Categorïau
Blog

Dydw i ddim yn iawn ac ni allaf wneud y gwaith rwy’n gwirioni arno

Trosglwyddwyd Jade, uwch-ymarferydd nyrsio, i ward COVID-19 yn ystod y pandemig. Mae’n cofio ei phrofiadau, o’i diagnosis cychwynnol o PTSD, i gael cymorth trwy Canopi.

Rwy’n nyrs anadlol a chefais fy nhrosglwyddo i ward COVID yn ystod y pandemig.

Ar ein ward, roedd yna gleifion yn ddifrifol wael â COVID, yn ogystal â chyflyrau eraill a oedd eisoes yn bodoli. Daethant atom, fel cyfle olaf, i roi cynnig ar driniaeth o’r enw pwysedd positif parhaus yn y llwybr anadlu, neu CPAP.

Roedd gennym hefyd bobl nad oedd lle iddynt ar ward yr Uned Therapi Dwys (ITU), ac felly gallent hwythau roi cynnig ar CPAP – ond ni weithiodd hyn mewn gwirionedd. Felly, yng nghanol yr anhrefn, roeddem yn brysur iawn ac yn eithaf anymwybodol o’r hyn a oedd yn digwydd.

“Ofn o’r cychwyn cyntaf un …”

Roedd dechrau’r pandemig yn un o’r adegau gwaethaf. Roedd pob claf yn wahanol, a chreodd y driniaeth CPAP lwyth feirysol enfawr, felly roedd ein siawns o fynd yn sâl gymaint â hynny’n uwch.

Rwy’n cofio cael fy rhoi mewn cyfarpar diogelu personol llawn am y tro cyntaf – roeddwn yn ofni o’r cychwyn cyntaf …

Cyn pen dim, roedd un o’m cyd-weithwyr wedi marw, a chafodd un arall ei dderbyn i’r Uned Therapi Dwys, lle y bu am fisoedd ar fisoedd. Nid oedd gennym ddigon o staff wedyn, felly dechreuais weithio shifftiau nos. Mae’n anodd delio â shifftiau nos parhaus.

Yn y cyfamser, roedd fy nghleifion yn hypocsig (sef yn cario symiau peryglus o isel o ocsigen) a’u SATS yn 70. Roeddent yn gofyn i mi pam yr oeddwn yn rhedeg o gwmpas y lle fel ceiliog wedi torri ei ben, yn gwbl ddiarwybod o ran pa mor ddifrifol wael yr oeddent. Ugain munud yn ddiweddarach, byddai eu hymennydd yn sylweddoli eu bod yn anhygoel o hypocsig, ac mai ychydig iawn o amser a oedd ganddynt ar ôl.

A minnau’n nyrs anadlol, roeddwn wedi gweld llawer o farwolaethau, ond roedd hyn yn wahanol. Fel arfer, pan fydd claf yn marw, rydym yn cyflawni nifer o ddefodau i’n helpu gyda’n galar ein hunain: golchi’r claf, brwsio ei wallt a’i lapio mewn cynfas lân. Roedd yr anhrefn lwyr ar ein ward yn golygu nad oedd gennym unrhyw amser i wneud hyn.  Serch hynny, llwyddasom i ddod trwy’r don gyntaf. Ond bu i’r newyddion am ail don ein taro’n galed … llifodd y trawma a’r pwysau cyson yn eu hôl. Gyda’r gyfradd marwolaethau yn 80%, roeddwn yn gweld un farwolaeth fesul shifft.

Does dim byd yn bod arnaf; rwy’n nyrs.”

Erbyn hyn, roeddwn wedi sylwi ar newidiadau ynof fy hun a oedd yn hollol anghyfarwydd. Yn hytrach na cherdded i’r gwaith, byddwn yn gyrru dim ond er mwyn osgoi cwrdd â phobl ar y strydoedd.

Ac wrth i mi gerdded y 100 metr ar draws y maes parcio, roedd cyfradd curiad fy nghalon yn 140 bpm. Roedd fy mrest yn dynn, a theimlwn yn benysgafn. Dywedais wrthyf fy hun mai’r rheswm am hyn oedd fy mod yn anheini, heb sylweddoli effaith fy mhrofiadau ar y ward COVID arnaf. Doedd hi ddim yn bosibl i unrhyw beth fod o’i le arnaf; rwy’n nyrs.

Daeth pethau i anterth pan euthum yn ôl i’r ward anadlol. Taflodd claf dryslyd silindr ocsigen ataf, a dechreuais feichio wylo. Cefais fy rhoi ar absenoldeb salwch, heb unrhyw syniad beth i’w wneud nesaf.

Dyna pryd y cefais fy llorio. Ni allwn fwyta na chysgu; roeddwn yn gweld wynebau fy nghleifion lle bynnag yr awn, ac roeddwn yn teimlo mor euog am adael fy nghyd-weithwyr a’m cleifion a hwythau angen f’arbenigedd.

Ceisiais fynd yn ôl i’r ysbyty, ond dim ond cwympo oedd fy hanes pan gyrhaeddais y ward; roeddwn yn fyr fy ngwynt ac yn fyddar i bopeth a oedd yn digwydd o’m cwmpas.

“Profodd Jade symptomau PTSD yn ystod pandemig COVID-19. Er ei bod yn gyffredin i symptomau straen trawmatig godi eu pen yn syth ar ôl digwyddiad, mae llawer o bobl yn profi oedi, gyda’r symptomau’n dod i’r amlwg fisoedd neu hyd yn oed blynyddoedd ar ôl digwyddiad.”
— Dr Catrin Lewis, Cydymaith Ymchwil yn y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Iechyd Meddwl (NCMH)

Pryd wnaethoch chi benderfynu cysylltu â Canopi?

Cynghorodd y gwasanaeth Iechyd Galwedigaethol fy mod yn aros i ffwrdd o’r gwaith ac yn ‘gwneud pethau rwy’n eu mwynhau’, tra oedd fy meddyg teulu yn argymell cyffuriau a chwnsela. Ond roeddwn yn gwybod bod arnaf angen rhywbeth mwy.

Gwelais hysbyseb ar gyfer Canopi ar Instagram a chodi’r ffôn. Roeddwn yn hysterig yn ystod yr alwad, ond roedd y derbynnydd yn rhyfeddol o ddigynnwrf ac yn gwrando’n go iawn ar fy mhryderon. Bwysicaf oll, gwnaeth i mi deimlo bod gennyf broblem y gellid ei datrys.

Y peth anoddaf yn y byd oedd dweud: “Dydw i ddim yn iawn ac ni allaf wneud y gwaith rwy’n gwirioni arno.”

Cyn pen tridiau, roedd y meddyg ymgynghorol wedi cysylltu â mi a threfnu i mi weld therapydd ar lwyfan Y GWANWYN ar gyfer anhwylder straen wedi trawma (PTSD). Roedd rhaglen Y GWANWYN yn gyfuniad o hunangymorth a chwnsela.

Yn ein sesiynau cwnsela, buom yn ymarfer technegau sylfaen, a rhywbeth o’r enw amlygiad graddedig, lle’r oeddwn yn ymarfer gwisgo fy nghyfarpar diogelu personol fesul darn. Roedd y therapydd yn hynod o gymwynasgar, ac roedd yr elfen hunangymorth yn gwneud i mi deimlo fy mod yn gwneud rhywbeth i’m helpu fy hun.

“Mae’r Gwanwyn yn therapi dan arweiniad ar y rhyngrwyd ar gyfer PTSD. Mae iddo wyth cam ar-lein a gynlluniwyd i’w defnyddio dan arweiniad rheolaidd therapydd. Dangosodd treial clinigol diweddar gan Y Gwanwyn y gall fod yr un mor effeithiol â therapi wyneb yn wyneb o ran lleihau symptomau PTSD.”

Bu i ni barhau i weithio gyda’n gilydd wedi i mi fynd yn ôl i’r gwaith.”

Parheais i weld fy therapydd ar ôl mynd yn ôl i’r gwaith, ac rwyf wedi dweud hyn sawl gwaith – bu iddo achub fy mywyd. Ni allai bywyd fod yn fwy gwahanol nag y mae ’nawr; rwy’n uwch-ymarferydd nyrsio sy’n sefydlu uned blewrol ym Mwrdd Iechyd Caerdydd a’r Fro.

Rwy’n wirioneddol ddiolchgar i Canopi. Mae’n golygu y gallaf wneud y gwaith rwy’n gwirioni arno a gofalu am lawer iawn o bobl.