Categorïau
Blog

Pum rheswm dros wirfoddoli i fod yn Gynghreiriad Lles gyda Canopi 

Mae Tracey-Lee yn nyrs iechyd meddwl gofrestredig ac mae ganddi bron 40 mlynedd o brofiad yn y GIG. Mae hi hefyd yn Gynghreiriad Lles i Canopi. Dyma ragor am ein Cynghreiriaid Lles, y gwaith maen nhw’n ei wneud, a phum rheswm dros wirfoddoli gyda ni heddiw!

Tracey-Lee ydw i, ac rydw i wedi bod yn gweithio i’r GIG ers 1985. Dros y blynyddoedd, rydw i wedi bod mewn sawl rôl wahanol gan gynnwys rôl ymarferydd arbenigol ym maes nyrsio iechyd meddwl oedolion a phlant, darlithydd, ac ymarferydd dadsensiteiddio ac ailbrosesu symudiadau llygaid (EMDR). 

Ers ymddeol, dwi wedi parhau i fod yn nyrs arweiniol ran-amser yn y Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a’r Glasoed a’r Gwasanaethau Fforensig Plant (CAMHS a FCAMHS), yn ogystal â gweithio gyda Thribiwnlys Adolygu Iechyd Meddwl Cymru ac yn Gynghreiriad Lles i Canopi. 

Mae gwirfoddoli gyda Canopi wedi bod yn brofiad hynod werth chweil. Dyma bum rheswm pam y dylech chi roi cynnig arni heddiw:

Ffordd wahanol o gynorthwyo’r GIG a gofal cymdeithasol

Fe wnes i ymddeol yn 2020 pan ddechreuodd pandemig COVID-19, ac roeddwn i eisoes yn ymwybodol o’r pryderon cynyddol ynghylch lles ein nyrsys a staff eraill ar draws y GIG a gofal cymdeithasol. Roedd yn gyfnod anodd i bawb, ac roeddwn i’n awyddus i gynnig cefnogaeth barhaus i’m cydweithwyr. 

Gall fod o fudd i’ch lles eich hun

A minnau wedi ymddeol ar ddechrau cyfnod clo, roedd defnyddio’r amser rhydd a oedd gen i o fudd i’m lles fy hun hefyd. Nes i ddim meddwl y byddwn i yma o hyd yn gwirfoddoli fel Cynghreiriad Lles bedair blynedd yn ddiweddarach – ond dyma fi!

Byddwch yn rhoi lle diogel i gydweithwyr siarad i ffwrdd o’r gweithle

Mae gwirfoddoli yn y rôl hon wedi bod yn fraint ac rydw i wedi cwrdd â phobl wych sydd wedi rhannu eu pryderon a’u gofidiau â mi. Mae mor bwysig cael cefnogaeth i drafod pethau mewn lle diogel, ac nid yw hyn bob amser yn bosibl yn y gweithle. 

Mae’r GIG a gwasanaethau gofal cymdeithasol, a phawb sy’n gweithio i’r gwasanaethau hyn, yn agos iawn at fy nghalon.  Rydw i’n falch iawn o allu cynnig amser i’m cydweithwyr a gwrando ar beth sydd ganddyn nhw i’w ddweud. 

Byddwch yn teimlo eich bod yn gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl eraill

Da chi, ewch ati i wirfoddoli i Canopi os oes gennych y profiad a’r amser i wneud hynny. Profiad gwirioneddol werth chweil yw cefnogi ein staff ym maes iechyd a gofal cymdeithasol. Maen nhw’n gwneud gwaith gwych ac yn mynd yr ail filltir bob dydd. Rydw i’n hynod ddiolchgar fy mod yn rhan fach o hynny. 

Gallwch weithio’n hyblyg o gwmpas eich ymrwymiadau eraill

Yn nodweddiadol, mae ein Cynghreiriaid Lles yn gwirfoddoli o leiaf awr yr wythnos. P’un a ydych wedi ymddeol ac yn gweithio’n rhan-amser, fel Tracey-Lee, neu’n gweithio’n amser llawn, gallwch wirfoddoli ar amser sy’n gyfleus i chi!

Diolch i Tracey-Lee am rannu ei phrofiadau â ni. 


Darllenwch ragor am y rolau sydd ar gael yn Canopi a dewch i weithio gyda ni heddiw.