Mae gwaith shifft fel gweithio yn y nos, oriau hir a straen yn rhai o blith nifer o ffactorau ffordd o fyw a all effeithio ar ein harferion bwyta. Cydnabyddir yn gyffredin fod deiet iach yn dda i’n hiechyd corfforol, ond beth am ein hiechyd meddwl?
Mae un astudiaeth* yn awgrymu y gall deiet gwael waethygu anhwylderau tymer a chyflyrau niwroseiciatrig presennol. At hynny, mae’r astudiaeth hon ac adolygiad diweddarach yn awgrymu y gall deiet iach gael effeithiau ataliol ar gyflyrau iechyd meddwl.
Isod, rydym yn rhestru pum ffordd, sy’n seiliedig ar dystiolaeth, y gallai deiet iach hybu eich iechyd meddwl a’ch lles. Cofiwch, os ydych chi’n poeni amdanoch chi’ch hun neu rywun arall, mae’n bwysig cael cymorth cyn gynted â phosibl (gweler ‘Cael cymorth’ isod).
Pum ffordd o hybu eich iechyd meddwl a’ch lles trwy ddeiet iach:
- Bwyta carbohydradau
- Gwirio eich lefelau fitamin
- Rhoi cynnig ar brofiotegau
- Rhoi cynnig ar ddeiet Mediteranaidd
- Cael help a chefnogaeth
Bwytewch garbohydradau i danio’ch ymennydd
Mae carbohydradau fel grawn cyflawn, llysiau, ffrwythau a chodlysiau (bwydydd fel corbys a phys) yn rhoi’r tanwydd sydd ei angen ar ein hymennydd i ddal ati. Mae hynny gan fod carbohydradau yn cynnwys glwcos, yn ogystal â fitaminau a mwynau defnyddiol, sy’n cefnogi ein gallu i ganolbwyntio a chadw ffocws.
Gall fod yn demtasiwn i gyfnewid carbohydradau am fwydydd sy’n cynnwys siwgr wedi’i buro fel melysion, toesenni a chacennau oherwydd gallant roi hwb dros dro i’n lefelau egni. Fodd bynnag, mewn gwirionedd mae’r carbohydradau wedi’u prosesu yn y mathau hyn o fwydydd yn cynyddu lefelau glwcos y gwaed gan arwain at fwy o chwant bwyd a blinder, sy’n ei gwneud hi’n anodd iawn canolbwyntio yn y gwaith.
Dros gyfnod hirach o amser gall gormod o siwgrau wedi’u puro yn ein deiet achosi afiechydon fel diabetes Math 2.
Mae carbohydradau yn tueddu i ryddhau glwcos i’r corff yn arafach. Gallech roi cynnig ar:
- Datws melys
- Bananas
- Bara gwenith cyflawn
- Ceirch
- Reis brown
- Corbys
Gwiriwch eich lefelau fitamin – maen nhw’n hybu hwyliau da
Dywed y BDA y gall fitaminau a mwynau coll achosi blinder, symptomau o iselder a thymer ddrwg, ymhlith symptomau eraill. Os ydych chi’n teimlo fel hyn, siaradwch â’ch meddyg teulu; gallai fod oherwydd diffyg fitaminau, neu am reswm arall y gallai fod angen help a chefnogaeth arnoch i’w ddatrys.
Mae adolygiad diweddar* yn awgrymu bod maetholion yn cefnogi systemau’r corff, gan gynnwys ein hymennydd, i weithredu’n normal. Er enghraifft, mae sinc, magnesiwm a fitaminau B yn chwarae rhan bwysig wrth reoleiddio’r system nerfol. Mae ein system nerfol yn gyfrifol am anfon negeseuon i rannau eraill o’r corff am symudiadau a theimladau/synhwyrau fel poen. Gall deiet sy’n brin o faetholion orweithio neu ddadreoleiddio ein system nerfol, gan ein gwneud ni’n fwy sensitif i’n hamgylchedd ac ymateb gyda thymer ddrwg neu orbryder.
Bwydydd sy’n cynnwys lefelau uchel o sinc, magnesiwm neu fitamin B:
- Madarch
- Ceirch
- Iogwrt Groegaidd
- Ffacbys
- Sbigoglys
- Siocled tywyll
- Afocado
- Wyau
- Caws
- Pysgod (hefyd yn cynnwys Omega-3 sy’n cefnogi gweithrediad yr ymennydd)
Rhowch gynnig ar brofiotegau am berthynas iach rhwng yr ymennydd a’r perfedd
Mae profiotegau yn facteria a burumau byw a all gynnal y cytrefi o facteria da sydd fel arfer yn byw y tu mewn i’ch perfedd. Ond gall cymryd probiotegau, naill ai fel atchwanegiadau neu drwy fwyta bwydydd llaeth a bwydydd wedi’u piclo, gael effeithiau ehangach y tu hwnt i’r perfedd. Mae tystiolaeth y gallant newid lefelau niwrodrosglwyddyddion yn ein hymennydd – cemegau sy’n effeithio ar y ffordd rydym yn teimlo.
Fodd bynnag, mae hyn hefyd yn golygu y gall unrhyw straen rydych yn ei brofi gael effaith negyddol ar eich perfedd, felly mae’n bwysig mynd i’r afael ag achosion straen hefyd.
Mae bwydydd probiotig yn cynnwys:
- Kefir
- Bresych picl (neu sauerkraut)
- Kombucha
- Caws bwthyn wedi’i feithrin
Rhowch gynnig ar ddeiet Mediteranaidd i leihau symptomau iselder a gorbryder
Mae rhai astudiaethau wedi mesur effeithiau deiet Mediteranaidd dros gyn lleied â 12 wythnos, ac wedi dangos ei fod yn arwain at lai o symptomau iselder a gorbryder.
Mae astudiaethau eraill yn awgrymu y gall bwyta deiet Mediteranaidd dros gyfnod llawer hirach o amser leihau’r risg o ddatblygu anhwylderau niwrolegol gan 28% ac atal unigolion rhag datblygu gorbryder.
Nodweddion deiet Mediteranaidd:
- Llysiau fel courgettes, planhigyn wy a winwns
- Ffrwythau a chnau fel orennau, tomatos, cnau almon, cnau castan a chnau pinwydd
- Pysgod fel tiwna, eog a sardîns
- Coginio gydag olew olewydd
Ceisiwch help a chefnogaeth gyda phryderon bwyta
Mae bwyta’n iach yn bwysig a gall ddod â llawer o fanteision iechyd, ond weithiau mae angen help a chefnogaeth arnom i newid y ffordd a’r pethau rydyn ni’n eu bwyta.
Gall fod yn llawer haws adnabod patrymau bwyta afiach mewn pobl eraill nag ynom ni ein hunain. Dyma pam rydym wedi cynnwys rhai dolenni defnyddiol er mwyn i chi allu adnabod y patrymau hyn a dod o hyd i’r ffordd orau o godi hyn gyda’r person dan sylw:
- A oes gennyf anhwylder bwyta?
- Beth yw’r arwyddion, symptomau a thriniaethau ar gyfer anhwylderau bwyta? (GIG)
- Pa gymorth a chefnogaeth sydd ar gael?
- Pa gymorth sydd ar gael i deuluoedd?
Gyda diolch i ymarferydd y GIG, Tamsin Speight am ei chyfraniad i’r blog hwn.
*Seiliwyd y blog hwn ar dystiolaeth o’r astudiaethau canlynol: