Categorïau
Blog

Gofalu amdanoch chi yn ystod yr argyfwng costau byw

Gall pryderon ariannol effeithio ar ein hiechyd meddwl mewn sawl ffordd. Darllenwch ymlaen i weld sut y gall Canopi eich helpu pan fydd ei angen arnoch fwyaf yn ystod yr argyfwng costau byw.

Mae’r argyfwng costau byw yn ddifrifol i lawer o bobl sy’n gweithio ym maes gofal cymdeithasol.

“Mae mor bwysig cofio gofalu am eich lles eich hun, yn enwedig pan fyddwch chi’n gofalu am bobl eraill. Mae pryderon ariannol yn aml yn chwarae rhan fwy nag y sylweddolwn yn ein lles, a gallant fod yn llethol.”
– Bec Cicero, Arweinydd Lles y Gweithlu yn Gofal Cymdeithasol Cymru.

Ochr yn ochr â phopeth arall, gall caledi ariannol gael effaith ar iechyd meddwl. Gall caledi ariannol gael effaith fawr ar ein gallu i wneud pethau sy’n cefnogi ein lles, fel ymarfer corff, gwneud pethau sy’n dod â phleser i ni, a chael cwsg da. Gall pobl sy’n profi caledi ariannol brofi amrywiaeth o emosiynau heriol a all effeithio ar ein gallu i weithio, ymlacio a chysgu. A dyma lle mae Canopi yn gefn i chi. 

Pryd mae gofyn am help?

Estynnwch allan os sylwch fod eich iechyd meddwl yn dioddef, a bod hyn yn dechrau effeithio ar eich bywyd personol neu fywyd gwaith.

“Os ydych chi’n poeni am unrhyw beth, gwnewch yn siŵr eich bod chi’n siarad â rhywun. Gall gwasanaethau fel Canopi roi’r offer sydd eu hangen arnoch i ofalu am eich lles eich hun a delio â’r pethau sy’n eich poeni.”

Gallai’r diagram isod helpu i ddangos beth rydyn ni’n ei olygu. Gallwch chi feddwl am les fel sbectrwm. Ar un pen, gall unigolyn fod yn gweithredu’n iach, ond gall rhai mathau cyffredin o drallod, fel poeni am eich arian, ddatblygu i mewn i iechyd meddwl gwael.

Beth all Canopi ei gynnig?

Os ydych chi’n byw yng Nghymru ac yn gweithio i’r sector gofal cymdeithasol (neu’r GIG), gallwch gyfeirio’ch hun at Canopi a chael ymgynghoriad ffôn ag un o’n Meddygon Ymgynghorol.

Gyda’ch gilydd, byddwch yn trafod dull gweithredu personoledig i gefnogi eich lles meddyliol, wedi’i deilwra i’ch anghenion. Gallai hynny olygu:

  • Cymorth Cynghreiriad Lles trwy gyfarfod â chydweithiwr o’r sector iechyd neu ofal cymdeithasol
  • Adnoddau hunangymorth y gallwch gael mynediad iddynt am ddim
  • Therapi Gwybyddol Ymddygiadol (CBT) gydag arbenigwr achrededig
  • CBT dan Arweiniad Therapydd, sy’n cynnwys dull gweithredu mwy annibynnol gyda pheth cymorth gan arbenigwr achrededig.

“Os ydych chi’n rheoli pobl eraill, neu os oes gennych chi rôl yn gofalu am les yn eich sefydliad, cymerwch olwg ar rai o’r adnoddau sydd ar gael yn Mae eich llesiant yn bwysig: fframwaith iechyd a llesiant y gweithlu neu ewch i canopi.nhs.wales i ddysgu mwy am eu gwasanaeth.”