Mae astudiaeth barhaus o iechyd meddwl yn ystod y pandemig wedi canfod bod 62% o oedolion wedi nodi eu bod yn dioddef o orbryder neu’n teimlo’n bryderus o ganlyniad i COVID-19 ar ôl y don gyntaf ym mis Mawrth 2020.
Y prif resymau a roddwyd am y teimladau hyn o orbryder oedd: mynd yn sâl, cael eu gwahanu oddi wrth ffrindiau a theulu, ac ansicrwydd am y dyfodol a’u sefyllfa ariannol.
Cafodd llinellau ffôn argyfwng iechyd meddwl sy’n cael eu cynnal gan y GIG dros dair miliwn o alwadau yn ystod y pandemig.
Er bod effeithiau COVID-19 ar iechyd meddwl holl boblogaeth y DU wedi bod yn ddifrifol, mae gweithwyr gofal iechyd wedi wynebu lefelau uwch o ofid o ganlyniad i’r pandemig.
Iechyd meddwl gweithwyr y GIG
Mae ymwybyddiaeth o iechyd meddwl ymhlith y boblogaeth gyffredinol wedi gwella. Er gwaethaf hyn, mae’n parhau i fod yn bwnc tabŵ ymhlith y proffesiwn meddygol.
Mae llawer o weithwyr gofal iechyd wedi gorfod wynebu lefelau uchel o drawma seicolegol ac felly maent mewn mwy o berygl o gael canlyniadau iechyd meddwl negyddol.
Mae ymchwil flaenorol wedi canfod bod meddygon a myfyrwyr meddygol yn teimlo’n betrusgar ynghylch datgelu cyflwr iechyd meddwl ac yn gyndyn i geisio cymorth rhag ofn y byddant yn cael eu beirniadu neu’n wynebu goblygiadau proffesiynol.
Mae astudiaethau’n dangos bod y pandemig wedi effeithio’n anghymesur ar weithwyr gofal iechyd o’u cymharu â’r boblogaeth gyffredinol.
Mae un astudiaeth yn dangos bod hyd at draean o weithwyr y GIG yn nodi bod ganddynt lefelau uwch o ofid oherwydd y pandemig. Roedd 50% o’r staff yn teimlo bod eu hiechyd meddwl wedi gwaethygu yn ystod dau fis cyntaf COVID-19 a dywedodd 45% o’r meddygon a holwyd eu bod wedi profi iselder, gorbryder neu straen a gafodd eu hachosi neu eu gwaethygu gan y pandemig.
Fe wnaeth astudiaeth ar wahân a gynhaliwyd ar weithwyr meddygol ganfod bod 40% o’r ymatebwyr wedi dweud eu bod yn dioddef o ystod fwy eang o gyflyrau seicolegol ac emosiynol ar hyn o bryd oherwydd COVID-19.
Er bod gweithwyr y GIG ar y rheng flaen yn y frwydr yn erbyn COVID-19, mae staff yn y DU yn nodi nad oes digon o gyfarpar diogelu personol a phrofion COVID-19 ar gael ar gyfer staff gofal iechyd.
At hynny, dywedodd 90% o’r ymatebwyr fod eu hamgylchedd gwaith, hyfforddiant neu astudio presennol wedi cyfrannu at eu cyflwr.
O’u cymharu â’r boblogaeth gyffredinol, nododd gweithwyr allweddol yn ystod y pandemig lefelau sylweddol uwch o symptomau anhwylder straen wedi trawma (PTSD), anhunedd, iselder a gorbryder.
Ffactorau allweddol sy’n effeithio ar les staff y GIG
- Newidiadau sylweddol mewn patrymau gwaith
- Cael eu neilltuo i rolau newydd
- Risg o gael haint a gorfod ynysu i ffwrdd o anwyliaid
- Addasu i ddarparu gofal meddygol yn ddigidol – mewn arolwg o 2,000 o staff meddygol, nododd hanner ohonynt mai eu her fwyaf oedd ddefnyddio platfform digidol i ddarparu gofal
Deall pwy sydd fwyaf mewn perygl
Canfuwyd bod gweithwyr rheng flaen y GIG sy’n cyfrannu’n uniongyrchol at y gwaith o drin a rhoi diagnosis o COVID-19 yn fwy agored i effeithiau negyddol y pandemig ar iechyd corfforol a meddyliol.
Ymhlith y rhain mae nyrsys a pharafeddygon. Mae 52% o nyrsys yn dweud eu bod yn pryderu am eu hiechyd meddwl oherwydd cynnydd mewn straen yn y gweithle yn ystod y pandemig.
At hynny, mae astudiaethau wedi canfod bod lleiafrifoedd, pobl ifanc, myfyrwyr amser llawn, pobl ddi-waith, rhieni sengl, y rhai ag anableddau hirdymor, a’r rhai â phroblemau iechyd meddwl sy’n bodoli eisoes mewn perygl mawr o gael trafferth ymdopi â’r pandemig.
Rydym yma ar gyfer gweithwyr y iechyd a gofal yng Nghymru
Mae Canopi yn cynnig cymorth iechyd meddwl i gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru.
Mae Canopi yn wasanaeth cyfrinachol am ddim sy’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru a’i weinyddu drwy Brifysgol Caerdydd.
Adnoddau iechyd meddwl defnyddiol
- Ffurflen atgyfeirio Canopi
- Adnoddau hunangymorth Canopi
- Taflenni iechyd meddwl NCMH
- Gwasanaethau Iechyd Meddwl Llyw.Cymru
- Iechyd Ymarferwyr GIG Lloegr
Rhagor o wybodaeth
- MQ: Coronafeirws: Iechyd Meddwl yn Ystod y Pandemig
- Prifysgol Caerdydd: Arolwg newydd yn datgelu baich COVID-19 ar iechyd meddwl yng Nghymru
- Y Sefydliad Iechyd Meddwl: Sut i ofalu am eich iechyd meddwl yn ystod pandemig y coronafeirws
- Y Sefydliad Iechyd Meddwl: Awgrymiadau ar gyfer ymdopi â chyfnod COVID-19 gan weithiwr allweddol
- Y Sefydliad Iechyd: Goroesi COVID: Effaith y pandemig ar iechyd meddwl gweithwyr y GIG
- Y Sefydliad Iechyd Meddwl: Y pandemig un flwyddyn yn ddiweddarach