Wedi’i ariannu gan Lywodraeth Cymru a’i redeg gan Brifysgol Caerdydd, bydd gwasanaeth Canopi nawr yn gweithredu o’r Is-adran ochr yn ochr â chanolfannau ymchwil iechyd meddwl sy’n arwain y byd fel y Ganolfan Iechyd Meddwl Genedlaethol (NCMH), Sefydliad Ymchwil y Niwrowyddorau ac Iechyd Meddwl (NMHRI), a Chanolfan Geneteg a Genomeg Niwroseiciatreg MRC (MRC CNGG).
Dywedodd yr Athro Jon Bisson, Cyfarwyddwr Canopi a Dirprwy Gyfarwyddwr NCMH:
Rwy’n falch iawn bod Canopi bellach yn rhan o’r Is-adran Meddygaeth Seicolegol a Niwrowyddorau Clinigol. Byddwn yn gweithio’n agos gyda’r ganolfeydd fel NCMH i ategu ei ymdrechion ymchwil sy’n arwain y byd gyda gwasanaeth clinigol rhagorol i bobl sy’n gweithio i iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru.
“Mae Canopi wedi ehangu’n sylweddol yn ystod y pandemig COVID-19, wedi derbyn adborth cadarnhaol iawn gan y rhai y mae’n eu cefnogi ac rwy’n hyderus y bydd ei gartref newydd yn hwyluso ei ddatblygiad ymhellach.”
Sefydlwyd Canopi i ddarparu cymorth iechyd meddwl cyfrinachol am ddim i feddygon yng Nghymru. Ymestynnodd ei gefnogaeth i holl staff y GIG yng Nghymru yn ystod pandemig y coronafeirws ac yna gofal cymdeithasol yn Ebrill 2022.
Sut gallwch chi gael cefnogaeth
Os ydych chi’n gweithio i’r sectorau iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru ac am gefnogaeth, gallwch atgyfeirio’ch hun ar-lein.
Byddwch yn derbyn ebost o fewn 24 awr gyda dyddiad ac amser eich apwyntiad ffôn gyda Chynghorydd sy’n Feddyg a fydd yn eich asesu ac yn eich cyfeirio at un neu fwy o’r gwasanaethau canlynol:
- Hunangymorth
- Cefnogaeth gan gymheiriaid
- Hunangymorth gydag arweiniad
- Therapi seicolegol wyneb yn wyneb rhithwir
Sut y gallwch chi wirfoddoli
Os ydych chi’n weithiwr iechyd proffesiynol yng Nghymru ac yr hoffech wirfoddoli ar gyfer y gwasanaeth, ewch i Canopi i gael manylion.
Rhagor o wybodaeth
- Gwefan: Canopi
- Dilynwch Canopi ar Twitter