i mi cyn fy atgyfeirio i therapydd therapi gwybyddol ymddygiadol (CBT). 

Fel rhan o’r sesiynau CBT roedd yn rhaid i mi gwblhau gweithgareddau bob wythnos ac yna eu trafod gyda fy therapydd drwy Teams. I ddechrau, roeddwn i’n poeni na fyddai cael cyfarfodydd ar-lein mor effeithiol, ond roeddwn i’n anghywir. 

Roedd fy therapydd yn fedrus iawn o ran sicrhau fy mod i’n siarad yn agored ac yn myfyrio ar fy mhrosesau meddwl yn y gwaith mewn ymateb i’r sefyllfaoedd roeddwn i’n eu hwynebu. Fe wnaeth hi fy helpu i sylweddoli nad yw’n broses hawdd na chyflym newid newid rhai o’r meddyliau rydyn ni’n eu cael, ond ein bod ni’n gallu newid sut rydyn ni’n ymateb iddyn nhw. Gydag amser, dechreuais newid fy safbwynt a sylweddoli nad fy nghyfrifoldeb i yn unig oedd y bobl roeddwn i’n gweithio gyda nhw (cydweithwyr a defnyddwyr gwasanaeth). 

Fe wnaeth therapi hefyd fy helpu i gydnabod nad oedd gen i gydbwysedd da rhwng bywyd a gwaith a bod angen i mi osod ffiniau i atal y system neu bobl eraill rhag manteisio ar fy haelioni. Er enghraifft, roeddwn i’n arfer teimlo’n euog am gymryd fy ngwyliau blynyddol ac yn ymateb i gydweithwyr tra nad oeddwn i yn y gwaith. Fe wnaeth fy therapydd fy helpu i ddeall bod fy nghydweithwyr yn teimlo bod hyn yn dderbyniol gan fy mod i wedi bod yn caniatáu’r patrwm ymddygiad hwnnw, ac nad oes unrhyw beth o’i le gyda bod yn bendant a dweud ‘na’. 

Roedd y cymorth a gefais gan Canopi yn hynod fuddiol. Mae’n anodd rhoi mewn geiriau faint mae wedi fy helpu i barhau i weithio yn fy swydd fel gweithiwr cymdeithasol. Ers i fy sesiynau gyda Canopi ddod i ben, rydw i wedi gallu rheoli straen yn well ac rwy’n ailddefnyddio’r gweithgareddau a argymhellwyd gan fy therapydd i’m helpu i wneud hyn.

Byddwn i’n sicr yn argymell Canopi i unrhyw un sy’n gweithio ym maes gofal cymdeithasol. 

Rydw i wedi sôn yn breifat wrth ddau gydweithiwr ynghylch sut mae’r gwasanaeth wedi bod o fudd i mi a’i fod wedi cael effaith lawer mwy cadarnhaol nag y byddai cymryd absenoldeb salwch wedi’i chael. Rwy’n eithriadol o ddiolchgar i Canopi am eu cymorth a gobeithio y bydd yr erthygl blog hon o gymorth i unrhyw un sy’n ansicr ynghylch beth i’w wneud. 

Mae Canopi wedi cael dros 700 o atgyfeiriadau gan staff gofal cymdeithasol yng Nghymru ers 2022. 
Helpwch ni i ledaenu’r gair am Canopi yn eich gweithle drwy archebu posteri a thaflenni. Anfonwch ebost at canopi@caerdydd.ac.uk i gael rhagor o wybodaeth.