Categorïau
Blog

5 peth efallai nad ydych yn gwybod am orbryder

Anhwylderau gorbryder yw’r anhwylder iechyd meddwl mwyaf cyffredin yn y DU.

Diffinnir gorbryder fel teimlad anghyfforddus, megis pryder neu ofn, sy’n gallu bod yn ysgafn neu’n ddifrifol.

Mae pawb yn cael teimladau o bryder ar ryw adeg yn eu bywyd. Er enghraifft, efallai y byddwch chi’n teimlo’n bryderus ac yn poeni am sefyll arholiad neu gael prawf meddygol neu gyfweliad swydd. Ar adegau fel y rhain, gall fod yn gwbl normal teimlo’n bryderus.

Ond mae rhai pobl yn cael trafferth cadw eu pryderon dan reolaeth. Mae eu teimladau o orbryder yn fwy cyson ac yn aml yn gallu effeithio ar eu bywydau beunyddiol.

Pan fydd gorbryder ac ofn rheolaidd a gormodol yn ein llethu i’r pwynt lle mae’n ymyrryd â’n gallu i ymdopi â thasgau pob dydd, gellid ystyried hyn fel anhwylder gorbryder.

Black and white number five hanging on metal wall.

5 peth efallai nad ydych yn gwybod am orbryder

  1. Anhwylderau gorbryder yw’r anhwylder iechyd meddwl mwyaf cyffredin yn y DU
  2. Mae gorbryder yn fwy cyffredin mewn rhai pobl nag eraill
  3. Mae yna sawl math o anhwylderau gorbryder. Dyma rai enghreifftiau o anhwylderau gorbryder:
    • Anhwylder gorbryder cyffredinol
    • Anhwylder gorbryder cymdeithasol
    • Anhwylder panig
    • Ffobiâu
  4. Mae yna nifer o ffactorau a all gynyddu’r siawns o ddatblygu anhwylder gorbryder.
    • Etifeddwyd yn enetig
      1. Mae ymchwil yn dangos y gallai bod â pherthynas agos yn y teulu sydd â phroblemau gorbryder gynyddu eich siawns o gael problemau gorbryder eich hun.
    • Profiadau yn y gorffennol neu yn ystod plentyndod:
      1. Mae sbardunau cyffredin ar gyfer problemau gorbryder yn gysylltiedig â phrofiadau anodd yn ystod plentyndod oherwydd gall profi straen a thrawma eithafol gael effaith fawr.
    • Sefyllfa bywyd bresennol
      1. Straen fel pwysau gwaith, bodloni disgwyliadau
      2. Sefyllfaoedd byw gwael fel digartrefedd neu broblemau ariannol
    • Problemau iechyd corfforol neu feddyliol
      1. Gall sbardunau gorbryder gael eu hachosi gan salwch cronig neu broblemau iechyd meddwl fel iselder.
    • Cyffuriau a meddyginiaeth
      1. Mewn rhai achosion, gall gorbryder fod yn sgil-effaith i rai meddyginiaethau.
      2. Gall cyffuriau hamdden ac alcohol hefyd gynyddu gorbryder.
  5. Er bod gorbryder yn effeithio ar eich iechyd meddwl, gall hefyd arwain at symptomau corfforol. Mae enghreifftiau o’r symptomau corfforol hyn yn cynnwys:
    • Anhawster cysgu (trafferth cwympo i gysgu neu aros ynghwsg, anesmwythder yn y nos, neu gwsg anfoddhaol)
    • Mwy o boen yn y cyhyrau neu ddolur, gan flino’n hawdd
    • Pendro
    • Crychguriadau’r galon
    • Diffyg anadl
    • Anesmwythder abdomenol
    • Ceg sych
    • Dim llawer chwant bwyd
Woman writing in a journal

Rheoli gorbryder

Er bod teimladau o orbryder yn ymatebion dynol arferol i sefyllfaoedd llawn straen, gall gorbryder fod yn broblem os yw’n barhaus, yn ddwys, yn anodd ei reoli neu’n anghymesur â’r sefyllfa.

Mae rhai sefyllfaoedd yn gofyn am siarad â’ch meddyg teulu. Os yw’n meddwl eich bod yn dioddef o orbryder, boed hynny’n orbryder ysgafn neu ddifrifol, gall awgrymu gwahanol fathau o driniaeth a allai fod o gymorth.

Man talking while woman takes notes

Ceir nifer o driniaethau y gellir eu defnyddio os yw meddyg teulu yn ystyried ei bod yn briodol:

  • Therapïau seicolegol a ffarmacolegol
    • Therapi ymddygiad gwybyddol (CBT)
    • Meddyginiaeth
  • Hunangymorth a dulliau cyflenwol
    • Siarad â rhywun
    • Gall dulliau da o ryddhau straen gynnwys cael rhywun i wrando arnoch heb farnu. Mae’r Samariaid ac Anxiety UK yn llinellau cymorth a all eich cefnogi pan fyddwch yn dioddef gorbryder
    • Ioga
    • Myfyrdod neu ymlacio
    • Gofalu am eich iechyd corfforol

Adnoddau

Canopi

Mae Canopi yn cynnig cymorth iechyd meddwl i weithwyr iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru.


Mae Canopi yn wasanaeth cyfrinachol am ddim sy’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru a’i weinyddu trwy Brifysgol Caerdydd.