Categorïau
Blog

Profiad GP dan hyfforddiant o gael gafael ar gymorth er iechyd y meddwl

Mae Natalie yn feddyg teulu o dan hyfforddiant sy’n byw ac yn gweithio yng ngorllewin Cymru ar hyn o bryd. Hyfforddodd yn Llundain ar ôl cael trafferth â gorbryder ers ei harddegau, gan ofyn am gwnsela a mathau eraill o gymorth ar amryw adegau.


Daeth gorbryder Natalie yn drech yn ei phumed flwyddyn yn yr ysgol feddygol o ganlyniad i straen y gwaith, gweithgareddau allgyrsiol a phontio i feddygaeth glinigol.

Ar ôl seibiant am flwyddyn, aeth i orllwein Cymru 18 mis yn ôl i ddechrau ei lleoliadau hyfforddi.

Dyma Natalie yn sôn am ei helynt ers mis cyntaf 2020 pan ddechreuodd deimlo’n bryderus eto o ganlyniad i broblemau yn ei bywyd personol, gohirio ei phriodas o achos Covid-19 a gweithio’n feddyg iau yng nghanol pandemig byd-eang.

A man walking past street art of a rainbow supporting the NHS

Sylweddolais fod angen cymorth arnaf ddechrau’r llynedd ar ôl i’r gorbryder gynyddu. A minnau’n ymdopi â gorbryder ers 10 mlynedd, galla i adnabod erbyn hyn y newidiadau yn fy ymddygiad sy’n dangos bod iechyd fy meddwl yn simsan.

Mae meddwl a phryderu’n ormodol ac ymddygiad cymhellol megis gwirio switshis a drysau yn wir rybuddion imi.

Gwelais fy mod yn dechrau meddwl ac ymddwyn yn negyddol eto a’i bod yn bryd gofyn am gymorth.

Fe es i at y meddyg. Roeddwn i wedi bod yn ymdopi â’r gorbryder ers symud i Gymru heb ofyn i neb am gymorth hyd at hynny.

A minnau’n broffesiynolyn meddygol ar fin bwrw tymor yn y fro, roeddwn i’n anesmwyth ynghylch gofyn am gymorth. Roedd y meddyg yn rhagorol, heb gyfleu’r argraff ei fod yn fy marnu o gwbl.

Soniodd am wasanaeth Canopi, ac rwy’n well o lawer ers trefnu i weld therapydd trwy’r gwasanaeth hwnnw.

Cysylltodd Natalie ag Canopi dros y ffôn. Ar ein gwefan newydd, y ffordd gyflymaf o ofyn am gymorth yw trwy ein ffurflen atgyfeirio.

A woman in a bright yellow jumper typing on a laptop

Beth oedd o gymorth ynglŷn ag Canopi?

Gall symud i le newydd a’r heriau a’r cyfleoedd a ddaw yn sgîl hynny fod yn anodd, ond roedd hyblygrwydd a hwylustod y sesiynau a drefnodd Canopi o gymorth mawr.

O achos y pandemig, roedd tuedd i roi popeth ar-lein, ac roedd y drafodaeth dros y ffôn ar gyfer brysbennu pan gysylltais ag Canopi yn ddelfrydol i mi.

Cynigiwyd wyth sesiwn gyda therapydd yng Nghaerdydd, ac roedd hynny’n wych am y byddai pob sesiwn ar gael gartref.

Roedd yr hyblygrwydd o gymorth ynghylch lleddfu gorbryder gan fy mod yn gwybod y byddwn i’n dechrau gweithio gyda thimau seiciatreg y fro.

Roeddwn i’n gwybod y byddwn i’n dechrau’n broffesiynolyn gofal iechyd ac yn glaf yr un pryd ac roeddwn i am gadw’r ddwy agwedd ar wahân.

Doedd dim angen imi boeni y deuai’r driniaeth yn hysbys am fod Canopi yn cadw at amodau cyfrinachedd bob amser.

Doeddwn i ddim yn teimlo o dan anfantais yn sgîl derbyn sesiynau ar-lein – rwy’n ffodus bod therapi o’r radd flaenaf ar gael wyneb yn wyneb imi trwy gymorth o hirbell!

Gofyn am gymorth er iechyd eich meddwl.

Wrth gloi, meddai Natalie:

“Gall fod yn anodd iawn gwybod ble i ddechrau. Dros y degawd diwethaf, rwyf i wedi cael amryw fathau o gymorth megis iechyd galwedigaethol, arwyddbyst undebau llafur a sefydliadau meddygol.

Roeddwn i’n gyndyn o fynd i’r feddygfa neu’r ysbyty am fy mod yn gweithio yn y byd meddygol.

Os oes angen siarad â rhywun, cymerwch y cam cyntaf hwnnw trwy gysylltu ag adran iechyd galwedigaethol, eich meddyg neu wasanaeth megis Canopi.

Rydym yn ddiolchgar i Natalie am drafod ei hanes trwy sgwrs wedi’i recordio gyda’r Dr Thomas Kitchen, Dirprwy Gyfarwyddwr Canopi (a elwid gynt yn HHP Cymru) yn ystod Sumposiwm HHP Cymru fis Rhagfyr 2020.

Adnoddau

Ffurflen atgyfeirio Canopi
Adnoddau hunangymorth Canopi
• Taflenni iechyd meddwl NCMH

Canopi Cymru

Mae Canopi yn cynnig cymorth er iechyd y meddwl i weithwyr iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru.

Mae Canopi yn wasanaeth cyfrinachol am ddim sy’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru a’i weinyddu trwy Brifysgol Caerdydd

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *