Weithiau, mae angen help arnom ar unwaith.
Nid yw Canopi yn wasanaeth iechyd meddwl brys, ond gallwch gael mynediad i’r gwasanaethau canlynol.
Mewn argyfwng, ffoniwch 999. Gallwch hefyd gael cymorth mewn argyfwng trwy eich Meddyg Teulu.
Gwasanaeth Negeseuon Testun Cymorth mewn Argyfwng SHOUT
Shout yw gwasanaeth negeseuon testun 24/7 cyntaf y DU, sy’n rhad ac am ddim ar bob prif rwydwaith ffonau symudol, i unrhyw un sydd mewn argyfwng, ar unrhyw bryd, yn unrhyw le.
📞 Tecstiwch FRONTLINE i 85258
Y Samariaid
Llinell gymorth lles ar gyfer gweithwyr a gwirfoddolwyr iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru. Bydd gwirfoddolwr gyda’r Samariaid yn gwrando heb farnu ac yn cynnig cymorth cyfrinachol am ddim.
Mae’r llinellau ar agor rhwng 7am ac 11pm bob dydd.
📞 Cymraeg: 0800 484 0555
📞 Saesneg: 0808 164 2777
Gwasanaethau eraill y tu allan i oriau
Gwasanaeth Cwnsela Cymdeithas Feddygol Prydain (BMA)
Gall pob meddyg a myfyriwr meddygol gyrchu’r gwasanaeth hwn gan y BMA. Nid oes rhaid i chi fod yn aelod.
📞 0330 123 1245