Categorïau
Blog

Sut y gwnaeth Canopi helpu ymgynghorydd o’r GIG i oresgyn symptomau iselder a gorbryder

Mae Gemma yn ymgynghorydd yn y GIG. Yng nghanol heriau gwaith a hyfforddiant, roedd hi’n aml yn teimlo ei bod yn twyllo ei hun ac yn meddwl am ladd ei hun. Darllenwch am daith Gemma a sut y gwnaeth gofyn am gymorth gan Canopi ei helpu i deimlo’n iachach a hapusach.

Diolch i Gemma sydd wedi rhannu ei stori yn y gobaith y bydd rhagor o bobl yn teimlo’n barod i gysylltu â Canopi i gynorthwyo eu hiechyd meddwl. 

A minnau’n uwch-gofrestrydd, dechreuais ddioddef syndrom y ffugiwr (imposter syndrome) a gorbryder yn ymwneud â gwaith.  Gan fy mod eisoes yn teimlo stigma parhaus gan nad oeddwn yn hyfforddai amser llawn, doeddwn ni ddim am ychwanegu iechyd meddwl at fy mhroblemau, felly ddywedais i ddim gair wrth neb.  

Dechreuodd effeithio ar fy nghwsg. Collais fy hyder mewn bod yn fam, gwraig, clinigwr a ffrind, ac roedd yn rhaid i mi gael fy ngorfodi i wneud cais am swyddi ymgynghori.  

Fe gyflwynais i gais, ac fe ges fy mhenodi’n ymgynghorydd locwm. Pan ddechreuais fy swydd, roeddwn yn teimlo o dan gryn bwysau i fod yn hyblyg ac yn barod i addasu i ofynion yr adran, gan mai fy nod bob amser oedd cael swydd barhaol. Fe effeithiodd hyn ar fy ngwydnwch yn gynyddol; ni fyddai neb wedi meddwl fy mod yn dioddef yn dawel a mod i’n aml yn meddwl am ladd fy hun. 

Gartref, dechreuais gael hunllefau am fynd i’r gwaith ac roeddwn yn dangos symptomau iselder. Nid oeddwn yn gallu rhyngweithio â fy mhlant na chael unrhyw fwynhad wrth gymdeithasu neu wneud ymarfer corff.  Fe ddaeth hyn â llawer o atgofion annymunol yn ôl i mi o berthynas drawmatig flaenorol yr oeddwn wedi bod ynddi, ac roeddwn yn teimlo bod fy sefyllfa yn mynd o ddrwg i waeth.  

Doeddwn i ddim eisiau mynd at fy meddyg teulu, a doeddwn i ddim eisiau dweud wrth fy rheolwr.  Roeddwn i wedi ceisio sôn wrth un neu ddau o fy nghydweithwyr, ond ni wnaeth neb estyn allan na mynd i’r afael â’r mater. 

Roeddwn i ar goll.  

Pan gysylltais i â Canopi o’r diwedd (yn crïo wrth siarad â nhw dros y ffôn am y tro cyntaf), roeddwn i’n teimlo fy mod yn cael fy nghefnogi o’r cychwyn cyntaf.  Roeddwn yn hynod ffodus i gael fy mharu â therapydd gwych a gallu cymryd rhan mewn sesiynau ar-lein heb orfod mynd gam o gartref, ac ar amser oedd yn gyfleus i mi. 

Fe wnaeth arweiniad tyner fy therapydd fy helpu i fod yn agored a siarad am beth oeddwn wedi’i ddioddef a magu’r hyder i ofyn am help gan fy meddyg teulu. Fe deimlais, o’r diwedd, mod i’n gallu bod yn onest a chymryd y cam cyntaf ar y daith tuag at fod yn iachach a hapusach.

Nid fi oedd yr unig un i gael ei effeithio gan fy argyfwng iechyd meddwl – fy effeithiodd ar fy ngŵr, fy nhri o blant a fy ffrindiau hefyd.  Heb gefnogaeth Canopi, mae’n fwy na phosibl na fyddwn i yma, ac nid ar chwarae bach yr ydw i’n dweud hynny.

Diolch am eich ymrwymiad parhaus ac am ddatblygu’r gwasanaeth. Mae’r hyn rydych chi’n ei wneud yn wirioneddol bwysig ac yn gwneud gwahaniaeth.

Darllenwch ragor 

I gael rhagor o straeon am brofiadau go iawn, yn ogystal ag argymhellion ynghylch iechyd meddwl a lles sy’n seiliedig ar dystiolaeth, darllenwch ein blog

Atgyfeiriwch eich hun heddiw

Os ydych yn gweithio i’r GIG neu ym maes gofal cymdeithasol yng Nghymru ac mae angen cymorth arnoch chi i wella eich iechyd meddwl, rydym yma i helpu.