Cymorth

Cyn mis Ebrill 2022, roedd ein gwasanaeth yn cael ei adnabod fel Iechyd i Weithwyr Iechyd Proffesiynol Cymru (HHP Cymru).

Rydym bellach yn cynnig cymorth iechyd meddwl i staff y GIG a Gofal Cymdeithasol yng Nghymru o dan yr enw Canopi.

Atgyfeirio

Os hoffech atgyfeirio rhywun i gael cymorth gan wasanaeth Canopi, llenwch ein ffurflen atgyfeirio.

Help mewn argyfwng

Os ydych angen siarad â rhywun ar frys, gallwch ffonio’r Samariaid ar 116 123 neu tecstiwch FRONTLINE i 85258.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar ein tudalen Help mewn argyfwng.

Hunangymorth

​Hefyd, mae llawer o grwpiau hunangymorth a grwpiau rhithwir y gallech droi atynt. Mae dolen i’r rhain i’w gweld ar ein tudalen Adnoddau.

Efallai y bydd gan eich bwrdd iechyd chi gymorth y gallwch droi ato hefyd.

Chwilio am help y tu allan i Gymru?

image of the national wellbeing hub for scotland

Cymorth yn yr Alban

Mae Gwasanaeth Arbenigol y Gweithlu (WSS), a ddarperir gan Iechyd Ymarferwyr y GIG, yn wasanaeth iechyd meddwl amlddisgyblaethol cyfrinachol sydd ag arbenigedd mewn trin gweithwyr iechyd a gwasanaethau cymdeithasol proffesiynol a reoleiddir. Maent yn arbenigo mewn gofalu am weithwyr proffesiynol a reoleiddir fel cleifion, ac felly maent yn arbenigwyr ar y rhyngwyneb rhwng rheoleiddio, cyflogaeth a salwch meddwl a dibyniaeth.

logo of the NHS practitioner health

Cymorth yn Lloegr

Mae Iechyd Ymarferwyr yn wasanaeth GIG cyfrinachol am ddim i feddygon a deintyddion ledled Lloegr sydd â salwch meddwl a phroblemau caethiwed, sy’n gweithio neu’n awyddus i ddychwelyd i ymarfer clinigol.

Gall y gwasanaeth helpu gyda materion sy’n ymwneud â phryder iechyd meddwl, gan gynnwys straen neu iselder neu broblem caethiwed, yn enwedig lle gallai’r rhain effeithio ar waith. Darperir y gwasanaeth gan weithwyr iechyd proffesiynol sy’n arbenigo mewn cymorth iechyd meddwl i feddygon ac mae ar gael mewn gwahanol leoliadau ledled Lloegr