Mae panig yn digwydd pan fydd teimladau o ofn a phryder yn mynd yn gylch, gan sbarduno rhuthr o symptomau corfforol a meddyliol llethol, sef yr hyn a elwir hefyd yn bwl o banig.
Mae’n bwysig ymyrryd er mwyn gallu rheoli’ch symptomau ac atal y cylch yn stond.
Cylch y Panig
- Sbardun ysgogi (mewnol neu allanol): hwyrach mai meddwl am rywbeth sy’n peri trallod ichi fydd hyn neu wynebu ffobia
- Bygythiad canfyddedig: mae hyn yn achosi’r braw ysgafn y bydd rhywbeth annymunol yn digwydd, sef yr hyn a elwir hefyd yn ofn
- Synhwyrau corfforol: hwyrach y bydd rhuthr o symptomau corfforol megis curiad calon cyflym a diffyg anadl yn arwain at ofni bod trychineb ar ddigwydd, sef y teimlad bod y gwaethaf yn mynd i ddigwydd.
Pan fyddwch chi’n cael pwl o banig, efallai y cewch eich sbarduno gan atgofion neu sefyllfaoedd penodol sy’n eich atgoffa o’r pyliau; mae hyn yn achosi i’r cylch barhau.
Symptomau corfforol pwl o banig:
- Curiad calon cyflym neu afreolaidd
- Teimlo’n benysgafn neu’r bendro
- Colli archwaeth
- Diffyg anadl
- Chwysu
- Teimlo’n boeth
Symptomau meddyliol pwl o banig:
- Tensiwn neu nerfau
- Meddyliau obsesiynol
- Diffyg cwsg
- Poeni am y gorffennol neu’r dyfodol
- Methu ymlacio
- Atgofion trawmatig sy’n ymwthio
Torri’r cylch o banig
Os ydych chi’n cael pyliau o banig, dylech chi siarad â’ch meddyg teulu. Hwyrach y bydd yn gallu argymell dulliau seicolegol neu ffarmacolegol, neu gyfuniad o’r ddau.
Therapïau siarad a meddyginiaethau yw’r triniaethau mwyaf cyffredin:
- Mae therapïau siarad megis Therapi Gwybyddol Ymddygiadol (CBT) yn eich helpu i reoli sbardunau gorbryder a’r ffordd rydych chi’n ymateb yn ystod pwl o banig. Er enghraifft, drwy ddefnyddio technegau ymwybyddiaeth ofalgar.
- Mae meddyginiaethau megis gwrth-iselyddion yn helpu i gynyddu lefel y cemegau niwrodrosglwyddo yn yr ymennydd. Hwyrach y bydd y cemegau hyn yn helpu i wella eich hwyliau cyffredinol a lleihau eich pryder.
Gallwch chi hefyd gyfeirio eich hun at Canopi. Rydyn ni’n cynnig cymorth iechyd meddwl i weithwyr y GIG a gofal cymdeithasol yma yng Nghymru.
- Dewch i wybod rhagor am sut mae’r gwasanaeth yn gweithio yma.
- Atgyfeiriwch eich hun heddiw
- Darllenwch am brofiadau personol pobl sy’n defnyddio ein gwasanaeth, gan gynnwys meddyg teulu dan hyfforddiant a geisiodd gymorth oherwydd gorbryder.