Mae Canopi yn darparu model haenog rhad ac am ddim o gefnogaeth seicolegol ac iechyd meddwl i weithwyr iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru.
Mae Canopi yn gyffrous i gyhoeddi’r alwad am ddatganiadau o ddiddordeb i gadeirydd a hyd at chwe aelod arall er mwyn sefydlu Grŵp Cynghori Cyhoeddus Canopi (PAG).
Bydd y PAG yn gwneud yn siŵr bod cyfranogiad hanfodol defnyddwyr gwasanaeth yn natblygiad y sefydliad a bydd ganddo rôl yn:
- rhoi adborth (cadarnhaol a negyddol) a nodi rhwystrau a ffactorau galluogi gwasanaeth i dîm Canopi yn rhagweithiol
- llywio cyfeiriad strategol y gwasanaeth
- cefnogi cyflwyno gwasanaeth wedi’i gyd-gynhyrchu gyda ffocws penodol ar hygyrchedd a chynwysoldeb
Bydd y PAG yn cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i gyn cleientiaid y gwasanaeth, staff iechyd a gofal cymdeithasol eraill sydd â phrofiad bywyd o anawsterau iechyd meddwl nad ydynt wedi defnyddio’r gwasanaeth. Mae’n bosibl yn bydd yn ymestyn i gynnwys aelodau eraill o’r cyhoedd sydd â diddordeb lle bo hynny’n briodol.
Bydd y PAG yn cyfarfod bob chwarter i drafod cynnydd a datblygiad parhaus y gwasanaeth ac adrodd i Canopi fel sy’n briodol.
Sut i wneud cais
Rhowch ddatganiadau o ddiddordeb ar ffurf llythyr un dudalen a ddylai rhoi gwybodaeth ynghylch pam yr hoffech ymuno â’r PAG ac mae’n nodi a hoffech gael eich ystyried ar gyfer swydd Cadeirydd, Aelod neu’r ddau.
Gellir cael cyflwyniadau a cheisiadau am wybodaeth bellach am y PAG gan Dr Jake Hard.
Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyniadau yw Dydd Gwener 19 Mawrth 2021.
Ebost: hardj1@caerdydd.ac.uk