Categorïau
Blog

Fferyllydd yn rhannu profiad o gymorth iechyd meddwl wrth ymadfer ar ôl COVID Hir

Daliodd Geraint Jones, fferyllydd o dde Cymru, COVID-19 ym mis Ebrill 2020. Mae wedi bod mor garedig â rhannu mewnwelediad i’w brofiadau dros y flwyddyn diwethaf ar ôl iddo gael diagnosis diweddarach o COVID Hir.

Graphic of Geraint beside a quote from the story

Roedd Geraint yn byw gyda llu o symptomau ar ôl iddo dal COVID gyntaf ym mis Ebrill, a effeithiodd yn eithriadol ar ei fywyd o ddydd i ddydd, fel gweithiwr proffesiynol ac fel unigolyn.

Esboniodd Geraint: “Roeddwn i mewn sefyllfa eithaf newydd ar y pryd gan i mi gael diagnosis o COVID Hir gan glinigydd o Lundain oedd â phrofiad o drin cleifion ar ôl yr haint COVID gychwynnol.

“Nid oedd unrhyw arweiniad ynghylch sut i gefnogi na rheoli cleifion oedd ymddangos gydag amrywiaeth enfawr o symptomau ar yr adeg honno, felly roeddwn i’n teimlo’n ansicr iawn am y ffordd y gallai’r salwch effeithio ar fy mywyd, ond hefyd pa mor hir y byddai’n parhau i effeithio ar fy mywyd.”

Dod o hyd i gefnogaeth

Argymhellwyd y gwasanaeth Iechyd i Canopi i Geraint trwy ffrind ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe.

“Ar ôl gweld y brwydrau roeddwn i wedi’u hwynebu gyda COVID, ac wedi hynny, COVID Hir, ceisiais gefnogaeth trwy Canopi yn bennaf allan o anobaith ac am nad oeddwn i’n gwybod at bwy i droi am help. “

Cafodd Geraint brofiad cadarnhaol iawn gyda Canopi; ar ôl cysylltu gyntaf â’r gwasanaeth i weld pa gefnogaeth oedd ar gael, neilltuwyd therapydd iddo a fyddai’n ei arwain trwy sesiynau Therapi Ymddygiad Gwybyddol (CBT).

“Wedi defnyddio CBT yn y gorffennol, roeddwn i’n deall yn fras yr hyn y gallwn ei ddisgwyl, ond hefyd rhoddodd fy therapydd awgrymiadau defnyddiol iawn i mi gael y gorau o’r sesiynau ac yna rhoi hynny ar waith yn fy mywyd o ddydd i ddydd.

“Roedd y strategaethau drafodon ni yn rhai syml iawn a byth yn pwyso gormod arnaf yn feddyliol (oedd yn beth gwerthfawr am na allwn ymdopi â hyn o gwbl rai dyddiau).

“Yn naturiol, roeddwn i’n teimlo’n gyffyrddus wrth drafod unrhyw faterion personol gyda’r therapydd, sy’n sgil ynddo’i hun ond gwnaeth i mi deimlo’n gartrefol o hyd, a hynny ar amser a dyddiad oedd yn gweddu i’m symptomau corfforol amrywiol.

“Roedd y sesiynau bob amser wedi’u seilio ar yr hyn yr oeddwn i, neu fy therapydd, yn teimlo a fyddai o fudd i mi, wedi deall fy anghenion trwy sgwrsio ac asesu.”

A fyddech chi’n argymell HHP Cymru i eraill?

“Yn bendant! Nid oeddwn i erioed wedi clywed am Canopi cyn mis Hydref (2020), ac a bod yn onest, roedd gen i ddisgwyliadau eithaf isel oherwydd nad oeddwn i’n gwybod llawer amdanyn nhw na’r gwasanaeth maen nhw’n ei ddarparu. Nid wyf yn credu y gallwn fod wedi bod yn fwy anghywir!

Cysylltodd Geraint â Canopi trwy e-bost. Yn sgil lansio’n gwefan newydd, y ffordd gyflymaf o atgyfeirio’ch hun am gefnogaeth yw trwy ein ffurflen atgyfeirio.

Aeth Geraint ymlaen i ddweud: “Ces i ateb o fewn ychydig oriau gydag apwyntiad ffôn ar gyfer y diwrnod canlynol; apwyntiad brysbennu oedd hwnnw yn y bôn i ddeall pam roeddwn i’n teimlo bod angen cefnogaeth arnaf.

“Siaradais i â Nicola, Doctor sy’n Cynghori, a argymhellodd gwrs o CBT ac a anfonodd fanylion fy therapydd penodedig ataf i gysylltu yn y lle cyntaf.

“O fewn wythnos, roeddwn i’n cyflwyno fy hun i’m therapydd ac yn dechrau’r sesiynau – nid wyf wedi gweld gwasanaeth mo’i debyg o ran cyflymder ei ymateb na throsglwyddiad mor fuan rhwng cydweithwyr.

“Ni allaf ddiolch digon i dîm Canopi am fy arwain trwy rai cyfnodau anodd iawn pan nad oedd neb arall yn deall fy mhryderon a’m gofidiau.”

Helpu i ymchwilio i COVID Hir

Yn ddiweddar, rhoddodd Geraint dystiolaeth fel rhan o Grŵp Seneddol Hollbleidiol am COVID Hir.

Roedd wedi bod yn rhan o grŵp ffocws bach gydag uwch gydymaith ymchwil yn Sefydliad Caergrawnt oedd â diddordeb mewn siarad â dynion sy’n byw gyda COVID Hir.

Roedd Dr Nisreen Alwan M.B.E. yn rhan o’r grwpiau ffocws lle byddai’r mynychwyr yn sôn am eu profiadau bywyd a’r diffyg cefnogaeth i bawb yr effeithiwyd arnynt.

Dywedodd Geraint: “Ychydig wythnosau yn ddiweddarach, cysylltodd Dr Alwan i ofyn a hoffwn fod yn rhan o ddadl y Grŵp Seneddol Hollbleidiol dan arweiniad Layla Moran, AS y Democratiaid Rhyddfrydol dros Orllewin Rhydychen ac Abingdon. “

Nod y ddadl oedd helpu i gasglu tystiolaeth i’w chyflwyno i ASau ynghylch nifer yr achosion o COVID Hir a sut mae’n parhau i effeithio ar y rhai sydd wedi goroesi’r haint acíwt.

Screengrab of the Zoom meeting of the APPG debate on long covid

Geraint yn rhoi tystiolaeth fel rhan o ddadl Long COVID

Cafodd hyn ei ffrydio’n fyw trwy gyfrifon cyfryngau cymdeithasol March For Change, gydag ASau yn mynychu’n rhithwir, ond penderfynodd rhai fynychu’n bersonol hefyd yn Nhŷ’r Cyffredin,” esboniodd Geraint.

Aeth ymlaen i ddweud: “Rwy’ wir yn credu mai’r gefnogaeth ges i gan Canopi, a’r ddealltwriaeth fagais i o sut i fyw gyda chyflwr iechyd hirdymor, roddodd yr hyder i mi siarad mewn dadl o’r fath.

Defnyddiais y mecanweithiau ymdopi ddysgais i i’m helpu drwy’r paratoi a’r sgwrsio, sy’n amlygu pwysigrwydd strategaethau rheoli i rywun sy’n byw gyda salwch. “

A oes unrhyw beth yr hoffech dynnu sylw ato i unrhyw un sy’n ystyried cysylltu â Canopi?

“Cyn dal COVID, roeddwn i’n ffit, yn iach, a hoffwn feddwl fy mod yn eithaf gwydn; yn anffodus, newidiodd COVID fy iechyd corfforol a’m hiechyd meddwl yn llwyr.

“Roedd y gefnogaeth ges i gan Canopi yn amhrisiadwy ar adeg ansicr pan nad oedd cefnogaeth arall ar gael.

“Mae hyn wedi bod yn agoriad llygad llwyr i’r gefnogaeth sydd ar gael i weithwyr gofal iechyd proffesiynol a byddwn yn bendant (ac eisoes wedi!) argymell Canopi i gydweithwyr.”

Adnoddau

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *