Categorïau
Blog

Tyfu o gwmpas galar: wyth egwyddor i’ch helpu i ymdopi â cholled

Yn ein blog diwethaf, fe wnaethom nodi’r pum cam cyffredin o golli anwylyd. Yma, rydym yn archwilio wyth ‘piler o nerth’ i’n helpu i brosesu ein galar wrth gofio ein hanwylyd…

Pan fyddwch yn colli anwylyd, gall fod yn anodd iawn dychmygu bywyd hebddynt. Ar ôl mynd trwy’r pum cam o alar, faint bynnag o weithiau drosodd, gall y rhan fwyaf gyrraedd lefel o dderbyn, ond sut mae hyn yn edrych mewn gwirionedd?

Roedd y cwnselydd galar, Dr Lois Tonkin yn gweithio gyda mam ifanc. Ar ôl marwolaeth ei phlentyn, esboniodd y fam ei bod yn teimlo ei bod wedi’i llorio gan ei galar a dychmygodd y byddai ei galar yn mynd yn llai wrth i amser fynd yn ei flaen. Yn lle hynny, roedd hi’n teimlo bod maint a lefel ei galar yn aros yr un fath ond bod ei bywyd o’i gwmpas yn tyfu’n fwy.  

Wyth piler o nerth wrth wynebu galar

Mae’r seicotherapydd, Dr Julia Samuel, yn amlygu wyth egwyddor i’w cofio wrth ddelio â galar, a elwir hefyd yn Wyth Piler o Nerth. 

Ein perthynas ag eraill a’r un sydd wedi marw

Sut gallwn ni barhau perthynas â pherson nad ydynt gyda ni mwyach? Beth pe bai gennym berthynas anodd â nhw pan oeddent dal yma? 

Mae dod o hyd i ffordd i ddangos y berthynas honno’n allanol wedi cynyddu teimladau o bositifrwydd yn ystod y broses alaru. Gallai hyn olygu gwisgo eu hoff liw neu goginio eu hoff bryd. Gall blaenoriaethu’r perthnasoedd allweddol eraill yn ein bywydau hefyd ddod â hapusrwydd, cefnogaeth a boddhad i ni mewn sawl ffordd. 

Perthynas â ni ein hunain

Yn ystod y broses o alaru, mae’n hawdd teimlo dicter am ein hunain am deimlo emosiynau penodol fel rhyddhad pan fydd person wedi mynd. Mae’n bwysig bod yn hunan-dosturiol yn ystod y cyfnod hwn a gwybod nad yw teimladau yn eich gwneud yn berson drwg. Gall deall pum cam galar helpu gyda hyn. 

Ffyrdd o fynegi emosiwn

Dewch o hyd i ffordd i fynegi eich galar a’ch colled. Gallai hyn fod drwy hobïau, siarad â ffrindiau neu gadw dyddiadur. 

Er ei bod yn iach i fynegi ein hemosiynau, dylem weithio ar ein gwytnwch o ran y pethau sy’n achosi gofid i ni. Gallai hyn olygu gwybod beth sy’n achosi’r teimladau hyn a chymryd seibiant pan fydd hyn yn digwydd. 

Amser

Yr egwyddor allweddol yma yw cymryd mwy o amser nag sydd ei angen fel arfer i wneud penderfyniadau, boed yn fawr neu’n fach, er mwyn osgoi difaru. Efallai y byddwch yn ei chael yn anodd edrych ymlaen yn ystod y cyfnod hwn, felly gall aros yn bresennol a gwybod nad oes amserlen benodol ar gyfer y broses alaru fod o gymorth. 

Meddwl a chorff

Mae niwrowyddonwyr yn dweud bod pob meddwl a gawn yn cael effaith gorfforol ar y corff. Gall galar deimlo’n debyg iawn i ofn a’i gwneud hi’n anodd i ni ymlacio. Dyna pam ei bod yn hanfodol ein bod yn dod o hyd i ffordd i reoleiddio ein hunain trwy gyfuniad o ymarfer corff cardiofasgwlaidd gydag ymarferion myfyrio ac arferion bwyta rheolaidd. Gallech roi cynnig ar: 

  • Cynllunio prydau bwyd ymlaen llaw i wneud yn siŵr eich bod yn bwyta’n dda
  • Mynd i redeg neu gerdded yn yr awyr agored 
  • Myfyrdod dan arweiniad rhad ac am ddim gan Revive Prescribed
Terfynau

Weithiau mae’n anodd dweud na wrth deulu, ffrindiau neu gydweithwyr pan fyddwn yn galaru, yn enwedig pan fyddant yn meddwl eu bod yn gwybod beth sydd orau i ni yn ystod y cyfnod anodd hwn. Ar y llaw arall, os byddwn bob amser yn dweud na, efallai y byddwn yn colli allan ar gyfleoedd a fydd yn ein helpu gyda’n galar. 

Mae Dr Samuel yn argymell rhoi amser i chi’ch hun gydnabod dymuniadau eraill cyn dweud beth sy’n iawn i chi. Ar rai adegau, gall fod yn ddefnyddiol ‘rhoi cynnig’ ar rywbeth ond gwyddoch y gallwch chi bob amser ddweud na y tro nesaf os nad yw’n iawn i chi. 

Strwythur 

Gall arferion iach fod yn hynod ddefnyddiol wrth reoli ein galar ein hunain. Nid rheoli pob agwedd o’ch bywyd yw’r nod yma, ond cael cynllun syml gyda rhywfaint o hyblygrwydd ynddo. 

Gallech chi feddwl am neilltuo rhai rhannau o’r dydd i arferion da fel: 

  • Ymarfer corff
  • Gwaith tŷ
  • Amser i gofio’r person sydd wedi marw
  • Gweithgareddau tawelu 
  • Arferion cysgu 
Canolbwyntio

Mae ‘canolbwyntio’ yn dechneg deallusrwydd corfforol sy’n ein galluogi i ryddhau emosiynau sy’n aml yn mynd heb eu mynegi. 

Mae’n golygu dod o hyd i le tawel a chymryd sylw o’n synhwyrau corffol ac unrhyw deimladau sy’n codi cyn eu rhyddhau. Darllenwch fwy am ganolbwyntio o’r wyth piler o nerth. 

Angen cefnogaeth gyda galar?

Os ydych yn teimlo tristwch dwys o ganlyniad i alar, efallai y byddwch yn ystyried ceisio cymorth gan eich meddyg teulu. Gall gweithwyr y GIG a gofal cymdeithasol yng Nghymru gael cymorth a chefnogaeth trwy Canopi trwy atgyfeirio eu hunain ar-lein.