Categorïau
Newyddion

Cymorth iechyd meddwl am weithwyr y GIG yng Nghymru

Rydym yn falch o roi gwybod bod Iechyd i Weithwyr Proffesiynol Cymru (HHP Cymru), gwasanaeth cymorth i bob aelod staff GIG yng Nghymru, wedi ymuno ag Is-adran Meddygaeth Seicolegol a Niwrowyddorau Clinigol ym Mhrifysgol Caerdydd.

Wedi’i ariannu gan Lywodraeth Cymru a’i redeg gan Brifysgol Caerdydd, bydd gwasanaeth Canopi nawr yn gweithredu o’r Is-adran ochr yn ochr â chanolfannau ymchwil iechyd meddwl sy’n arwain y byd fel y Ganolfan Iechyd Meddwl Genedlaethol (NCMH), Sefydliad Ymchwil y Niwrowyddorau ac Iechyd Meddwl (NMHRI), a Chanolfan Geneteg a Genomeg Niwroseiciatreg MRC (MRC CNGG).

Photo of Prof Job Bisson in the Hadyn Ellis Building

Dywedodd yr Athro Jon Bisson, Cyfarwyddwr Canopi a Dirprwy Gyfarwyddwr NCMH:

Rwy’n falch iawn bod Canopi bellach yn rhan o’r Is-adran Meddygaeth Seicolegol a Niwrowyddorau Clinigol.  Byddwn yn gweithio’n agos gyda’r ganolfeydd fel NCMH i ategu ei ymdrechion ymchwil sy’n arwain y byd gyda gwasanaeth clinigol rhagorol i bobl sy’n gweithio i iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru.

“Mae Canopi wedi ehangu’n sylweddol yn ystod y pandemig COVID-19, wedi derbyn adborth cadarnhaol iawn gan y rhai y mae’n eu cefnogi ac rwy’n hyderus y bydd ei gartref newydd yn hwyluso ei ddatblygiad ymhellach.”

Sefydlwyd Canopi i ddarparu cymorth iechyd meddwl cyfrinachol am ddim i feddygon yng Nghymru. Ymestynnodd ei gefnogaeth i holl staff y GIG yng Nghymru yn ystod pandemig y coronafeirws ac yna gofal cymdeithasol yn Ebrill 2022.

Sut gallwch chi gael cefnogaeth

Os ydych chi’n gweithio i’r sectorau iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru ac am gefnogaeth, gallwch atgyfeirio’ch hun ar-lein.

Byddwch yn derbyn ebost o fewn 24 awr gyda dyddiad ac amser eich apwyntiad ffôn gyda Chynghorydd sy’n Feddyg a fydd yn eich asesu ac yn eich cyfeirio at un neu fwy o’r gwasanaethau canlynol:

  • Hunangymorth
  • Cefnogaeth gan gymheiriaid
  • Hunangymorth gydag arweiniad
  • Therapi seicolegol wyneb yn wyneb rhithwir

a bearded white man using a laptop

Sut y gallwch chi wirfoddoli

Os ydych chi’n weithiwr iechyd proffesiynol yng Nghymru ac yr hoffech wirfoddoli ar gyfer y gwasanaeth, ewch i Canopi i gael manylion.

Rhagor o wybodaeth

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *