Categorïau
Blog

Angen help? Cymorth cyfrinachol am ddim i ddefnyddwyr alcohol

A wyddoch, ar gyfer dynion a menywod, y dylid argymell nad ydym yn yfed mwy na 14 uned o alcohol yr wythnos?

Ond beth yn union yw uned a phryd mae’n ormod?

Mae anhwylder defnyddio alcohol (AUD) yn gyffredin iawn ym mhoblogaeth oedolion y Deyrnas Unedig, gyda 4% o bobl rhwng 16 a 65 oed yn ddibynnol ar alcohol a 24% o oedolion yn yfed alcohol mewn ffordd a allai fod yn niweidiol.

Mae canllawiau’r Prif Swyddog Meddygol ar gyfer dynion a menywod yn nodi, er mwyn cadw risgiau iechyd o alcohol i lefel isel, ei bod yn fwyaf diogel peidio ag yfed mwy na 14 uned yr wythnos yn rheolaidd.

Mae un uned yn 10ml o alcohol pur. Gan fod diodydd alcoholig yn dod mewn gwahanol gryfderau a meintiau, mae unedau’n ffordd dda o ddweud pa mor gryf yw eich diod.

Mae llawer o stigma’n ymwneud ag anhwylder defnyddio alcohol a cheir pryder am farnu a chanlyniadau proffesiynol pe bai problem yn cael ei chanfod.

Cymorth alcohol drwy Canopi

Mae Canopi yn darparu gwasanaeth cyfrinachol iawn sy’n seiliedig ar dystiolaeth ar gyfer staff a myfyrwyr i gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru.

Mae Canopi yn gweithredu mewn awyrgylch o ymddiriedaeth a bod yn agored er mwyn osgoi teimladau o ofn a chywilydd ac mae’n ymdrechu i gynnig cyfle i holl staff mewn iechyd a gofal cymdeithasol gael cymorth priodol ar gyfer iechyd meddwl a chamddefnyddio alcohol.

Er mwyn taflu goleuni ar y gwasanaeth pwysig hwn, mae dau aelod o dîm Canopi, sef Dr Bern Hard a Dr Mohan de Silva, wedi cytuno’n garedig i drafod y gwasanaeth anhwylder defnyddio alcohol yn fanylach.

Mae Iechyd i Weithwyr Iechyd Proffesiynol Cymru (HHP) bellach yn cael ei alw’n Canopi.

“Rwy’n credu bod llawer o bobl yn poeni am gyfrinachedd, stigma a chanlyniadau datgelu gwybodaeth am y defnydd o alcohol.

“Mae’r egwyddorion sy’n sail i’n gwasanaeth AUD yn fewnwelediad a chydweithrediad.”

Dr Bern Hard

Beth yw hanes y gwasanaeth?

Dr Mohan

“Mae’r gwasanaeth wedi esblygu o’r HHP Cymru gwreiddiol.

“Cyn y pandemig COVID-19, sefydlwyd Canopi ar gyfer gweithwyr gofal iechyd proffesiynol a oedd yn feddygon sy’n gweithio yng Nghymru, ac roedd y gwasanaeth yn cynnig therapi gwybyddol ymddygiadol strwythuredig i’r rhai a fyddai’n elwa o gymorth iechyd meddwl.

“Yn dilyn y pandemig, ehangwyd mynediad at wasanaethau Canopi i bob unigolyn sy’n gweithio i GIG Cymru. Rhagwelwyd hefyd, oherwydd amgylchiadau COVID-19, y byddai nifer gynyddol o ddarparwyr gofal iechyd ag anhwylder defnyddio alcohol.

“Gyda hyn mewn golwg, ehangwyd cwestiynau sgrinio gwreiddiol Canopi i gynnwys AUDIT i adnabod unigolion o’r fath.”

A allech chi roi trosolwg byr o’r gwasanaeth?

Dr Bern

“Mae’r llwybr anhwylder defnyddio alcohol wedi’i fwriadu’n bennaf i archwilio’r defnydd o alcohol yn fanylach pan fydd wedi’i nodi’n ffactor posibl yn ystod y sgwrs gychwynnol gyda Meddyg Cynghorol Canopi.

“Rydyn ni’n sgrinio ar gyfer anhwylder defnyddio alcohol gan ddefnyddio offeryn safonedig o’r enw AUDIT.

“Gall yr offeryn hwn amlygu cleifion y gallai eu defnydd o alcohol fod yn niweidiol i’w lles mewn nifer o wahanol ffyrdd.

“Mae’r asesiad anhwylder defnyddio alcohol yn caniatáu ar gyfer trafodaeth fanwl am berthynas bresennol a blaenorol y claf ag alcohol, a ph’un a yw hyn yn cael effaith negyddol arno.

“Nod yr asesiad yw canfod a yw’r defnydd o alcohol yn beryglus, yn achosi niwed mewn gwirionedd (niweidiol) neu os oes unrhyw fath o ddibyniaeth gorfforol – ac os felly, pa mor ddifrifol yw hyn.

“Mae hyn yn ein galluogi i gyfeirio cleifion at y strategaethau mwyaf effeithiol i reoli’r broblem.

“Fel arfer, gall defnydd nad yw’n ddibynnol gael ei reoli gyda chymorth ac arweiniad arbenigol, y gallwn eu darparu trwy atgyfeiriad i therapydd gwybyddol ymddygiadol sy’n arbenigo mewn gweithio gydag anhwylder defnyddio alcohol.

“Os yw cleifion yn defnyddio alcohol mewn ffordd sy’n golygu eu bod wedi dod i ddibynnu arno’n gorfforol, yna mae’n fwy priodol eu cynghori i ymgysylltu â gwasanaeth arbenigol yn eu hardal leol. Ein nod yw hwyluso’r cam nesaf hwn, pan fydd angen.”

Two women talking

Os oedd rhywun yn ystyried defnyddio’r gwasanaeth anhwylder defnyddio alcohol, beth fyddech chi eisiau iddo wybod?

Dr Bern

“Rwy’n credu bod llawer o bobl yn poeni am gyfrinachedd, stigma a chanlyniadau datgelu gwybodaeth am ddefnydd o alcohol.
“Dealltwriaeth a chydweithrediad yw’r egwyddorion sy’n sail i’n gwasanaeth anhwylder defnyddio alcohol.

“Wrth drin darparwyr gofal iechyd, mae angen i ni bob amser ystyried yr effeithiau y gallai iechyd y claf ei hun eu cael ar ei allu i drin ei gleifion yn ddiogel.

“Mae gan bob darparwr gofal iechyd ddyletswydd i sicrhau nad yw ei salwch ei hun yn cael effaith negyddol mewn ffordd broffesiynol.
“Mae perygl uwch o hyn os ydym yn gweithredu mewn diwylliant o ofn a chyfrinachedd.

Rydyn ni yn Canopi yn derbyn mai pobl yw darparwyr gofaliechyd. Pobl yn gyntaf. Ac mae gan bawb broblemau.

“Gyda chymorth a chefnogaeth, gallwn fynd i’r afael â’r problemau hynny gyda’n gilydd, mewn ffordd sy’n meithrin lles yn y darparwr gofal iechyd ac yng ngweithlu’r GIG, ac sydd, yn ei dro, yn lleihau’r risg i’n cleifion ein hunain.

“Mae angen cydbwyso cyfrinachedd â thryloywder a rhannu gwybodaeth pan fydd hynny er pennaf les y claf.

“At ei gilydd, ni fydd angen rhannu gwybodaeth y tu allan i Canopi pan fydd gan y claf gofal iechyd ddealltwriaeth dda o’i iechyd ei hun a’i fod yn barod i ddilyn cyngor gweithwyr proffesiynol.

“Mae yna achosion lle y ceir diffyg dealltwriaeth, ac mae angen i ni rannu gwybodaeth er mwyn diogelu cleifion, ond mae’r rhain yn brin, a hyd yn oed wedyn, y nod bob amser yw cynorthwyo’r claf gofal iechyd i wella.”

Group of people walking in the sun set

A allech chi rannu unrhyw wybodaeth am y gwahaniaeth rydych wedi gweld y gwasanaeth yn ei wneud i’ch defnyddwyr?

Dr Mohan

“Yn y rhan fwyaf o achosion, mae’r gweithwyr gofal iechyd proffesiynol yn gadael gyda dealltwriaeth ddyfnach ac yn elwa’n fawr o’r gefnogaeth ychwanegol a gânt o’r cymorth anhwylder defnyddio alcohol.

“Yn fy mhrofiad i, nid oes angen dadwenwyno ffurfiol ar y rhan fwyaf o’r atgyfeiriadau rwyf wedi delio â nhw ac maen nhw’n cael tawelwch meddwl trwy’r camau ychwanegol maen nhw’n eu cymryd gyda’n gwasanaeth.

“Er bod y gweithwyr gofal iechyd proffesiynol yn poeni am gyfrinachedd, maen nhw’n gwerthfawrogi’r cyfle i siarad â rhywun ‘yn ddienw’ – rwy’n credu bod hyn ychydig yn haws ar y ffôn ac mae Canopi yn rhoi’r hyder hwn iddyn nhw.

“Rwy’n credu bod y gwasanaeth o gymorth amhrisiadwy i weithwyr proffesiynol drwy roi cyfle iddynt drafod eu problemau y tu allan i’w cyflogaeth a rhoi cryn gyfrinachedd iddynt drafod eu problemau’n agored heb deimlo cywilydd.”

Adnoddau