Categorïau
Blog

Pum cam cyffredin o alar yn dilyn profedigaeth

Gall galaru anwylyd, naill ai trwy farwolaeth, diwedd perthynas neu fath arall o wahanu fod yn broses hynod anodd ac efallai y byddwch chi’n teimlo sbectrwm cyfan o emosiynau. Darllenwch ymlaen i archwilio pum cam galar fel y gallwch chi eu hadnabod ynoch chi’ch hun ac eraill.

Rhan angenrheidiol o’r profiad dynol

Mae’r seicolegydd a’r awdur, Dr Julie Smith yn esbonio bod galar yn rhan arferol o unrhyw brofiad dynol: “Mae’n broses angenrheidiol i fynd drwyddi pan fyddwn yn profi colli rhywun neu rywbeth yr oeddem yn ei garu, ei angen, yn teimlo’n gysylltiedig ag ef ac a oedd yn rhoi ystyr i’n bywyd.” 

Wrth alaru anwylyd, efallai y byddwch yn profi rhai teimladau nad ydynt yn gwneud synnwyr neu sy’n ymddangos yn ddryslyd i chi. Ac mewn rhai achosion, efallai y byddwn yn ymateb i golled trwy gau ein hemosiynau yn gyfan gwbl a cheisio cadw’n ‘brysur’. Yn y tymor hir, nid yw hyn yn gynaliadwy a gall wneud unrhyw gyfnodau o seibiant neu unigrwydd yn brofiad anodd. 

Gall cydnabod pum cam galar ein helpu i ymarfer caniatáu ein teimladau heb unrhyw farn ac mae pob un yn allweddol i dderbyn y golled yr ydym yn ei phrofi. 

Sylwodd Dr Elizabeth Ross ar bum cam cyffredin galar wrth gyfweld â chleifion â salwch angheuol yn y 1960au. Ar y pryd, nid oedd marwolaeth yn cael ei thrafod yn agored, ac roedd y model hwn yn helpu cleifion a oedd yn marw i wneud dewisiadau am eu gofal ac yn eu helpu nhw a’u hanwyliaid i brosesu eu galar. 

Y pum cam o alar 

Mae’n bwysig cofio nad yw’r camau yn dilyn trefn benodol a gallwch ailymweld â phob cam fwy nag unwaith. 

  • Gwadu “Ni all hyn fod yn digwydd.”

Gall colli rhywun fod yn llethol. Er mwyn amddiffyn ein hunain rhag y realiti hwn, efallai y byddwn yn gwadu bod y golled hon wedi digwydd. Gall hyn ein gadael yn teimlo’n ddideimlad.

  • Dicter “Pam fod hyn yn digwydd?” 

Gall sylweddoli’r hyn sy’n digwydd wneud inni deimlo dicter neu rwystredigaeth. Gall hyn gael ei gyfeirio at y person rydyn ni wedi’u colli, ein hunain, eraill neu fywyd yn gyffredinol. 

  • Bargeinio “Pe tawn i jest wedi…” 

Gall colled ein gadael yn teimlo’n gyfrifol neu’n euog. Efallai y byddwn yn dychmygu sut y gallem fod wedi gwneud pethau’n wahanol tra bod y person yn dal gyda ni i newid y canlyniad anochel. 

  • Iselder “Beth yw’r pwynt…?”

Gall tristwch a hiraeth dwys am y person rydyn ni wedi’u colli ein hysgogi i deimlo anobaith a difaterwch. Weithiau, gall y symptomau iselder sy’n dilyn colled fod yn eithafol ac effeithio ar weithrediad o ddydd i ddydd. Er enghraifft, teimlo bod bywyd yn ddiystyr neu fel bod rhan ohonoch wedi marw, unigrwydd dwys neu boen emosiynol. Os yw hyn yn wir, efallai eich bod yn profi Anhwylder Galar Hir.

  • Derbyn “Gallaf fyw gyda hyn”

Ar y cam hwn o alar, rydych chi’n derbyn yr hyn sydd wedi digwydd ac mae’r boen yn teimlo’n llai dwys. Efallai y byddwch hyd yn oed yn dechrau edrych ymlaen at y dyfodol yn optimistaidd. Mae model galar Tonkin yn disgrifio hyn yn eithaf da: nid yw’r galar yn diflannu; rydych chi’n tyfu o’i gwmpas, felly nid yw’n treiddio i bob rhan o’ch bywyd. 

Angen cefnogaeth gyda galar?

Os ydych chi’n galaru anwylyd, efallai y byddwch chi’n ystyried rhoi cynnig ar rai strategaethau i’ch helpu chi i symud trwy’r camau. Cymerwch olwg ar ein blog ‘Pillars of strength’ sy’n mynd â chi drwy wyth egwyddor i’ch helpu i ymdopi â cholled.

Os ydych chi’n teimlo tristwch dwys oherwydd galar, efallai y byddwch chi’n ystyried ceisio cymorth gan eich meddyg teulu. Gall gweithwyr y GIG a gofal cymdeithasol yng Nghymru gael cymorth a chefnogaeth trwy Canopi trwy atgyfeirio eu hunain ar-lein.