Beth yw hunanofal?
Erbyn hyn rydym yn hen gyfarwydd â’r term ‘hunanofal’ ond beth mae’n ei olygu mewn gwirionedd? Gall ‘hunanofal’ olygu gwahanol bethau i wahanol bobl ond yn gyffredinol mae’n cyfeirio at arferion hanfodol sy’n cefnogi ein llesiant meddyliol a chorfforol.
I’r rhai sydd â hanes o anawsterau iechyd meddwl, diffyg hunanofal yw’r arwydd cyntaf fel rheol o ailwaeledd iechyd meddwl.
Dyna pam ei bod yn bwysig myfyrio ar strategaethau hunanofal sy’n gweithio i ni a defnyddio’r rhain i greu cynllun atal ailwaeledd.
Byddwch yn rhagweithiol i atal ailwaeledd
Mae’n hanfodol eich bod yn creu cynllun atal pan ydych yn teimlo’n dda. Mae atal ailwaeledd fel brwsio’ch dannedd. Nid yw’n ddigonol i’w wneud bob hyn a hyn i atal pydredd dannedd – mae angen i chi gadw ati i frwsio bob dydd.
Meddyliwch am eich cynllun fel proses tri cham
Dylai hyn gynnwys:
- Arferion hunanofal dyddiol, parhaol i’ch helpu i gadw’n iach
- Strategaethau ymdopi sy’n eich helpu i reoli symptomau os byddant yn codi
- Arwyddion y gallai fod angen cymorth pellach arnoch, neu eich bod mewn argyfwng
Mae’n hanfodol bod eich cynllun atal yn bersonol i chi.
Dechreuwch arni heddiw
Os ydych chi’n cael trafferth dechrau arni, cymerwch gipolwg ar y daflen gynllunio ddefnyddiol hon a’r rhestr o strategaethau a argymhellir gan ein Grŵp Cynghori Cyhoeddus (PAG) isod.
Arferion hunanofal a argymhellir gan ein Grŵp Cynghori Cyhoeddus (PAG)
Treulio amser ym myd natur | Cynnal arferion cysgu iach | Treulio amser gydag anifeiliaid anwes | Creu llyfr lloffion o ddyfyniadau ysbrydoledig |
Creu ‘blwch iechyd meddwl’ gyda gwrthrychau ystyrlon | Cynnal ffordd actif o fyw | Gwrando ar gerddoriaeth neu bodlediadau | Creu rhestr o bobl yn eich rhwydwaith cymorth |
Chwarae offeryn | Bwyta brecwast da | Cymryd bath swigod | Creu dyddlyfr gwerthfawrogi |
Darllen llyfr | Darlunio neu baentio llun | Rhoi cynnig ar fyfyrdod ar eich pen eich hun neu dan arweiniad | Tretio eich hun yn achlysurol |
Beth i’w wneud os oes angen rhagor o gymorth arnoch neu eich bod o bosib mewn argyfwng
Os ydych yn meddwl eich bod mewn argyfwng. Mae’n bwysig cael cymorth ar unwaith.
Grŵp Cynghori Cyhoeddus Canopi (PAG)
Mae ein PAG yn cynnwys unigolion sydd wedi ceisio cymorth iechyd meddwl drwy Canopi a gweithwyr iechyd meddwl proffesiynol sy’n ein helpu i wella’n gwasanaethau.