Categorïau
Blog

Adnabod arwyddion anaf moesol 

Yma, rydym ni’n edrych ar rai o’r sbardunau a’r cysyniadau allweddol sy’n gysylltiedig ag anaf moesol, “…un o’r heriau mwyaf a adroddwyd gan staff gofal iechyd rheng flaen Gwasanaeth Iechyd Gwladol y DU…” (Williamson et al, 2021).

Cyfyng-gyngor moesol yn y gweithle  

Ydych chi’n dioddef gydag ymdeimlad o euogrwydd, cywilydd neu edifeirwch ar ôl gweld, cyflawni neu glywed am ddigwyddiad sy’n mynd yn groes i’ch credoau? Ydy hyn yn gwneud i chi ailystyried eich gyrfa, er enghraifft, newid eich rôl? Lleihau eich oriau gwaith? Gadael eich gweithle neu hyd yn oed eich proffesiwn?   

Efallai eich bod yn profi anaf moesol.   

Anaf moesol yw “… trallod seicolegol sy’n deillio o weithredoedd, neu ddiffyg gweithredoedd, sy’n torri cod moesol neu foesegol rhywun” (Greenberg et al, 2020).   Yn ein cofnod blog diwethaf, darganfu Rachel ei bod yn dioddef anaf moesol o ganlyniad i’w phrofiadau fel nyrs gofal dwys.

Mae unigolion yn fwy tebygol o brofi anaf moesol oherwydd diffyg paratoi ar gyfer adegau o gyfyng-gyngor moesol y gallent eu hwynebu yn ystod eu gyrfa a chefnogaeth amserol a phriodol annigonol gan y sefydliad.   

Yn ystod pandemig digynsail COVID-19, mae’r canlynol yn enghreifftiau o ‘gyfyng gyngor moesol’ o’r fath:  

  • Penderfyniadau triniaeth a gofal diwedd oes  
  • Methu â rhoi’r gofal diwedd oes gorau. 
  • Methu cynnal a sicrhau gwerthoedd a safonau proffesiynol craidd. 
  • Cydbwyso dyletswydd i gleifion gyda theulu a ffrindiau.  
  • Darparu gofal gydag adnoddau cyfyngedig neu annigonol: er enghraifft, offer diogelu personol annigonol neu ddiffygiol; awyrwyr.    

Greenberg et al, 2020. 

Gall gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol ddod i gysylltiad â digwyddiadau sy’n niweidiol yn foesol, o achosion lle gofynnir iddynt weithredu, neu mewn rhai achosion eu cyfarwyddo i beidio â gwneud hynny, sy’n mynd yn groes i’w hyfforddiant a’u hymdeimlad o dda a drwg, neu lle gallent brofi brad yn y gwaith. 

Gall yr unigolyn neu rywun arall gyflawni’r gweithredoedd hyn mewn sefyllfa lle mae llawer yn y fantol mewn perthynas â pherson agored i niwed, megis plentyn, yr henoed, neu rywun sy’n sâl.    

Mae’n wahanol i Anhwylder Straen Wedi Trawma (PTSD) 

Gall rhywun sy’n profi anaf moesol gyflwyno gydag amrywiaeth o emosiynau a strategaethau ymdopi gwahanol er mwyn delio â’r teimladau cysylltiedig o euogrwydd, cywilydd, edifeirwch neu dristwch. 

Gall hyn swnio’n debyg iawn i PTSD, ond mae anaf moesol yn “…agwedd wahanol ar amlygiad trawma, ar wahân i PTSD.” (Barnes et al, 2019).   

Er bod llawer o’r symptomau’n gorgyffwrdd ac y gall y ddau gyd-ddigwydd:   

  • Nid yw anaf moesol cael ei ddosbarthu’n salwch meddwl.  
  • Mae’n datblygu o ganlyniad i fygythiad uniongyrchol neu anuniongyrchol i gredoau moesol yn hytrach na bygythiad i fywyd, anaf difrifol neu drosedd rhywiol.   
  • Nid yw’n seiliedig ar ofn ond yn fwy cysylltiedig ag emosiynau sy’n datblygu ar ôl y digwyddiad fel euogrwydd a chywilydd.   

Beth y gellir ei wneud?  

Er nad yw anaf moesol yn cael ei ddosbarthu’n salwch meddwl, gall arwain at un. Nid oes cwrs llinol o driniaeth, er y defnyddir therapïau mwy traddodiadol yn aml, megis therapïau siarad. Mae Greenberg et al hefyd yn pwysleisio pwysigrwydd mesurau lliniarol wrth baratoi rhywun ar gyfer y cyfyng-gyngor moesol y gallent ei wynebu, a ddiffinnir fel “…sicrwydd di-flewyn-ar-dafod, nid cysur ffug.”  

Ewch i gael help; atgyfeiriwch eich hun heddiw 

Swnio’n gyfarwydd? Os ydych chi’n adnabod rhai o arwyddion anaf moesol ynoch chi’ch hun, efallai yr hoffech chi siarad â gweithiwr proffesiynol Canopi. Mae ein cynghorwyr yma i helpu gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru drwy ddarparu cymorth iechyd meddwl cyfrinachol am ddim.