Categorïau
Blog

Iechyd meddwl ar reng flaen COVID-19

Mae astudiaeth barhaus o iechyd meddwl yn ystod y pandemig wedi canfod bod 62% o oedolion wedi nodi eu bod yn dioddef o orbryder neu’n teimlo’n bryderus o ganlyniad i COVID-19 ar ôl y don gyntaf ym mis Mawrth 2020.

Y prif resymau a roddwyd am y teimladau hyn o orbryder oedd: mynd yn sâl, cael eu gwahanu oddi wrth ffrindiau a theulu, ac ansicrwydd am y dyfodol a’u sefyllfa ariannol.

Cafodd llinellau ffôn argyfwng iechyd meddwl sy’n cael eu cynnal gan y GIG dros dair miliwn o alwadau yn ystod y pandemig. 

Er bod effeithiau COVID-19 ar iechyd meddwl holl boblogaeth y DU wedi bod yn ddifrifol, mae gweithwyr gofal iechyd wedi wynebu lefelau uwch o ofid o ganlyniad i’r pandemig.

Thank you NHS sign in window

Iechyd meddwl gweithwyr y GIG

Mae ymwybyddiaeth o iechyd meddwl ymhlith y boblogaeth gyffredinol wedi gwella. Er gwaethaf hyn, mae’n parhau i fod yn bwnc tabŵ ymhlith y proffesiwn meddygol.

Mae llawer o weithwyr gofal iechyd wedi gorfod wynebu lefelau uchel o drawma seicolegol ac felly maent mewn mwy o berygl o gael canlyniadau iechyd meddwl negyddol.

Mae ymchwil flaenorol wedi canfod bod meddygon a myfyrwyr meddygol yn teimlo’n betrusgar ynghylch datgelu cyflwr iechyd meddwl ac yn gyndyn i geisio cymorth rhag ofn y byddant yn cael eu beirniadu neu’n wynebu goblygiadau proffesiynol.

Mae astudiaethau’n dangos bod y pandemig wedi effeithio’n anghymesur ar weithwyr gofal iechyd o’u cymharu â’r boblogaeth gyffredinol.

Person in medical gear preparing COVID-19 test

Mae un astudiaeth yn dangos bod hyd at draean o weithwyr y GIG yn nodi bod ganddynt lefelau uwch o ofid oherwydd y pandemig. Roedd 50% o’r staff yn teimlo bod eu hiechyd meddwl wedi gwaethygu yn ystod dau fis cyntaf COVID-19 a dywedodd 45% o’r meddygon a holwyd eu bod wedi profi iselder, gorbryder neu straen a gafodd eu hachosi neu eu gwaethygu gan y pandemig. 

Fe wnaeth astudiaeth ar wahân a gynhaliwyd ar weithwyr meddygol ganfod bod 40% o’r ymatebwyr wedi dweud eu bod yn dioddef o ystod fwy eang o gyflyrau seicolegol ac emosiynol  ar hyn o bryd oherwydd COVID-19.

Er bod gweithwyr y GIG ar y rheng flaen yn y frwydr yn erbyn COVID-19, mae staff yn y DU yn nodi nad oes digon o gyfarpar diogelu personol a phrofion COVID-19 ar gael ar gyfer staff gofal iechyd.

At hynny, dywedodd 90% o’r ymatebwyr fod eu hamgylchedd gwaith, hyfforddiant neu astudio presennol wedi cyfrannu at eu cyflwr.

O’u cymharu â’r boblogaeth gyffredinol, nododd gweithwyr allweddol yn ystod y pandemig lefelau sylweddol uwch o symptomau anhwylder straen wedi trawma (PTSD), anhunedd, iselder a gorbryder. 

Ffactorau allweddol sy’n effeithio ar les staff y GIG

Man and woman facetiming

Deall pwy sydd fwyaf mewn perygl

Canfuwyd bod gweithwyr rheng flaen y GIG sy’n cyfrannu’n uniongyrchol at y gwaith o drin a rhoi diagnosis o COVID-19 yn fwy agored i effeithiau negyddol y pandemig ar iechyd corfforol a meddyliol.

Ymhlith y rhain mae nyrsys a pharafeddygon. Mae 52% o nyrsys yn dweud eu bod yn pryderu am eu hiechyd meddwl oherwydd cynnydd mewn straen yn y gweithle yn ystod y pandemig. 

At hynny, mae astudiaethau wedi canfod bod lleiafrifoedd, pobl ifanc, myfyrwyr amser llawn, pobl ddi-waith, rhieni sengl, y rhai ag anableddau hirdymor, a’r rhai â phroblemau iechyd meddwl sy’n bodoli eisoes mewn perygl mawr o gael trafferth ymdopi â’r pandemig. 

Rydym yma ar gyfer gweithwyr y iechyd a gofal yng Nghymru

Mae Canopi yn cynnig cymorth iechyd meddwl i gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru.

Mae Canopi yn wasanaeth cyfrinachol am ddim sy’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru a’i weinyddu drwy Brifysgol Caerdydd.

Adnoddau iechyd meddwl defnyddiol

Rhagor o wybodaeth

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *