Categorïau
Blog

Adnabod arwyddion hunan-niweidio, a ble i gael cefnogaeth

Sylwch fod y blog hwn yn cynnwys gwybodaeth am hunan-niweidio – mae’n bosibl y bydd hynny’n peri gofid i chi. Os oes angen cymorth neu gefnogaeth brys arnoch chi, ewch i https://canopi.nhs.wales/cy/help-mewn-argyfwng/. Fel arall, darllenwch ymlaen i ddysgu mwy am arwyddion hunan-niweidio a sut i gael cymorth.

Beth yw hunan-niweidio?

Mae hunan-niweidio yn cynnwys eich gwenwyno eich hunan, eich anafu eich hunan trwy, dorri, gwenwyno, crafu, llosgi, ergydio, bwrw, tynnu gwallt [neu] amharu ar welliant clwyfau (SamariaidMind). Mae’n gallu digwydd unwaith neu sawl gwaith.

Dydy pobl sy’n anafu eu hunain ddim yn bwriadu eu lladd bob tro

I rai, mae hunan-niweidio’n cael ei ddefnyddio gyda’r bwriad o’u lladd eu hunain Mae hon yn sefyllfa o argyfwng ac mae angen cefnogaeth ar y bobl hyn. Mae’n bosibl y bydd pobl eraill yn eu niweidio eu hunain fel ffordd o ymdopi â thrallod emosiynol. 

Mae’n gallu bod yn anodd gwybod beth yw bwriadau rhywun pan fyddan nhw’n eu hanafu eu hunain. Efallai y byddan nhw’n amwys neu ddim yn glir am eu bwriadau eu hunain neu am y rhesymau dros wneud yr hyn y maen nhw wedi’i wneud. Drwy fod yn anfeirniadol a chaniatáu iddyn nhw siarad â chi, gallwch chi eu hannog i ofyn am gymorth.

Arwyddion y gallai rhywun fod yn hunan-niweidio

Gall fod yn anodd canfod hunan-niweidio ond mae rhai arwyddion cyffredin a all awgrymu y gallai rhywun fod yn hunan-niweidio. 

Ar wahân i’r arwyddion corfforol y gallai rhywun fod yn ei frifo ei hun, fel clwyfau neu ddarnau o wallt ar goll, mae arwyddion ymddygiadol ac emosiynol pwysig eraill i edrych amdanyn nhw. 

  1. Anafiadau heb eu hesbonio nad ydyn nhw’n gwella 
  2. Creithiau
  3. Rhannau o’r gwall ar goll 
  4. Gwisgo dillad llewys hir hyd yn oed mewn tywydd cynnes
  5. Llai o weithrediad yn y gwaith 
  6. Profi heriau gyda pherthnasoedd 
  7. Ymddangos fel eu bod wedi’u llethu neu amwys
  8. Tynnu yn ôl o ymwneud â phobl eraill 
  9. Hunan-barch isel

Beth i’w wneud os ydych chi’n meddwl bod rhywun fod yn hunan-niweidio

Os ydych chi’n poeni am rywun yn y gweithle, mae’n bwysig dilyn unrhyw weithdrefnau diogelu presennol sydd ar waith. Gall hyn olygu trosglwyddo’ch pryderon i rywun sydd wedi’i hyfforddi’n arbennig i gefnogi cydweithwyr fel rheolwr llinell neu swyddog diogelu. 

Os ydych chi’n teimlo’n gyfforddus i wneud hynny, gallwch chi siarad â’r person sydd, o bosibl, yn hunan-niweidio a chynnig eich cefnogaeth iddyn nhw trwy beidio â barnu a dweud wrthyn nhw am y cymorth sydd ar gael. Gallai hyn fod gan feddyg teulu’r person, gan wasanaeth cymorth iechyd meddwl neu les yn y gweithle (gweler ‘Cael cymorth’). 

Mae hefyd yn bwysig cofio gofalu amdanoch chi eich hunan pan fyddwch chi’n cynnig eich cefnogaeth i rywun arall. Mae Mind yn cynnig rhywfaint o wybodaeth ddefnyddiol ar sut i gefnogi rhywun sy’n hunan-niweidio, a sut i ofalu amdanoch chi eich hun yn y broses.

Cael cymorth

Ai argyfwng iechyd meddwl yw hwn?

Os ydych chi’n poeni y gallai rhywun achosi anaf iddo ei hunan yn syth, mae hwn yn argyfwng iechyd meddwl. Gweler ein tudalen Cymorth mewn Argyfwng am restr o wasanaethau iechyd meddwl brys. 

Cymorth i staff gofal cymdeithasol a GIG yng Nghymru

Dydy hunan-niweidio ddim yn argyfwng iechyd meddwl bob tro a gall ddod i’r amlwg ar draws ystod o ddiagnosisau iechyd meddwl, symptomau a materion cymdeithasol. 

Os ydych chi’n gweithio i’r GIG neu i ofal cymdeithasol yng Nghymru, ac eisiau dweud wrth rywun eich bod yn hunan-niweidio, yna gallai Canopi fod yn fan cychwyn diogel hefyd. Rydyn ni’n darparu gwasanaeth cyfrinachol, yn rhad ac am ddim i gefnogi pobl i adrodd eu straeon ac i gyfeirio pobl eraill at wasanaethau cymorth priodol. Mewn rhai achosion efallai mai gofal sylfaenol fyddai’r gwasanaeth mwyaf priodol. 

Sefydliadau eraill sy’n cynnig cymorth ynglŷn â hunan-niweidio: