Categorïau
Blog

Hunanofal gwirioneddol: cadw’n iach ar ôl therapi

Dim ond y cam cyntaf tuag at adferiad yw derbyn cymorth iechyd meddwl ac weithiau rydym yn gallu profi ‘ailwaeledd’ yn ein hiechyd meddwl. Darllenwch ymlaen i ddysgu strategaethau profedig i’ch helpu i gadw’n iach, gan gynnwys beth i’w wneud os byddwch yn cael ailwaeledd.

Beth yw hunanofal?

Erbyn hyn rydym yn hen gyfarwydd â’r term ‘hunanofal’ ond beth mae’n ei olygu mewn gwirionedd? Gall ‘hunanofal’ olygu gwahanol bethau i wahanol bobl ond yn gyffredinol mae’n cyfeirio at arferion hanfodol sy’n cefnogi ein llesiant meddyliol a chorfforol.

I’r rhai sydd â hanes o anawsterau iechyd meddwl, diffyg hunanofal yw’r arwydd cyntaf fel rheol o ailwaeledd iechyd meddwl.

Dyna pam ei bod yn bwysig myfyrio ar strategaethau hunanofal sy’n gweithio i ni a defnyddio’r rhain i greu cynllun atal ailwaeledd. 

Byddwch yn rhagweithiol i atal ailwaeledd

Mae’n hanfodol eich bod yn creu cynllun atal pan ydych yn teimlo’n dda. Mae atal ailwaeledd fel brwsio’ch dannedd. Nid yw’n ddigonol i’w wneud bob hyn a hyn i atal pydredd dannedd – mae angen i chi gadw ati i frwsio bob dydd.

Meddyliwch am eich cynllun fel proses tri cham

Dylai hyn gynnwys:

  1. Arferion hunanofal dyddiol, parhaol i’ch helpu i gadw’n iach
  2. Strategaethau ymdopi sy’n eich helpu i reoli symptomau os byddant yn codi
  3. Arwyddion y gallai fod angen cymorth pellach arnoch, neu eich bod mewn argyfwng

Mae’n hanfodol bod eich cynllun atal yn bersonol i chi.

Dechreuwch arni heddiw

Os ydych chi’n cael trafferth dechrau arni, cymerwch gipolwg ar y  daflen gynllunio  ddefnyddiol hon a’r rhestr o strategaethau a argymhellir gan ein Grŵp Cynghori Cyhoeddus (PAG) isod.

Arferion hunanofal a argymhellir gan ein Grŵp Cynghori Cyhoeddus (PAG)

Treulio amser ym myd natur  Cynnal arferion cysgu iachTreulio amser gydag anifeiliaid anwesCreu llyfr lloffion o ddyfyniadau ysbrydoledig  
Creu ‘blwch iechyd meddwl’ gyda gwrthrychau ystyrlon  Cynnal ffordd actif o fywGwrando ar gerddoriaeth neu bodlediadauCreu rhestr o bobl yn eich rhwydwaith cymorth
Chwarae offerynBwyta brecwast daCymryd bath swigodCreu dyddlyfr gwerthfawrogi
  Darllen llyfr  Darlunio neu baentio llun  Rhoi cynnig ar fyfyrdod ar eich pen eich hun neu dan arweiniad  Tretio eich hun yn achlysurol

Beth i’w wneud os oes angen rhagor o gymorth arnoch neu eich bod o bosib mewn argyfwng

Os ydych yn meddwl eich bod mewn argyfwng. Mae’n bwysig cael cymorth ar unwaith.

Grŵp Cynghori Cyhoeddus Canopi (PAG)

Mae ein PAG yn cynnwys unigolion sydd wedi ceisio cymorth iechyd meddwl drwy Canopi a gweithwyr iechyd meddwl proffesiynol sy’n ein helpu i wella’n gwasanaethau.