Croeso i’n tudalen adnoddau.
Yma, gallwch gael hyd i gyfoeth o adnoddau ar-lein ac ar sail apiau sydd wedi’u dylunio i wella eich iechyd meddwl.
Baker’s Dozen
Adnoddau rheoli straen am ddim i weithwyr gofal iechyd ar reoli straen.
Bibliotherapi
Nod cynllun Presgripsiwn Llyfrau Cymru yw cefnogi pobl trwy ddefnyddio llyfrau hunangymorth o ansawdd uchel, a ddewiswyd yn arbennig gan seicolegwyr a chwnselwyr.
Posteri canopi
Lawrlwythwch neu archebwch bosteri Canopi i’w gosod yn y gweithle iechyd a gofal cymdeithasol.
Gallwch eu lawrlwytho isod ac mae gennym hefyd fersiynau wedi’u lamineiddio ar gael i’w harchebu am ddim.
I archebu posteri, defnyddiwch ein ffurflen gyswllt.
Cwtsh Creadigol
Mae’r Cwtsh Creadigol yn adnodd lles creadigol newydd ar gyfer gweithwyr y GIG a Gofal Cymdeithasol yng Nghymru.
Dewiswch o fwydlen o weithgareddau dyrchafol a gyflwynir gan artistiaid proffesiynol ar adeg sy’n addas i chi.
Gwella Addysg Iechyd Cymru
Manteisiwch ar amrywiaeth o adnoddau iechyd a lles trwy AaGIC.
Iechyd Ymarferwyr y GIG
Manteisiwch ar gyfoeth o opsiynau cymorth, gan gynnwys nifer o weminarau a phodlediadau gan arbenigwyr yn eu maes. Gweler eu calendr digwyddiadau.
Silvercloud Cymru
Mae SilverCloud yn rhan o’r gwasanaeth hunangymorth dan arweiniad Canopi, ond gallwch gyrchu rhai agweddau ar SilverCloud yn gyfan gwbl ar ffurf hunangymorth os dymunwch. Mae’r rhaglen hon yn gyfrinachol ac yn ddiogel.
Adnoddau Gofal Cymdeithasol Cymru
Gall staff gofal cymdeithasol yng Nghymru gael hyd i adnoddau a chanllawiau yn Gymraeg ac yn Saesneg.
Myfyrdod Revive Prescribed
Adnodd am ddim yw Myfyrfod Revive Prescribed dan arweiniad Dr Liza Thomas-Emrus, meddyg teulu a gymhwysodd fel athrawes fyfyrdod gydag Ysgol Myfyrdod Prydain. Addas ar gyfer dechreuwyr.
Ioga
Sesiynau ioga hygyrch gyda Miranda Yoga ar YouTube. Mae sesiynau penodol ar gyfer gorbryder a galar ar gael.
Yr Ymddiriedolaeth Natur
Mae treulio amser y tu allan ym myd natur yn dwyn nifer o fuddion i’n hiechyd a’n lles, o wella iechyd corfforol a gostwng pwysedd gwaed, straen a gorbryder i hybu hwyliau, hunan-barch a gwydnwch.
Mae Ymddiriedolaethau Natur Cymru yn rheoli 216 gwarchodfa natur sy’n cwmpasu dros 8,000 hectar – mannau gwyrdd llawn bywyd gwyllt i’w mwynhau gydol y flwyddyn.
Chwiliwch am Warchodfa Natur yn agos atoch chi a dysgwch ragor am weithgareddau a digwyddiadau eich Ymddiriedolaeth Natur leol.