Ers dechrau’r pandemig, mae Iechyd i Weithwyr Iechyd Proffesiynol Cymru (HHP Cymru) wedi cynnig cymorth iechyd meddwl a lles am ddim i’r holl staff sy’n gweithio yn y GIG yng Nghymru.
O dan yr enw newydd Canopi, byddwn yn parhau i gynnig yr un cymorth iechyd meddwl cyfrinachol a phroffesiynol am ddim i holl staff GIG Cymru, ond rydym yma i wneud mwy. Rydym yn falch o gyhoeddi bod Canopi yma i gynnig dull integredig o ymdrin â chymorth iechyd meddwl a lles yng Nghymru ar draws gweithluoedd Gofal Cymdeithasol a’r GIG.
Gyda’r ehangu newydd cyffrous hwn, rydym wedi dewis ailenwi’r gwasanaeth i adlewyrchu amrywiaeth a rolau cynyddol yr unigolion sy’n defnyddio ein gwasanaethau.
Mae Canopi yn wasanaeth cymorth iechyd meddwl a lles cyfrinachol, am ddim i holl staff y GIG a Gofal Cymdeithasol sy’n gweithio yng Nghymru
Ein hanes
Crëwyd HHP Cymru yn 2012 ac yn wreiddiol roedd yn gweithredu fel gwasanaeth cymorth iechyd meddwl i feddygon nad oeddent, am ba reswm bynnag, yn gallu datgelu eu pryderon iechyd meddwl i unrhyw un.
Roedd awydd bob amser i ehangu’r gwasanaeth a chynnig cymorth i grŵp ehangach. Ers ei greu, mae’r gwasanaeth wedi ehangu’n sylweddol.
Rhoddodd pandemig COVID-19 gyfleoedd i ddod â lles y gweithlu i’r amlwg a’n herio i ddatblygu model mwy cydweithredol a theg.
Nid oedd amser gwell i ehangu’r gwasanaeth a sicrhau ei fod ar gael i holl staff y GIG yng Nghymru. Roedd hyn yn cynnwys, ond nid oedd wedi’i gyfyngu i grwpiau meddygol, nyrsio, proffesiynol perthynol a grwpiau nad ydynt yn broffesiynol, aelodau o’r tîm gweinyddol a rheoli.
Roeddem yn ddiolchgar i Lywodraeth Cymru a Phrifysgol Caerdydd am eu cefnogaeth barhaus drwy’r cyfnod eithriadol o heriol hwn.
Drwy’r pandemig, gwelsom gynnydd sylweddol yn nifer y bobl sy’n dod i’r gwasanaeth, nid yn unig y rhai ar y rheng flaen ond o bob rhan o’r GIG yng Nghymru.
Rhwng mis Ebrill 2020 a mis Mawrth 2021, gwnaethom gyflawni llawer.
- Defnyddiodd 770 o bobl ein gwasanaethau
- Roedd 66 o gynghorwyr a therapyddion yn cefnogi ein defnyddwyr
- ymwelwyd â’r wefan 21,000 o weithiau
- Derbyniodd 550+ o bobl Therapi Gwybyddol Ymddygiadol
- Ymunodd 6 aelod â’n Grŵp Cynghori Cyhoeddus
- 40+ o bobl wedi cael cymorth gan gymheiriaid
- Daeth 70+ o bobl i’n symposiwm blynyddol cyntaf
- Ymunodd 7 aelod â’n Grŵp Cynghori Strategol
Ers mis Mawrth 2021 rydym wedi derbyn dros 1500 o hunanatgyfeiriadau. Gan adeiladu ar y profiad hwn, rydym yn falch iawn o allu cynnig y cymorth a gynigir gan Canopi i’r holl staff sy’n gweithio ar draws y GIG a Gofal Cymdeithasol yng Nghymru.
Cyflwyno Canopi
Mae Canopi, y cyfieithiad Cymraeg o’r gair “canopi” yn cyfeirio at grŵp o goed sy’n cydblethu i ffurfio haen amddiffynnol o wyntoedd cryfion a stormydd. Mae hefyd yn creu amgylchedd i gefnogi twf a chynaliadwyedd.
Yn yr un modd ag y mae canopi yn cynnig amddiffyniad a diogelwch, mae Canopi yn rhoi lle diogel i bobl rannu a siarad am eu heriau, tra hefyd yn annog twf ac yn cynnig cymorth fel rhan o system sy’n gweithio gyda’i gilydd.
Ein prif nodau
Er gwaethaf y newid enw a’r diweddariad brandio, mae ein cenhadaeth o gynnig cymorth iechyd meddwl a lles am ddim yn aros yr un fath.
Ein nod yw:
- Darparu gwasanaeth cymorth iechyd meddwl a lles personol o ansawdd uchel i’r gweithlu
- Adeiladu mwy a mwy ar y cydweithio â sefydliadau ar draws y sectorau gofal cymdeithasol ac iechyd
- Cyfrannu at hyrwyddo gofalu am ein hiechyd meddwl yn gadarnhaol
- Rhoi cymorth i’r rhai sy’n teimlo na allant gael mynediad at wasanaethau sy’n seiliedig ar gyflogwyr
- eiconau yn y delweddau gwyrdd golau a tywyll brandio Canopi yn dangos sgyrsiau, bawd i fyny, calon, a gwrando
Cael cefnogaeth
Ar ôl cysylltu â’r gwasanaeth, caiff unigolion eu cyfeirio at gynghorydd meddyg hyfforddedig a fydd yn brysbennu eu hanghenion ac yn eu cyfeirio at un neu fwy o’r gwasanaethau canlynol:
- Hunangymorth
- hunangymorth dan arweiniad
- cymorth gan gymheiriaid
- therapïau wyneb yn wyneb rhithwir gydag arbenigwyr achrededig
- cymorth ar gyfer PTSD
- gwasanaeth cymorth alcohol.
Cysylltu â ni
I gael mynediad at y gwasanaethau hyn am ddim, llenwch ein ffurflen atgyfeirio fer.
Byddwn yn cysylltu â chi o fewn un diwrnod gwaith a byddwn yn gwneud trefniadau i chi siarad ag un o’n cynghorwyr meddygon a fydd yn eich trafod drwy eich opsiynau ar gyfer therapïau a chymorth parhaus.
Mae Canopi ar gael o ddydd Llun i ddydd Gwener, 9yb – 5yp
Adnoddau
- Darllenwch fwy am Canopi
- Cyfeiriwch eich hun am gymorth
- Taflenni iechyd meddwl NCMH
Darllenwch straeon defnyddwyr gwasanaeth
- Darllenwch stori Amanda | Doeddwn i ddim yn gwybod bod gen i PTSD
- Darllenwch stori Geraint | Fferyllydd yn rhannu profiad o gymorth iechyd meddwl wrth ymadfer ar ôl COVID Hir
- Darllenwch stori Natalie | Hyfforddai meddygon teulu yn rhannu ei phrofiad o gael cymorth iechyd meddwl yn ystod y pandemig