Categorïau
Blog

Aros, edrych a gwrando: sut mae gwylio adar o les i fy iechyd meddwl

Mae Becs yn wyliwr adar brwd ac yn uwch swyddog cyfathrebu Canopi. Yn y blog hwn, mae’n rhannu sut mae dysgu, gwrando a gweld adar wedi gwella ei hiechyd meddwl ac yn cynnig rhai awgrymiadau i’ch helpu i ddechrau sylwi ar y bywyd gwyllt y tu allan i’ch ffenestr.

Fe wnes i ddechrau gwylio adar bob yn dipyn cyn ymgolli yn y maes yn llwyr.

Learning, listening and seeing birds in different places across the UK has greatly improved my mental health and wellbeing in ways I didn’t expect.

Yn y blog hwn, byddaf yn rhannu rhai o fy myfyrdodau ar wylio adar ar ôl troi’n ddeg ar hugain. Byddaf hefyd yn cynnig ychydig o awgrymiadau syml ynghylch sut y gallwch chi ddechrau cymryd sylw o’r adar anhygoel y tu allan i’ch ffenestr.

Mi glywais gan dderyn bach

Mae anifeiliaid a bod yng nghanol byd natur wastad wedi bod yn agos at fy nghalon.

Pan yn blentyn, roeddwn wrth fy modd yn gwylio rhaglenni dogfen am anifeiliaid. Roeddwn yn crefu’n ddi-baid ar fy rhieni i gael ci, ac rwy’n cofio cael fy nghyfareddu wrth wylio Steve Irwin yn cerdded trwy afon yn Awstralia yn cyfarch crocodeil trwy dynnu ei gynffon.

Dros y blynyddoedd, rydw i wedi bod yn hynod ffodus i allu gweld bywyd gwyllt anhygoel ar draws y byd, ond mae wedi cymryd dros dri degawd imi sylweddoli bod byd cyfan o fywyd gwyllt rhyfeddol hefyd sy’n llawer nes at adref.

Dechreuodd fy niddordeb pan brynais i fag o hadau i demtio ambell gyfaill pluog i’n gardd newydd pan symudon ni i mewn i’n tŷ. Roedd hyn ar ôl treulio blynyddoedd lawer mewn fflat un gwely heb ofod allanol.

Ar ôl methu â denu unrhyw ymwelwyr am rai wythnosau, un diwrnod fe laniodd aderyn canolig ei faint ag adenydd tywyll, sgleiniog ar y safle bwydo gan wneud andros o sŵn. Drudwy oedd hi.

Wrth i ni wylio, yn sydyn daeth haid ohonyn nhw i lawr a doeddwn i erioed wedi gweld cynifer o adar ar safle bwydo o’r blaen. Roedd y criw o ddrudwy yn ymladd dros yr hadau, yn disgleirio yng ngolau haul y gaeaf, ac yn rhoi gwybod i bawb eu bod yno wrth wichian drwy bigau hir, pigfain: roedd yr adar wedi cyrraedd go iawn, ac roedden nhw yma i aros.

Cymryd amser i stopio a gweld

Ar ôl cwrdd â’r drudwy, dechreuais sylwi ar adar mewn ffordd newydd. Wrth i nifer yr adar a oedd yn ymweld â’n gardd gynyddu’n raddol, byddwn i’n sefyll yn syllu arnyn nhw o’r ffenest, yn gwneud fy ngorau i adnabod pa aderyn oedd o fy mlaen ac os oeddwn wedi’i weld yn yr ardd o’r blaen.

Am y cyfnod byr hwnnw wrth edrych y tu allan, roedd fy meddwl yn canolbwyntio’n llwyr ar y natur a oedd yn digwydd y tu allan i’m ffenestr. Ar ôl gwylio’r adar am ychydig funudau yn unig, roeddwn wedi ymlacio, roedd y tensiwn yn fy ysgwyddau’n cael ei ryddhau, ac roeddwn yn dechrau anadlu ychydig yn haws.

Am eiliad, roedd gweld yr adar yn rhoi cyfle i mi weld fy hun ychydig yn gliriach. Roedd yn deimlad braf.

Roedd yr adar roeddwn i’n eu gweld bryd hynny yn cynnwys yr hyn rydw i’n ei adnabod erbyn hyn fel aderyn y to, mwyalchen, robin goch, peneuryn, titw tomos las, titw mawr a’r ji-binc, ac roedd byd pluog hollol newydd wedi’i agor i mi: roeddwn i’n gallu dod o hyd i eiliad ystyriol bob dydd a oedd yn gwneud i mi deimlo’n well yn gorfforol ac yn feddyliol, sef aros a sylwi ar yr adar.

Gall cyrraedd pen-blwydd sy’n garreg filltir helpu i roi pethau mewn persbectif weithiau. Dyna digwyddodd yn fy achos i – hebog nac oni bai (ddrwg gen i, jôc wael sy’n ddoniol i wylwyr adar yn unig, o bosib). Rwy’n gwybod bellach y bydda i’n gwylio adar am weddill fy oes.

Awgrymiadau ar sut i fynd ati i wylio adar

Mi faswn yn gallu siarad yn ddiddiwedd am adar, y llawenydd a geir o’u gwylio, a’r effaith gadarnhaol y mae wedi’i chael ar fy lles meddyliol. Mi faswn yn ei argymell i unrhyw un sydd am ddysgu rhywbeth newydd a theimlo cysylltiad agosach â’r natur o’u cwmpas.

Gall dechrau hobi newydd fod fymryn yn frawychus ar y dechrau, ond mae gwylio adar yn rhywbeth y gall pawb ei wneud a’i fwynhau, os y gwnewch yr ymdrech i aros, edrych a gwrando.

Dyma rai awgrymiadau syml i’ch helpu chi i roi cynnig ar wylio adar:

1. Ceisiwch sylwi ar y natur o’ch cwmpas bob dydd

Allwch chi weld aderyn y tu allan i’ch ffenestr? Pa gân gan aderyn allwch chi ei chlywed ar hyn o bryd? Faint o adar wnaethoch chi eu cyfrif ar eich ffordd i’r gwaith y bore yma?

Gall cymryd eiliad i aros, anadlu, edrych a gwrando ar y natur o’ch cwmpas helpu i wella’ch lles.

Nid yw hyn yn rhwydd bob amser mewn byd lle rydyn ni wastad yn mynd o un lle i’r llall. Fodd bynnag. os gallwch chi dreulio ychydig funudau yn ystod eich diwrnod yn edrych ar y bywyd gwyllt o’ch cwmpas, hyd yn oed os am ychydig eiliadau yn unig, rwy’n hyderus y bydd yn eich helpu i deimlo’n fwy bodlon ac wedi ymlacio.

Gall hyd yn oed eich arwain at fod yn wyliwr adar brwd!

2. Dechreuwch restr o adar

Mae llyfr nodiadau a beiro neu ap nodiadau yn eich ffôn yn fan cychwyn gwych wrth geisio adnabod adar am y tro cyntaf. Canolbwyntiwch ar ddau neu dri rhywogaeth o adar i ddechrau (mae’r robin goch, y fwyalchen a’r titw tomos las yn rhai o’n hadar gerddi mwyaf adnabyddus a hawdd eu hadnabod) a gwnewch nodyn o ba mor aml rydych chi’n eu gweld.

Byddwch chi’n synnu pa mor aml y byddwch chi’n eu gweld a pha mor gyflym y gallwch chi adnabod adar sy’n gyfarwydd i chi. Mae gwybod rhagor am adar yn golygu y byddwch yn fwy tebygol o’u gweld, gan gynyddu eich gwybodaeth a’ch diddordeb un aderyn ar y tro.

Os ydych chi’n ymrwymo i gadw rhestr reolaidd (a phwy sydd ddim yn hoffi rhestrau?) mae Ymddiriedolaeth Adareg Prydain (BTO) yn gofyn am restrau wythnosol o’r adar y mae pobl yn eu gweld yn eu gerddi er mwyn deall patrymau ymddygiad adar yn well a niferoedd rhywogaethau.

Darllenwch ragor am gofnod wythnosol BTO Garden Birdwatch ac ewch â’ch gwaith ysgrifennu rhestr adar i lefel hollol newydd.

3. Defnyddio’ch clustiau, eich llygaid a’ch technoleg

Yn amlach na pheidio, byddwch yn clywed aderyn cyn i chi ei weld. Bydd dod i wybod sut mae gwahanol ganeuon adar yn swnio o gymorth er mwyn dod o hyd i’r aderyn a chael golwg agosach. Mae caneuon adar yn amrywio’n fawr pan fyddwch chi’n aros a gwrando – rydw i wrth fy modd ar y dryw bach, ond nerthol, sy’n bendant yn gwneud cryn sŵn o ystyried ei faint.

Mae ysbienddrych yn adnodd gwych hefyd i allu gweld manylion fel siâp pig, lliw eu coesau a phatrwm eu plu i’ch helpu i adnabod y rhywogaeth.

Un o’r adnoddau rhad ac am ddim mwyaf defnyddiol i mi ddod o hyd iddo wrth wylio adar yw ap Merlin Bird ID gan Cornell Lab. Mae modd lawrlwytho’r ap yn rhad ac am ddim ac mae’n gweithio ledled y byd. Pan fyddwch chi’n clywed aderyn, agorwch yr ap a recordiwch y sain rydych chi’n ei glywed. Bydd yn dweud wrthych pwy sy’n gwneud y sain ac yn cynnwys lluniau adnabod, clipiau o ganeuon a gwybodaeth am y rhywogaethau rydych chi newydd eu clywed ac yn gobeithio eu gweld.
Mae wedi bod yn adnodd amhrisiadwy wrth ddysgu rhagor am adar ac mae’n fan cychwyn gwych i unrhyw un sydd am adnabod caneuon adar yn well. Mae ar gael i’w lawrlwytho ar Apple a Google Play.

4. Ewch i’ch gwarchodfa adar a bywyd gwyllt leol

Rydym yn ffodus gan fod gennym amrywiaeth mor eang o adar a gwarchodfeydd natur anhygoel yn y DU.

Mae sefydliadau elusennol fel y Gymdeithas Frenhinol er Gwarchod Adar (RSPB) a’r Ymddiriedolaethau Adar a Gwlyptiroedd (WWT) wedi sefydlu llawer o warchodfeydd ar draws y wlad lle gallwch chi weld adar a mwynhau diwrnod gwych i’r teulu cyfan.

Mae gan y rhan fwyaf o warchodfeydd guddfannau gwylio ac yn cynnig ysbienddrych i’w fenthyg. Maent yn cynnal digwyddiadau rhoi gwybodaeth ac mae caffis hyfryd yno er mwyn i chi allu mwynhau cacen a phaned wrth wylio adar. Dewch o hyd i’r warchodfa RSPB a’r safle WWT agosaf atoch chi.

5. Cymerwch ran yn sesiwn Big Garden Birdwatch

Dechrau blwyddyn galendr newydd yw’r amser delfrydol i ddechrau dysgu am adar.

Mae Big Garden Birdwatch yr RPSB, sef yr arolwg mwyaf yn y byd am fywyd gwyllt mewn gerddi, yn ffordd wych o ddechrau ymddiddori ym myd adar. Bob mis Ionawr, mae cannoedd o filoedd o bobl sy’n dwlu ar fyd natur yn cymryd rhan, gan helpu i adeiladu darlun o hynt a helynt adar yr ardd.

Rhwng dydd Gwener 24 a dydd Sul 26 Ionawr 2025, treuliwch awr yn gwylio’r adar yn eich ardal a chofnodwch ba adar sy’n glanio. Cofrestrwch yn rhad ac am ddim heddiw a chael pecyn gwybodaeth defnyddiol i’ch rhoi ar ben ffordd.

P’un ai drwy ymweld â’ch gwarchodfa leol, rhoi hadau ar safle bwydo yn eich gardd, cofrestru i wylio adar elusennol neu ddechrau sylwi ar y bywyd gwyllt o’ch cwmpas, gall camau bach bob dydd helpu bywyd gwyllt lleol yn ogystal â diogelu eich lles a’ch iechyd meddwl eich hun.

I mi, mae iechyd meddwl da a gwylio adar yn mynd law yn llaw erbyn hyn – adar o’r unlliw yn wir. Gwyliwch a mwynhewch!

Adnoddau

Read more

Dyma ein rhestr o adnoddau lles a argymhellir.