Categorïau
Blog

Dwi’n dechrau teimlo mwy fel fi fy hun eto

Roedd Rachel yn nyrs arbenigol mewn Gofal Dwys. Nid tan iddi ddechrau profi symptomau gorludded meddyliol a chorfforol y gofynnodd am gymorth drwy ei meddyg teulu, a’i cyfeiriodd at Canopi.

“Ro’n i’n casáu fy hun.” 

Dwi’n cofio fy shifft olaf mewn Gofal Dwys. Wrth drosglwyddo awenau’r uned i gyd-nyrs ward, fe dorrais i lawr yn llwyr. Ro’n i’n gwybod bod angen i mi gael help; ro’n i’n casáu fy hun. 

Roedd arwyddion gorludded i gyd yna, ond roedden nhw wedi ymddangos yn raddol. Dechreuodd gyda theimlad o ofn, a chyn hir, dechreuodd cydweithwyr sylwi fy mod i’n amlwg o dan straen: mynd yn flin, haerllug a chrio yn ystod y diwrnod gwaith. 

Yn dilyn y ffrwydrad emosiynol, penderfynais siarad â theulu a ffrindiau, a wnaeth adnabod yr arwyddion yn syth a’m hannog i ffonio i mewn yn sâl a siarad gyda fy meddyg teulu.

Ceisio cymorth

Ffonio i mewn yn sâl oedd un o’r galwadau anoddaf i mi ei gwneud erioed. Heb yn wybod i mi, roedd y person ar ochr arall y ffôn wedi profi gorludded hefyd. 

Ro’n i wedi torri. Ro’n i’n teimlo’n euog am adael fy nghydweithwyr eraill ar ôl, ddwy flynedd i mewn i’r pandemig Covid. Ar y pwynt hwn, do’n i ddim yn cysgu (insomnia), ro’n i’n dioddef o feddyliau isel a gorbryder cymdeithasol, yn aml ddim eisiau gadael fy nghartref. 

Teimlais fy hun yn mynd yn ddagreuol wrth ofyn i’r meddyg teulu sut y gallai helpu. Fodd bynnag, roedd mor gydymdeimladol, ac ro’n i’n teimlo nad oeddwn i’n gwastraffu fy amser yno. 

Fe roddodd nodyn doctor i mi ar gyfer fy ngwaith, gyda galwadau gwirio bob pythefnos, ac argymell i mi hunan-atgyfeirio at Canopi (neu Iechyd i Weithwyr Iechyd Proffesiynol Cymru yn flaenorol). 

“Do’n i erioed wedi clywed am CBT.”

Roedd fy ymgynghoriad cychwynnol â Canopi yn effeithiol ac effeithlon. Cefais fy atgyfeirio am wyth wythnos o Therapi Ymddygiad Gwybyddol (CBT). Do’n i erioed wedi clywed am hyn o’r blaen. 

Fe wnes i fondio’n syth gyda fy therapydd, Louise.

Roedd fy sesiynau CBT cynnar yn heriol; do’n i ddim am ateb y galwadau ac ro’n i’n teimlo ‘mod i’n gwastraffu ei hamser, yn aml yn argyhoeddedig ‘mod i’n gwaethygu.

Fodd bynnag, fe wnes i ddyfalbarhau oherwydd ro’n i bob amser yn teimlo’n well ar ôl y sesiynau. Cymerodd bump i chwech sesiwn cyn i mi ddechrau teimlo newid go iawn a chanolbwyntio’n llawn ar fy adferiad. 

“Dechreuais gwestiynu patrymau meddwl dinistriol a chanolbwyntio ar yr hyn sy’n fy ngwneud i’n hapus.”

Helpodd Louise fi i gwestiynu patrymau meddwl niweidiol, deall gorludded a blaenoriaethu fy lles a’m hapusrwydd fy hun. Cymerodd hyn rywfaint o ymarfer, a strategaethau amrywiol, gan gynnwys technegau anadlu, dyddiaduron ac ymarfer diolchgarwch. 

Dysgais yn raddol i fod yn garedig a gofalgar tuag ataf fy hun, gan ganolbwyntio ar y pethau sy’n fy ngwneud i’n hapus. Yn bwysicaf oll, ro’n i’n gallu gwneud y pethau hyn heb deimlo’n euog. 

Gwneud newidiadau cadarnhaol

Fe wnaeth therapi fy helpu i weld fy mod i’n dioddef o anaf moesol* yn fy ngwaith. Er fy lles fy hun, penderfynais wneud cais am rôl newydd gyda mwy o strwythur a phatrymau shifft ‘normal’ i leddfu fy insomnia. Fe wnaeth Louise hyd yn oed fy helpu i baratoi ar gyfer y cyfweliad.

Bues i’n llwyddiannus gyda fy nghais am rôl arbenigol 9 – 5 (heb shifftiau nos na phenwythnosau o weithio). Er fy mod i’n gweld eisiau fy hen swydd, dwi’n mwynhau popeth a’r cydbwysedd bywyd-gwaith newydd. A naw mis yn ddiweddarach, dwi’n dechrau teimlo mwy fel fi fy hun eto. 

“Hoffwn i pe bawn i wedi estyn allan yn gynt.”

Ar ôl i mi ddychwelyd i’r gwaith, fe wnes i ddweud wrth fy nghydweithwyr yn raddol am yr hyn oedd wedi digwydd. Hoffwn i pe bawn i wedi gwneud hyn yn gynt, oherwydd fe ddarganfyddais nad oeddwn i ar fy mhen fy hun. 

Ers hynny, dwi’n gofyn sut mae fy nghydweithwyr yn rheolaidd, gan wrando ar eu profiadau a rhannu fy mecanweithiau ymdopi fy hun ar gyfer straen gwaith. 

“Fe wnaeth [Canopi] fy achub ar adeg dyngedfennol.”

Byddwn yn argymell gwasanaethau Canopi i unrhyw un sy’n dioddef gyda gorludded, neu unrhyw salwch meddwl acíwt arall. 

Achubodd Louise fi ar adeg dyngedfennol, a byddaf yn ddiolchgar am byth am y gefnogaeth a’r gwasanaeth a gefais. Diolch, Canopi.

*Anaf moesol yw’r ymateb gwybyddol ac emosiynol cryf a all ddigwydd yn dilyn digwyddiadau sy’n torri cod moesol neu foesegol person. (Williams et al 2021, The Lancet).

Angen siarad? Cyfeiriwch eich hun heddiw gan ddefnyddio ein ffurflen ar-lein.