Categorïau
Blog

Wyth arwydd o ludded na ddylech eu hanwybyddu

Roedd adroddiad gan Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru (2021) yn cydnabod lludded corfforol a meddyliol, neu ‘losgi allan’, fel y’i gelwir, fel un o’r bygythiadau mwyaf i weithrediad gwasanaethau’r GIG a gofal cymdeithasol.

Sut deimlad yw cael ‘llosgi allan’, a beth gallwch chi ei wneud?

Gweithlu wedi blino’n lân?

Mewn blogiau blaenorol, mae defnyddwyr gwasanaeth Canopi o’r sector iechyd a gofal cymdeithasol wedi rhannu eu profiadau gyda ni. Beth bynnag yw eu rhesymau dros geisio cymorth, mae’r rhan fwyaf os nad pob un o’r unigolion hyn wedi profi cyflwr o ludded emosiynol neu gorfforol.

Mae rolau gofalu yn heriol yn gorfforol ac yn emosiynol ac yn aml yn ein hannog i roi lles unigolion mwy agored i niwed uwchlaw ein lles ein hunain. Gall heriau ychwanegol yn y gweithlu fel diffyg adnoddau neu staff a chyfyng-gyngor moesol yn sgil hynny (gweler y blog ar ‘Anafiadau Moesol‘) roi lefel uchel o straen ar unigolyn.

Gall straen fod yn dda i ni, ond beth sy’n digwydd os ydym yn agored i lefelau uchel o straen heb gymryd amser i reoli ein lles? Canlyniad posibl i hyn yw anhwylder lludded cysylltiedig â straen (ED). 

Nid blinder yn unig mohono

Nid teimlo’n ‘flinedig’ yn unig yw anhwylder lludded. Fe’i diffinnir fel ‘cyflwr clinigol a nodweddir gan symptomau seicolegol a chorfforol lludded a ddatblygwyd mewn ymateb i straen seicogymdeithasol tymor hir’ (Grossi et al., 2015).

Mae gan ludded meddyliol a chorfforol arwyddion penodol sy’n effeithio ar ein gweithrediad a’n ‘gwybyddiaeth’ o ddydd i ddydd gan gynnwys swyddogaeth weithredol, cof gweithio, sylw a chyflymder prosesu (Gavelin et al 2020).  

Os ydym eisoes mewn cylch o ludded sy’n gysylltiedig â straen, yn cael anhawster gwneud penderfyniadau, cofio tasgau pwysig a datrys problemau, yna gall y cylch barhau heb ymyrraeth briodol.

Beth yw arwyddion lludded?

1.) Blinder eithafol: Efallai y byddwch yn teimlo’n flinedig (hyd yn oed ar ôl noson dda o gwsg) ac yn teimlo na allwch gymryd rhan mewn gweithgareddau beunyddiol fel gwneud cinio neu ymarfer corff.

2.) Teimlo eich bod wedi’ch trechu: Efallai byddwch yn teimlo nad ydych yn gwneud gwahaniaeth yn y gwaith, gartref neu yn y gymuned.

3.) Hunan-amheuaeth: Pan fyddwn yn cael anawsterau gwybyddol, efallai y byddwn yn cwestiynu a ydym yn gwneud gwaith digon da.

4.) Anawsterau cof: Efallai y byddwch yn ei chael hi’n anodd cofio rhai tasgau neu wybodaeth, ‘niwl yr ymennydd’, fel y’i gelwir.

5.) Teimlo’n bigog: Efallai y byddwch yn mynd yn bigog neu’n ddiamynedd gyda’r rhai o’ch cwmpas.

6.) Anhawster gwneud penderfyniadau: Gall straen gymylu ein gallu i wneud penderfyniadau cadarn.

7.) Teimlo eich bod wedi’ch llethu: Weithiau gall deimlo bod ein hymrwymiadau gwaith, cartref neu ymrwymiadau bywyd eraill yn ormod i ni a’n bod ni’n ‘boddi’.

8.) Datgysylltiad emosiynol: Efallai y byddwn yn ceisio datgysylltu ein hunain oddi wrth berthnasoedd gwaith a phersonol yn llwyr mewn ymgais i amddiffyn ein hunain rhag cael ein brifo.

Rwy’n credu efallai fy mod yn profi hyn. Beth galla i wneud?

Ymarfer diolchgarwch

Dechrau dyddlyfr a gwneud nodyn o’r pethau rydych chi’n ddiolchgar amdanynt. Gallwch edrych yn ôl ar hyn ar unrhyw adeg.

Gwneud pethau rydych chi’n eu mwynhau

Gwneud mwy o amser ar gyfer y pethau rydych chi’n eu mwynhau. Os nad ydych yn siŵr beth i’w wneud, edrychwch ar ein tudalen Adnoddau.

Gosod nodau cyraeddadwy

Pan fyddwch chi’n nodi prif achosion eich straen, efallai y byddwch am wneud newidiadau bach neu fawr i’w liniaru. Gallai hynny olygu newidiadau i’ch oriau gwaith neu ddysgu sgil newydd.

Gwneud rhestrau

Os ydych yn cael trafferth cofio tasgau a gwybodaeth, gall gwneud rhestrau fod yn ffordd ddefnyddiol i’ch atgoffa ac osgoi straen pellach.

Rhowch gynnig ar fyfyrio neu weithgareddau corfforol

Pan fyddwn dan straen, rydym yn aml yn myfyrio ar brofiadau’r gorffennol neu’n poeni am y dyfodol. Gall myfyrio ein helpu i deimlo’n bresennol ac ar sylfaen gadarn. Ar ben hynny, mae myfyrio a gweithgareddau corfforol eraill yn rhyddhau hormonau da i roi hwb i’n hwyliau. Ar gyfer cysylltiadau a gweithgareddau a awgrymir, ewch i’n tudalen Adnoddau.

Siarad â gweithiwr proffesiynol

Gallech: