Categorïau
Blog

Astudiaeth newydd yn mesur effaith COVID-19 ar nyrsys

Mae astudiaeth newydd wedi ystyried effaith seicolegol pandemig COVID-19 ar nyrsys a’r gefnogaeth a gynigir iddynt gan Canopi, gwasanaeth cymorth iechyd meddwl i staff y GIG a gofal cymdeithasol sy’n gweithio yng Nghymru.

Amlygodd astudiaeth “Addressing moral distress among nurses after the COVID-19 emergency (ASSISTANCE)” a gyllidwyd gan Ymddiriedolaeth Nyrsio Burdett lefel uchel o drallod moesol ymhlith nyrsys yn ystod pandemig COVID-19, ac ymateb eithriadol o gadarnhaol i’r cymorth iechyd meddwl a gyflwynwyd gan ymarferwyr iechyd meddwl gyda sgiliau arbenigol mewn therapi gwybyddol ymddygiadol.

Y gobaith yw y bydd y canfyddiadau hyn yn codi ymwybyddiaeth o drallod moesol mewn nyrsys ac yn cael effaith ar hyfforddiant, ymarfer ac ymyrraeth yn y dyfodol. 

Beth yw trallod moesol?

Mae trallod moesol yn derm a ddefnyddir i ddisgrifio anesmwythder seicolegol yn sgil cyfyng-gyngor moesol, gwrthdaro neu densiwn yn y gweithle. Mewn rhai achosion, gall trallod moesol arwain at anaf moesol (darllen mwy).

Yn ôl yr Athro Chris Bundy, ymchwilydd ar brosiect ASSISTANCE, “Daeth COVID-19 ag amodau gwaith y GIG i’r amlwg, boed hynny’n brinder staff neu ddiffyg offer…”

Adroddodd nyrsys fod yr amodau gwaith hyn yn golygu na allent ofalu am eu cleifion yn iawn yn ystod y Pandemig, gan arwain at lefel uchel o drallod moesol.

Mesur lefelau trallod mewn nyrsys

O’r 278 o nyrsys a ymatebodd i’r arolwg ar-lein, roedd 75% yn dangos symptomau iselder ysgafn a 69% yn dangos symptomau gorbryder.

Soniwyd am lefelau uchel o drallod moesol yn y gwaith yn arbennig ymhlith y rhai a adleolwyd yn ystod y pandemig, y rhai a fu’n gofalu am fwy na 40 o gleifion COVID-19 a’r rhai oedd yn bwriadu gadael y proffesiwn.

Dywedodd llawer nad oeddent yn teimlo’n barod ar gyfer yr heriau trallodus a ddaeth yn sgil y pandemig, megis cyflwyno newyddion drwg i aelodau o’r teulu nad oeddent yn gallu ffarwelio â’u hanwyliaid yn yr ysbyty a darparu gofal diwedd oes da.

At hynny, teimlai nyrsys cymwysedig a myfyrwyr nyrsio fod lefel y gefnogaeth a gynigiwyd yn y gweithle wedi gostwng yn raddol trwy gydol y pandemig.

Nid trawma yn y gwaith a thensiynau yn y gweithle yn unig a gafodd effaith, effeithiodd llawer o sefyllfaoedd a brofwyd yn ystod y pandemig ar amgylcheddau yn y gwaith a’r cartref. Roedd anallu i ofalu a thrawma personol fel marwolaethau teuluol, tor-perthynas a cham-esgor hefyd yn cyfrannu at les seicolegol isel ymhlith nyrsys.

Cymorth iechyd meddwl newydd i nyrsys

Yn ystod y pandemig, roedd cymorth iechyd meddwl cyfrinachol am ddim ar gael i nyrsys yng Nghymru drwy wasanaeth o’r enw Iechyd i Weithwyr Iechyd Proffesiynol Cymru (a elwir yn bellach yn Canopi). Mae Canopi’n galluogi staff y GIG a gofal cymdeithasol yng Nghymru i fanteisio ar gymorth iechyd meddwl cyfrinachol, personol, rhad ac am ddim ar sail hunanatgyfeirio. 

Nod ail gam yr astudiaeth oedd asesu effaith cyflwyno’r math hwn o wasanaeth ar les seicolegol nyrsys. Casglwyd gwybodaeth trwy 20 o gyfweliadau manwl gyda nyrsys cofrestredig.

Nodwyd pedair prif thema o’r cyfweliadau: 

  1. Newidiodd COVID amodau nyrsio er gwaeth. Roedd nyrsys yn aml yn teimlo’n ddiymadferth a’u bod yn methu ag atal neu leddfu effeithiau COVID-19 ar eu cleifion. Roedd rhai’n gweithio oriau ychwanegol neu’n rhoi’r gorau i’w gwyliau i gwrdd â galwadau cynyddol y gwaith.
  2. Roedd cymorth iechyd meddwl cyfrinachol, pwrpasol yn rhoi cyfle i nyrsys deimlo’n agored i niwed ac yn eu helpu i oresgyn y stigma o gyrchu cymorth iechyd meddwl trwy annog trafodaeth agored a gofyn iddynt wrthod fersiynau ‘delfrydol’ ohonynt eu hunain fel rhai ‘goruwchddynol’.
  3. Gwnaeth cymorth iechyd meddwl wahaniaeth i fywydau nyrsys drwy ddilysu eu profiadau. Dywedodd rhai fod y problemau oedd yn achosi trallod yn dal i fodoli ond bod pobl yn teimlo bod ganddynt fwy o rym i ddelio â nhw.
  4. Roedd canfyddiad bod cymorth iechyd meddwl yn gyffredinol hygyrch, yn effeithlon ac wedi’i bersonoli. Byddai nyrsys yn argymell y math hwn o wasanaeth i gydweithwyr.

Cymryd rhan

Cam nesaf astudiaeth ASSISTANCE fydd defnyddio canfyddiadau’r ymchwil i lywio’r gwaith o gyd-ddatblygu canllawiau cryno i godi ymwybyddiaeth o drallod moesol mewn nyrsio.

Os ydych yn nyrs gofrestredig neu’n fyfyriwr nyrsio ac yn dymuno bod yn rhan o’r broses, cofrestrwch ar gyfer y digwyddiad i randdeiliaid.

Beth nesaf?

Gyda diolch i dîm ASSISTANCE am eu cyfraniad i’r blog hwn.