Categorïau
Blog

Cwrdd â’n Gwirfoddolwr Cymorth Cymheiriaid: Michael

Mae Michael, Seicolegydd Siartredig sydd wedi ymddeol, yn rhannu ei brofiad o fod yn Ddarparwr Cymorth Cymheiriaid gyda HHP Cymru.

Cefais fy ysbrydoli i ymgymryd â’r rôl ar ôl i mi ymddeol oherwydd fy mod mewn sefyllfa dda ‘i roi rhywbeth yn ôl’ yn dilyn gyrfa yn y GIG ac yn ddiweddarach mewn amgylchedd corfforaethol.

Daeth y broses o recriwtio cefnogwyr cymheiriaid Canopi ar yr adeg iawn yn union.

Rwy’n byw yng Ngogledd Cymru gyda fy nheulu. Rwyf hefyd yn ymddiriedolwr gydag Ymchwil Canser y Gogledd-orllewin ac yn mwynhau’r awyr agored gan rannu fy amser hamdden rhwng y môr a’r mynyddoedd, ac rwy’n dysgu siarad Cymraeg.

Two women walking

Felly sut dechreuoch chi ymwneud â Canopi?

Mae Canopi yn cynnig gwasanaeth cyfrinachol am ddim sy’n rhoi mynediad i gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru hyd at wahanol lefelau o gymorth iechyd meddwl gan gynnwys hunangymorth, hunangymorth dan arweiniad, cymorth gan gymheiriaid, a therapïau wyneb yn wyneb rhithwir gydag arbenigwyr achrededig.

Dechreuodd fy rôl cymorth cymheiriaid tua deunaw mis yn ôl, mewn ymateb i neges ar Facebook yn galw am wirfoddolwyr.

Bryd hynny, roedd Canopi am ddatblygu gwasanaeth cymorth cymheiriaid ar gyfer staff GIG Cymru mewn ymateb i bandemig COVID-19 (ers hynny mae wedi ehangu i gefnogi gweithwyr gofal cymdeithasol).

Roedd y gofynion rôl ar gyfer gwirfoddolwyr Cymorth Cymheiriaid yn cynnwys:

  • Gwybodaeth fanwl am y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a’r sector gofal cymdeithasol
  • Y gallu i ddefnyddio dull gweithredu llawn empathi wrth gynnal ffiniau proffesiynol ar yr un pryd
  • Diddordeb mewn materion iechyd a lles
  • Profiad o gwnsela a/neu fentora a/neu hyfforddi

Rwy’n canolbwyntio ar weithio gyda’r unigolyn i gael cipolwg ar ei broblemau, ac yn ei gyfeirio, os yw’n briodol, at ffynonellau cymorth eraill sydd ar gael drwy Canopi.

Er i mi gael sicrwydd gan Canopi fod y rôl yn hyblyg iawn, rwy’n gweld y gallaf gynnig tua diwrnod yr wythnos a chefnogi 1-3 achos yr wythnos, gyda phob achos yn cynnwys lefel amrywiol o ryngweithio.

Beth sy’n digwydd pan fydd rhywun yn cysylltu â Canopi?

Mae Canopi yn gweithio ar sail hunangyfeirio. Gall unigolion atgyfeirio eu hunain drwy wefan Canopi.

Ar ôl cwblhau’r ffurflen hunangyfeirio, caiff yr unigolyn ei roi mewn cysylltiad â Meddyg Ymgynghorol, a fydd yn argymell gwahanol fathau o gymorth sydd ar gael trwy’r gwasanaeth.

Pan argymhellir Cymorth Cymheiriaid, gwneir cyswllt dros y ffôn a threfnir sesiynau cymorth cymheiriaid rhwng gwirfoddolwr, fel fi, a’r unigolyn ar gyfer amserau y gellir cytuno arnynt gyda’i gilydd.

Woman tallking on phone

Darperir cymorth mewn man cyfrinachol ac mae’n amodol ar finnau’n rhannu gwybodaeth lle nodir risgiau penodol.

Anogir pobl i gael mwy nag un sgwrs, hyd at chwe sesiwn.

Yn bwysig, nid therapi clinigol yw cymorth cymheiriaid. Nid yw fy rôl yn golygu fy mod yn rhoi diagnosis neu driniaeth feddygol, cyngor cyfreithiol na chwnsela.

Nid wyf yn gyflogai nac yn asiant i wasanaeth Canopi, ond mae gennyf fudd o indemniad y goron, hyfforddiant a mynediad i gydweithwyr cymorth cymheiriaid.

Dros y deunaw mis diwethaf rwyf wedi cefnogi llawer o unigolion trwy eu hanawsterau iechyd meddwl.

Diddordeb mewn gwirfoddoli fel mentor?

Os hoffech archwilio dod yn wirfoddolwr mewn rôl cefnogi cyfoedion, cysylltwch â thîm Canopi: canopi@cardiff.ac.uk