Dywedwch wrthym amdanoch chi’ch hun
Helo, Julia ydw i, Ffisiolegydd Cardiaidd yn Ysbyty’r Tywysog Siarl ym Merthyr. Er fy mod i wedi bod yn gweithio mewn rôl glinigol ers 26 mlynedd bellach, rydw i bob amser wedi ystyried fy hun yn berson creadigol: gyda diddordebau yn amrywio o ddarllen, darlunio, a pheintio i hanes lleol a bod ym myd natur. Mae gen i ormod o ddiddordebau i sôn am bob un, siŵr o fod!
Ro’n i wastad wedi caru celf ond doedd gen i erioed ddigon o hyder i fynd amdani, tan chwe blynedd yn ôl pan ro’n i’n mynd trwy gyfnod ‘anodd’ yn fy mywyd. Ro’n i wedi cael diagnosis o ffibromyalgia ac arthritis soriatig, yn ogystal â phrofi sawl newid bywyd, fel ysgariad a phrofedigaeth. Dechreuais ddefnyddio peintio haniaethol fel modd o adfer.
Ers hynny, mae celf a ffotograffiaeth wedi parhau i fod yn arfer hanfodol yn fy mywyd, fel yn 2022 pan gollais fy nghartref a’m ci mewn tân, a chefais i a’m merch ddiagnosis o ADHD.
Sut mae peintio wedi helpu eich lles?
Mae cwnsela, gwaith celf a chadw dyddiadur wedi fy helpu i brosesu’r hyn sydd wedi digwydd yn fy mywyd – dwi eu hangen nhw gymaint â’m meddyginiaeth ddyddiol.
Pan fyddaf yn peintio neu’n tynnu lluniau, gallaf ymgolli yn y dasg a symud gyda’r llif. Dydw i ddim yn defnyddio dull penodol wrth beintio; dwi’n cael fy nenu’n fwy at weadau, lliwiau a siapiau yn hytrach na gwrthrychau bywyd go iawn a phortreadau.
Mae ein hymennydd wedi’i weirio’n awtomatig i dynnu sylw at feddyliau negyddol, felly mae cael sbardunau gweledol hygyrch fel hyn yn fy nghadw ar y trywydd iawn. Hyd yn oed ar fy niwrnodau gwaeth, gallaf eistedd yn dawel yn y tŷ, yn aml gyda’r nos pan mae llai o bethau i dynnu fy sylw, a jyst peintio.
Mae defnyddio fy ffotograffiaeth fel dyddiadur gweledol hefyd yn ddefnyddiol. Pan nad ydw i’n teimlo cystal, dwi’n gallu edrych yn ôl i atgoffa fy hun o ble rydw i wedi bod, sut roedd y tywydd, yr anifeiliaid welais i, neu unrhyw beth arall ddaeth â llawenydd i fi y diwrnod hwnnw.
Magu hyder ac arddangos fy ngwaith
Mae celf wedi dod yn fwy nag arfer ‘rhagnodol’ i fi dros y blynyddoedd. Gwnaeth rhannu fy ngwaith gyda ffrindiau, teulu ac Esyllt George, Cydlynydd Celfyddydau Rhondda Cynon Taf (RhCT), roi hwb i’m hyder, gan arwain at arddangosfa yng nghynhadledd Straen Trawmatig Cymru fis Chwefror diwethaf.
Dangosais gasgliad o baentiadau haniaethol o’r enw ‘Coming back to me’. Mae celf bob amser wedi caniatáu i fi ‘ddod yn ôl at fy nghoed’ ac ailwreiddio. Ychydig wyddwn i y byddai cymaint o bobl yn uniaethu â’m gwaith yn y gynhadledd.
Roedd yr adborth yn anhygoel o gefnogol. Ers y gynhadledd, dwi wedi holi ynglŷn â llogi gofod dros dro yng nghanol dinas Caerdydd i arddangos (a gobeithio gwerthu) peth o fy ngwaith. Byddai hyn yn gwireddu breuddwyd i fi.
Manteision i gleifion a staff yn y gweithle
Gwyddwn fod defnyddio’r celfyddydau mewn lleoliadau clinigol yn lleihau tensiwn a straen. Mae pobl yn ymateb yn gadarnhaol i liw, gwead, mannau tawel, a natur, ac mae hyn wedi llywio’r gwaith o ddylunio a chynllunio adeiladau ysbyty newydd. Mae’r holl bethau hyn yn helpu i wneud i’r ysbyty deimlo’n llawer mwy ‘cartrefol’.
Fel ‘Hyrwyddwr y Celfyddydau mewn Iechyd’ ar gyfer Bwrdd Iechyd Cwm Taf, dwi wedi cymryd rhan mewn sawl prosiect yn ystod COVID i hybu lles cleifion a staff, o blannu bylbiau i arddangos ffotograffiaeth yn y prif goridor.
I mi yn bersonol, mae cymryd rhan mewn gweithdai amrywiol ar-lein ers COVID wedi fy ngalluogi i gadw mewn cysylltiad heb orfod poeni am reoli fy mhoen fy hun.
Nid llinell syth yw’r broses o reoli salwch corfforol ac iechyd meddwl. Yn fy marn i, does ‘na ddim un dull rhagnodi sy’n addas i bawb, yn enwedig pan mae trawma neu unigrwydd wrth wraidd eu salwch. Rhagnodi cymdeithasol ar raddfa fawr yw’r dyfodol.
Celf ar gyfer lles yn erbyn therapi celf
“Mae creu celf yn cael ei gydnabod am ei fanteision mynegiannol, somatig a galwedigaethol a gwneir defnydd ohono mewn sbectrwm o weithgareddau, sy’n amrywio o dwdlo achlysurol, hobiwyr ymroddedig, celf er lles i seicotherapi celf sy’n canolbwyntio’n seicdreiddiol. I lawer o artistiaid, a therapyddion celf, mae creu celf yn gyfle i brosesu ac archwilio’r hunan trwy ddulliau di-eiriau,” meddai Zuleika Gregory*, therapydd celf.
“Gall celf er lles fod yn fath o hunanofal neu hobi maethlon. Fel y gwelsom ym mlog Julia, gall hyn fod yn hynod fuddiol fel arfer hunan-gyfeiriedig a’i ddefnyddio mewn adferiad, hunanofal a sylfaen yn ogystal i gysylltu a chyfathrebu ag eraill. Gall celf er lles hefyd fod yn weithgaredd neu’n sesiwn dan arweiniad hwylusydd. Gall y rhain ddigwydd yn anffurfiol mewn lleoliadau iechyd a gofal cymdeithasol, o fewn proffesiynau iechyd meddwl fel therapi galwedigaethol, trwy gelfyddydau mewn iechyd neu gynllun dan arweiniad artistiaid ac fel rhan o’r cynlluniau ‘Celfyddydau ar Bresgripsiwn’ sydd ar gael trwy rai byrddau iechyd ar draws y DU. .
Mae therapi celf, neu seicotherapi celf, yn fath o therapi seicolegol sy’n digwydd yn gyfrinachol ac sy’n cynnig lle i deimladau ac emosiynau gael eu rhannu rhwng y therapydd a’r cleient, gan ddefnyddio celf fel ffordd ychwanegol o gyfathrebu. Mae llawer o therapyddion celf yn gweithio gyda’r egwyddor y gall y gelfyddyd mewn therapi helpu i ddadorchuddio ac archwilio deunydd anymwybodol a gweld y gelfyddyd fel cynhwysydd ar gyfer teimladau anodd neu drawma. Mae therapi celf yn cael ei hwyluso gan therapydd celf cymwys, neu seicotherapydd celf.”
Mae astudiaeth ddiweddar wedi treialu’r defnydd o therapi celf i leihau gorflino mewn meddygon oncoleg a gofal lliniarol.
Cymryd rhan
Mae’r wobr am roi cynnig ar grefftau newydd yn enfawr ac yn ffordd wych o gymdeithasu heb iddo fod yn straen neu’n feichus. Os nad ydych yn siŵr sut i ddechrau arni, ystyriwch y canlynol:
- Cael golwg ar y cyrsiau creadigol ar Cwtsh Creadigol, adnodd lles creadigol ar gyfer gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol.
- Ymuno â grŵp Hyrwyddwyr y Celfyddydau mewn Iechyd RhCT (cysylltwch â Julia ar juhannon@outlook.com)
- Defnyddio adnoddau hunangymorth am ddim eraill trwy Canopi, gwasanaeth cymorth iechyd meddwl ar gyfer gweithwyr y GIG a gofal cymdeithasol yng Nghymru.