Categorïau
News

Symposiwm cyntaf blynyddol Canopi Cymru

Diolch i bawb a ymunodd â ni ar gyfer ein symposiwm blynyddol cyntaf ar 11 Rhagfyr 2020.

Roeddem yn falch o ddod â’r tîm sy’n ymwneud â rhedeg y gwasanaeth HHP Wales ((bellach yn cael ei alw’n Canopi Cymru) ynghyd â chynulleidfa ehangach sydd â diddordeb ac sy’n ymwneud â chymorth iechyd meddwl ledled Cymru a’r DU.

Yn ogystal ag adolygu’r gwasanaethau a gynigir trwy Canopi, clywsom gan gydweithwyr yn y GIG sydd wedi derbyn cefnogaeth gennym ni.

Diolch o galon i Sarah a Natalie am roi o’u hamser i rannu eu profiadau, o’r hyn a’u harweiniodd i’r gwasanaeth a sut y daethant o hyd i’r cymorth a gawsant.

Cafwyd sgwrs hynod ddiddorol gan yr Athro Neil Greenberg ynghylch cysyniadau anafu moesol ac arweiniodd Dr Julie Highfield fyfyrdod ar y strategaethau ymarferol i leddfu galar a cholled.

Gan fod ein symposiwm cyntaf wedi ei gynnal ar-lein o ganlyniad i bandemig COVID-19, mae recordiad ar gael o’r digwyddiad.

  • Croeso – Jon Bisson
  • Anerchiad agoriadol gan Brif Swyddog Meddygol Cymru – Frank Atherton
  • Iechyd i Weithwyr Iechyd Proffesiynol Cymru: Y gorffennol, heddiw a’r dyfodol – Debbie Cohen a Jake Hard
  • Anaf Moesol: Beth ydyw a beth i’w wneud amdano? – Neil Greenberg
  • Myfyrio ar profiad o’r gwasaneth – Sarah, Natalie a Thomas Kitchen
  • Gwneud synnwyr o’n galar a’n colled – Julie Highfield
  • Sesiwn holi ac ateb, a diwedd y cyfarfod

Canopi Cymru

Mae Canopi yn cynnig mynediad at gymorth iechyd meddwl i weithwyr iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru.

Mae Canopi yn wasanaeth cyfrinachol am ddim sy’n cael ei gefnogi gan gyllid Llywodraeth Cymru a’i weinyddu trwy Brifysgol Caerdydd.

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *