Categorïau
Blog

Anhwylder panig: torri’r cylch

Mae tua 1 o bob 100 o bobl yn byw gydag anhwylder panig. Math difrifol o bryder yw hwn a fydd hwyrach yn cael effaith aruthrol ar eich bywyd bob dydd. Dylech chi ddeall yr arwyddion a’r symptomau fel y gallwch chi gael help a thorri’r cylch o banig.

Mae panig yn digwydd pan fydd teimladau o ofn a phryder yn mynd yn gylch, gan sbarduno rhuthr o symptomau corfforol a meddyliol llethol, sef yr hyn a elwir hefyd yn bwl o banig.

Mae’n bwysig ymyrryd er mwyn gallu rheoli’ch symptomau ac atal y cylch yn stond.

Cylch y Panig

  1.  Sbardun ysgogi (mewnol neu allanol): hwyrach mai meddwl am rywbeth sy’n peri trallod ichi fydd hyn neu wynebu ffobia
  2.  Bygythiad canfyddedig: mae hyn yn achosi’r braw ysgafn y bydd rhywbeth annymunol yn digwydd, sef yr hyn a elwir hefyd yn ofn
  3.  Synhwyrau corfforol: hwyrach y bydd rhuthr o symptomau corfforol megis curiad calon cyflym a diffyg anadl yn arwain at ofni bod trychineb ar ddigwydd, sef y teimlad bod y gwaethaf yn mynd i ddigwydd.

Pan fyddwch chi’n cael pwl o banig, efallai y cewch eich sbarduno gan atgofion neu sefyllfaoedd penodol sy’n eich atgoffa o’r pyliau; mae hyn yn achosi i’r cylch barhau.

Symptomau corfforol pwl o banig:

  • Curiad calon cyflym neu afreolaidd
  • Teimlo’n benysgafn neu’r bendro
  • Colli archwaeth
  • Diffyg anadl
  • Chwysu
  • Teimlo’n boeth

Symptomau meddyliol pwl o banig:

  • Tensiwn neu nerfau
  • Meddyliau obsesiynol
  • Diffyg cwsg
  • Poeni am y gorffennol neu’r dyfodol
  • Methu ymlacio
  • Atgofion trawmatig sy’n ymwthio

Torri’r cylch o banig

Os ydych chi’n cael pyliau o banig, dylech chi siarad â’ch meddyg teulu. Hwyrach y bydd yn gallu argymell dulliau seicolegol neu ffarmacolegol, neu gyfuniad o’r ddau.

Therapïau siarad a meddyginiaethau yw’r triniaethau mwyaf cyffredin:

  1. Mae therapïau siarad megis Therapi Gwybyddol Ymddygiadol (CBT) yn eich helpu i reoli sbardunau gorbryder a’r ffordd rydych chi’n ymateb yn ystod pwl o banig. Er enghraifft, drwy ddefnyddio technegau ymwybyddiaeth ofalgar.
  2. Mae meddyginiaethau megis gwrth-iselyddion yn helpu i gynyddu lefel y cemegau niwrodrosglwyddo yn yr ymennydd. Hwyrach y bydd y cemegau hyn yn helpu i wella eich hwyliau cyffredinol a lleihau eich pryder.
Gallwch chi hefyd gyfeirio eich hun at Canopi. Rydyn ni’n cynnig cymorth iechyd meddwl i weithwyr y GIG a gofal cymdeithasol yma yng Nghymru.