Cwestiynau Cyffredin

Beth yw Canopi?

Mae Canopi yn wasanaeth cymorth iechyd meddwl cyfrinachol am ddim i staff y GIG a staff gofal cymdeithasol yng Nghymru, wedi’i ariannu gan Lywodraeth Cymru a’i weinyddu gan Brifysgol Caerdydd. Mae’n cynnig sawl lefel o gymorth seicolegol, gan gynnwys hunangymorth, hunangymorth dan arweiniad, cymorth gan gymheiriaid, a therapïau rhithwir neu wyneb yn wyneb.

Pwy all gael mynediad at wasanaeth Canopi?

Mae Canopi ar gael i staff sydd dros 18 oed sy’n gweithio mewn rolau neu wasanaethau ym maes gofal cymdeithasol a’r GIG ledled Cymru. Rydym yn cefnogi unigolion sy’n profi ystod o anawsterau iechyd meddwl megis gorbryder, iselder a thrawma.

Sut alla i gael cymorth brys?

Nid yw Canopi yn wasanaeth brys ac nid yw’n darparu cymorth brys na chymorth mewn argyfwng. Dylai’r rhai sy’n profi trallod uniongyrchol gysylltu â gwasanaeth 111 y GIG, gan wasgu 2, y Samariaid (116 123), neu dylent ddefnyddio’r gwasanaeth neges destun FRONTLINE (85258). Os oes angen help arnoch ar unwaith, cliciwch yma.

A yw Canopi yn wasanaeth cyfrinachol?

Ydy. Mae cyfrinachedd yn rhan greiddiol o’r gwasanaeth. Mae Canopi wedi’i gynllunio ar gyfer unigolion a allai deimlo’n anghyfforddus yn ceisio cymorth trwy eu cyflogwr.

Sylwer: Mae Canopi yn wasanaeth annibynnol ar y GIG ac nid oes gennym fynediad at eich cofnod meddygol sydd gan y GIG ac nid ydym yn cyfrannu ato.

A allaf ofyn am wybodaeth am gleient Canopi?

Er mwyn diogelu cyfrinachedd, ni allwn ddarparu gwybodaeth i unrhyw drydydd parti heb gydsyniad ysgrifenedig y cleient, ac ni allwn rannu gwybodaeth ar gais trydydd parti chwaith.

A allwch chi ddarparu tystiolaeth o’r cymorth rydw i wedi’i gael gan Canopi?

Os ydych chi wedi defnyddio Canopi, gallwch ofyn am lythyr sy’n manylu ar y cyswllt rydych chi wedi’i gael â’r gwasanaeth, a’r cymorth a ddarparwyd. Gallwch hefyd ofyn am unrhyw nodiadau gan feddygon ymgynghorol neu nodiadau therapi.

Sut ydw i’n cyfeirio fy hun am gymorth?

Gallwch hunangyfeirio drwy lenwi’r ffurflen gyfeirio ar-lein ar wefan Canopi. Bydd y tîm yn ymateb o fewn un diwrnod gwaith. Gallwch hefyd ffonio ein llinell gymorth ar 0800 058 2738 a bydd un o aelodau o’n tîm gweinyddol yn hapus i’ch tywys trwy’r broses atgyfeirio.

Nid yw ein tîm llinell gymorth weinyddol yn weithwyr proffesiynol iechyd meddwl hyfforddedig a dim ond cymorth gweinyddol y gallant ei gynnig.

Sylwer, gwasanaeth hunangyfeirio yn unig yw Canopi ac felly ni allwn gael atgyfeiriadau gan drydydd partïon.

Faint o gymorth y gall Canopi ei gynnig i mi?

Mae Canopi yn cynnig amrywiaeth o opsiynau cymorth, gan gynnwys:

  • Adnoddau hunangymorth drwy sefydliadau partner
  • Cymorth gan Gynghreiriad Llesiant, gan eich paru â chymheiriad profiadol sy’n deall gwaith iechyd a gofal cymdeithasol ac yn darparu gofod diogel a chyfrinachol lle mae rhywun yn gwrando arnoch
  • Hunangymorth dan arweiniad, megis Silvercloud neu therapi gwybyddol ymddygiadol dan arweiniad therapydd
  • Therapi gwybyddol ymddygiadol gyda therapyddion achrededig

Mae’r rhan fwyaf o’r therapyddion rydyn ni’n gweithio gyda nhw yn cynnal sesiynau therapi gwybyddol ymddygiadol gyda chleientiaid trwy alwadau fideo neu alwadau ffôn. Mae nifer fach o’n therapyddion yn cynnig sesiynau wyneb yn wyneb, felly mae’n debygol y bydd yr aros am y sesiynau hyn yn hirach nag ar gyfer sesiynau galwad fideo.

Bydd union nifer y sesiynau / faint o gymorth a roddir yn cael ei deilwra i chi fel unigolyn hyd at uchafswm o wyth sesiwn o therapi gwybyddol ymddygiadol.

Sylwch nad yw Canopi yn darparu cwnsela (gan gynnwys cwnsela teulu, cwnsela perthynas neu gwnsela profedigaeth). Yn ogystal, nid yw Canopi yn gallu helpu gyda chyngor ariannol neu gyfreithiol, cwynion, cyfryngu, cwnsela perthynas, neu eiriolaeth.

Ydych chi’n cynnig therapi Dadsensiteiddio ac Ailbrosesu Symudiadau’r Llygaid (EMDR)?

Bydd rhai o’n therapyddion yn cyflwyno protocolau EMDR pan fyddant yn teimlo bod hyn yn briodol. Fodd bynnag, gan mai dim ond uchafswm o wyth sesiwn yr ydym yn eu hariannu, nid yw hyn bob amser yn bosibl. Gallwn eich rhoi mewn cysylltiad ag un o’n therapyddion sy’n gallu cyflwyno EMDR, ac mae hyn yn rhywbeth y byddwch chi’n gallu ei drafod â nhw yn eich sesiwn gyntaf.

Rydw i eisoes yn cael cymorthseicolegol. A allaf ddefnyddio Canopi o hyd?

Yn gyffredinol, mae’n well peidio â chael cymorth gan wahanol therapyddion ar yr un pryd. Os ydych eisoes o dan ofal darparwr iechyd meddwl arall, byddem yn eich annog i drafod eich anghenion â’ch darparwr presennol neu feddyg teulu.

Oes ots ble rydw i pan fyddaf yn mynychu fy apwyntiadau ar-lein/ffôn?

Mae’n bwysig yn eich sesiynau eich bod chi’n teimlo eich bod yn gallu siarad yn rhydd ac yn breifat, heb i’ch sylw gael ei dynnu. Felly, gwnewch yn siŵr eich bod yn trefnu eich sesiynau ar-lein/ffôn ar gyfer amser pan fydd hyn yn bosibl (er enghraifft, pan nad ydych yn gyrru). Sylwch, na all ein meddygon ymgynghorol a’n therapyddion siarad â chi os ydych chi dramor.

Sut mae’r broses atgyfeirio yn gweithio?

Ar ôl cyflwyno’r ffurflen atgyfeirio ar-lein, gofynnir i chi lenwi ffurflen wybodaeth fer. Yna byddwch yn cael eich cyfarwyddo i drefnu apwyntiad ffôn gydag un o’n meddygon ymgynghorol i drafod yr hyn rydych chi’n ei chael yn anodd. Gyda’ch gilydd, byddwch wedyn yn penderfynu pa opsiwn cymorth sydd fwyaf priodol, ac os ydych chi’n addas i gael cymorth, gallwch gael eich ychwanegu at y rhestr aros berthnasol.

Sylwer, nid yw ein meddygon ymgynghorol yn gwneud diagnosis o gyflyrau, yn rhagnodi meddyginiaeth, nac yn rheoli cyflyrau meddygol fel arall.

Nid wyf yn gweithio yng Nghymru. A allaf gael mynediad at gymorth o hyd?

Mae Canopi ar gyfer staff sy’n gweithio yn GIG Cymru a staff gofal cymdeithasol yng Nghymru. Os ydych chi’n gweithio yn Lloegr ac eisiau cymorth, ewch i Practitioner Health. Am gymorth yn yr Alban, ewch i Workforce Specialist Service.

Beth oedd enw Canopi o’r blaen?

Cyn Ebrill 2022, roedd Canopi yn cael ei adnabod fel Iechyd i Weithwyr Iechyd Proffesiynol Cymru.

Beth yw oriau’r gwasanaeth?

Mae desg gymorth Canopi yn gweithredu o ddydd Llun i ddydd Gwener, rhwng 9am a 5pm, ac eithrio gwyliau banc. Mae’r rhan fwyaf o’n meddygon ymgynghorol a’n therapyddion yn gweithio yn ystod yr oriau hyn, ond mae rhai apwyntiadau gyda’r nos a’r penwythnos ar gael.

Sut alla i roi adborth am fy mhrofiad gyda Canopi?

Mae pob cleient sy’n cysylltu â Canopi am gymorth yn cael cyfle i lenwi ffurflen gwerthuso gwasanaeth i roi adborth ar y gwasanaeth. Fel arfer, bydd hyn yn cael ei anfon atoch pan fyddwch wedi gorffen cael eich cymorth, ond os hoffech gwblhau’r ffurflen yn gynt, anfonwch neges e-bost i canopi@cardiff.ac.uk a bydd y ddolen yn cael ei hanfon atoch. Gallwch hefyd rannu unrhyw adborth, sylwadau neu awgrymiadau yn uniongyrchol â Canopi trwy gysylltu â ni ar canopi@caerdydd.ac.uk Rhannwch gymaint o wybodaeth ag yr ydych chi’n teimlo’n gyfforddus i’w rhannu.

Mae’r adborth hwn yn cael ei adolygu’n rheolaidd a’i adrodd amdano mewn fformat dienw ac wedi’i goladu.

Beth ydw i’n ei wneud os nad ydw i’n hapus â’r cymorth rydw i wedi’i gael?

Os ydych chi’n anfodlon ag unrhyw agwedd ar ein gwasanaeth, trafodwch hyn â’r unigolyn sy’n ymwneud â’r gwasanaeth ar y pryd os ydych chi’n teimlo y gallwch chi. Gallwch hefyd gysylltu â thîm Canopi drwy anfon neges e-bost i (canopi@caerdydd.ac.uk) ynghylch unrhyw broblemau neu bryderon a allai fod gennych.

Beth ddylwn i ei wneud os nad yw fy mhryderon wedi’u datrys?

Os ydych chi’n teimlo nad yw eich pryderon wedi’u datrys, mae gennych yr hawl i gwyno. Nod Canopi yw mynd i’r afael â phryderon yn gyflym, amddiffyn eich cyfrinachedd a rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi drwy gydol y broses. I wneud cwyn, cysylltwch â canopi@caerdydd.ac.uk cyn gynted â phosibl ar ôl cael y broblem. Bydd y tîm yn rhannu’r polisi cwynion ac yn eich tywys drwy’r broses.

Beth os nad ydw i’n teimlo y gallaf weithio gyda’r therapydd rydw i wedi’i baru ag ef?

Rydym yn deall, ar adegau, am amrywiaeth o resymau, efallai na fydd y berthynas rhwng therapydd a chleient yn datblygu yn ôl y disgwyl. Yn yr achosion hyn, byddem yn eich annog i gysylltu â desg gymorth Canopi (canopi@caerdydd.ac.uk) cyn gynted â phosibl i drafod eich pryderon.  Efallai y byddwn yn gallu eich cysylltu â therapydd gwahanol os byddwch yn rhoi gwybod i tîm desg gymorth Canopi pan fyddwch wedi cael un neu ddwy sesiwn yn unig.

Sut ydych chi’n defnyddio’r data personol rydych chi’n eu casglu?

Mae Canopi yn casglu ac yn prosesu’r nifer lleiaf o ddata personol sy’n ofynnol i ddarparu’r gwasanaeth. Gall hyn gynnwys manylion cyswllt, gwybodaeth broffesiynol, a gwybodaeth iechyd berthnasol a ddarperir yn ystod yr asesiad. Defnyddir data personol i asesu cymhwystra, cyfathrebu â chleientiaid, a hwyluso atgyfeiriadau priodol o fewn Canopi. Mae’r holl ddata yn cael eu prosesu gyda chydsyniad y cleient, eu storio’n ddiogel yn y DU, a’u cadw am hyd at ddeng mlynedd. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio eich data ac yn gofalu amdanynt, ewch i’n polisi preifatrwydd.

Cymorth dwyieithog

Mae Canopi yn darparu gohebiaeth a chymorth yn Gymraeg a Saesneg. Mae ein tîm yn cynnwys gweinyddwyr, meddygon ymgynghorol a therapyddion sy’n siarad Cymraeg, fel y gall cleifion deimlo’n gyfforddus yn cael mynediad at gymorth yn yr iaith sydd well ganddynt.

Polisi ailgyrchu

Mae Canopi yn cael ei ariannu i gefnogi unigolion ar gyfer un rhaglen o gymorth. Rydym yn deall y gall unigolion brofi problemau ac anawsterau pellach. Os yw hyn yn wir, yna byddem yn eich gwahodd i gysylltu â’r gwasanaeth eto. Fodd bynnag, byddem yn disgwyl i o leiaf tair blynedd basio rhwng cwblhau un rhaglen gymorth a dechrau rhaglen arall. Mae hyn yn ein helpu i gadw amseroedd aros yn fyr ac yn sicrhau bod y gwasanaeth yn parhau i fod yn hygyrch i’r rhai sydd angen cymorth. Os oes gennych unrhyw gwestiynau am ein polisi ailgyrchu, anfonwch neges e-bost i canopi@caerdydd.ac.uk.