Categorïau
Blog

Blwyddyn o gynnig cymorth i staff gofal cymdeithasol a staff y GIG yng Nghymru

Ar ôl ehangu ein gwasanaethau cymorth iechyd meddwl ym mis Mai 2022, mae Canopi yn dathlu blwyddyn o gynnig cymorth i staff gofal cymdeithasol a staff y GIG yng Nghymru.

Mae tua 1 o bob 6 o bobl sy’n gweithio yng Nghymru yn cael eu heffeithio gan gyflwr iechyd meddwl; ceir y cyfraddau uchaf o adrodd ynghylch straen, gorbryder ac iselder ymhlith y sawl sy’n gweithio mewn proffesiynau gofalu*.

Dyna pam yr ehangodd Canopi ei wasanaethau i gyrraedd staff gofal cymdeithasol ym mis Mai 2022. Ers hynny, mae dros 347 o staff gofal cymdeithasol wedi cysylltu â’n gwasanaeth i ofyn am gymorth gan eu bod yn teimlo’n isel eu hysbryd, yn orbryderus, neu am gymorth ynghylch pryderon eraill yn ymwneud â’u hiechyd meddwl.

“Yn y cyfnod heriol hwn, mae Canopi yn ffynhonnell arall o gymorth ar gyfer staff sy’n gweithio yn y maes gofal cymdeithasol. Ers lansio Canopi, mae staff gofal cymdeithasol o bob rhan o Gymru wedi cysylltu â ni am amrywiaeth o resymau. Wrth i ni ddechrau ein hail flwyddyn, mae hyrwyddo Canopi yn barhaus i’r gweithlu gofal cymdeithasol yn flaenoriaeth o hyd.”
Yr Athro Fiona Verity, Dirprwy-Gyfarwyddwr Canopi.

Helpu staff gofal cymdeithasol ledled Cymru

Gall staff gofal cymdeithasol a staff y GIG o bob rhan o Gymru gael cymorth drwy Canopi. Rydym yma’n arbennig i helpu’r rhai nad oes ganddynt fynediad at opsiynau cymorth drwy gyflogwyr neu sy’n pryderu am gysylltu â nhw.

Rydym yn falch iawn ein bod wedi helpu staff gofal cymdeithasol o bob rhan o’r wlad:

Pwy gysylltodd â ni i ofyn am gymorth?

Gall anawsterau iechyd meddwl effeithio ar unrhyw un. Mae’r bobl a ofynnodd i ni am gymorth yn gweithio mewn amrywiol rolau yn y sector gofal cymdeithasol:

Sut mae’r gwasanaeth yn gweithio?

Mae Canopi yn wasanaeth cyfrinachol rhad ac am ddim ar gyfer y rhai sy’n gweithio yn y maes gofal cymdeithasol a’r GIG yng Nghymru. Yn syml, atgyfeiriwch eich hun ar-lein a byddwn yn anfon dolen atoch i’n porth cadw lle; yno gallwch wneud apwyntiad gydag un o’n Meddygon sy’n Gynghorwyr.

Gyda’ch gilydd, gallwch benderfynu ar ddull personol a theilwredig o fynd i’r afael â’ch anghenion. Gallai hyn olygu mynediad at ddeunyddiau hunangymorth rhad ac am ddim, neu ddewisiadau amgen eraill dan arweiniad therapydd.

Atgyfeiriwch eich hun heddiw

Os ydych chi’n rhan o’r gweithlu gofal cymdeithasol yng Nghymru ac mae angen cymorth arnoch chi, darganfyddwch beth allwn ni ei gynnig i chi heddiw:

Rhowch wybod i bawb

Mae sgwrsio o ddifri ynghylch lles ein cydweithwyr yn bwysig iawn o ran meithrin ymddiriedaeth a chodi ymwybyddiaeth ynghylch iechyd meddwl. Mae nifer o staff gofal cymdeithasol yng Nghymru nad ydynt wedi clywed am ein gwasanaeth eto.

Helpwch ni i ledaenu’r gair am ein gwasanaeth drwy archebu posteri hyrwyddo a chardiau post ar gyfer eich gweithle neu sgwrsio â’ch cydweithwyr am rai o’r gwasanaethau rydym yn eu cynnig.

*Yn ôl NICE, dyfynnwyd gan AaGIC.