Yn y gwasanaeth Canopi, mae’ch adborth yn bwysig iawn inni. Dyna pam rydyn ni’n gofyn i bawb gwblhau arolwg adborth ar ôl cael cymorth gennyn ni.
Categori: Newyddion
Mae adborth yn ein helpu i greu gwell gwasanaeth cymorth i staff y GIG a gofal cymdeithasol yng Nghymru. Darllenwch ymlaen i gael gwybod yr hyn a ddywedodd y bobl sy’n defnyddio ein gwasanaeth am Canopi.
Drama a ddarlledir ar S4C yw ‘Creisis’. Mae’n dilyn profiadau nyrs seiciatrig sy’n gweithio’n rhan o dîm ‘Datrys Argyfyngau a Thriniaeth Gartref’ yng Nghwm Rhondda. Roedd seiciatrydd Canopi, Dr Rhys Bevan-Jones, yn ymgynghorydd seiciatrig i’r ddrama. Yma, mae’n sôn rhagor am y gyfres a sut mae’n adlewyrchu profiadau gweithwyr y GIG yng Nghymru heddiw.
Dyma Canopi: dyfodol HHP Cymru
Rydyn ni’n ehangu! Mae ein gwasanaeth yma i gefnogi holl staff gofal cymdeithasol a staff y GIG yng Nghymru.
Oherwydd y newidiadau cyffrous hyn, roeddem yn meddwl ei bod yn bryd cael enw newydd. Dyma Canopi…
Rydym yn falch o roi gwybod bod Iechyd i Weithwyr Proffesiynol Cymru (HHP Cymru), gwasanaeth cymorth i bob aelod staff GIG yng Nghymru, wedi ymuno ag Is-adran Meddygaeth Seicolegol a Niwrowyddorau Clinigol ym Mhrifysgol Caerdydd.
Grŵp Cynghori Cyhoeddus Canopi
Mae Canopi yn darparu model haenog rhad ac am ddim o gefnogaeth seicolegol ac iechyd meddwl i weithwyr iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru. Mae Canopi yn gyffrous i gyhoeddi’r alwad am ddatganiadau o ddiddordeb i gadeirydd a hyd at chwe aelod arall er mwyn sefydlu Grŵp Cynghori Cyhoeddus Canopi (PAG). Bydd y PAG yn […]