Mae Canopi yn darparu gwasanaeth cymorth iechyd meddwl cyfrinachol am ddim i weithwyr iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru.
Sylwer nad ydym yn wasanaeth brys. Os oes angen help arnoch ar unwaith, cliciwch yma.
Ffurflen atgyfeirio
Angen siarad? Llenwch y ffurflen atgyfeirio isod a bydd un o’r tîm yn cysylltu â chi.
Noder: i’n helpu i ddarparu’r gwasanaeth gorau posibl, ni fydd Canopi fel arfer yn derbyn hunanatgyfeiriadau lle mae unigolion eisoes yn derbyn neu ar fin cychwyn triniaeth neu therapi seicolegol gan ddarparwr gofal arall neu ffynhonnell gymorth. Yn yr achosion hyn, byddem yn eich annog i drafod y rhesymau pam eich bod yn ceisio cymorth ychwanegol gyda’ch darparwr gofal presennol neu’ch meddyg teulu.
Beth sy’n digwydd nesaf?
- Unwaith y byddwn wedi derbyn eich ffurflen atgyfeirio, byddwn yn trefnu apwyntiad i chi gael galwad ffôn gydag un o’n Meddygon Cynghorol.
- Anfonir e-bost atoch o fewn un diwrnod gwaith yn cadarnhau eich manylion, ynghyd ag amser a dyddiad eich apwyntiad dros y ffôn.
Byddwch yn ymwybodol y gallai ein hymateb fynd i’ch ffolder post sothach.
Argaeledd Meddygon Cynghorol
Mae apwyntiadau Meddygon Cynghorol Canopi ar gael rhwng 9am ac 8pm ddydd Llun i ddydd Gwener (ac eithrio gwyliau banc).
Nid wyf wedi derbyn cadarnhad fy apwyntiad
Caniatewch hyd at un diwrnod gwaith i dderbyn eich e-bost cadarnhau a gwiriwch eich ffolder post sothach cyn cysylltu â’r tîm.
Ble bydd fy manylion yn cael eu rhannu?
Mae Canopi yn wasanaeth cyfrinachol. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio ac yn gofalu am eich data, ewch i’n polisi preifatrwydd.