Heddiw yw diwrnod cyntaf y gwanwyn yn swyddogol. I lawer ohonom, mae hi’n adeg glanhau ein cartrefi, tacluso ein gerddi a chlirio’r cypyrddau dillad. Ond beth am ein hiechyd meddwl? Yn y blog hwn, fe edrychwn ar y ffyrdd gwahanol y gallwn godi hwyliau a chael dylanwad positif ar ein lles meddyliol dros y gwanwyn.

Mae gofalu am ein hiechyd meddwl yn hollbwysig drwy’r flwyddyn ond gyda’r gwanwyn ar ddod, rydym am edrych ar sut y gallwn ddefnyddio ein hamgylchedd i roi hwb i’n hiechyd meddwl a lles.
Mae dyddiau’r gwanwyn yn hirach, mae’r tywydd yn fwynach, y blodau’n blaguro a blodeuo a bywyd gwyllt ar ei anterth. Gall dyfodiad y gwanwyn deimlo fel chwa o awyr iach a chyda’r holl newidiadau, pa amser gwell i wneud rhai newidiadau i ddylanwadu’n bositif ar ein hiechyd meddwl.

Os hoffech chi roi hwb i’ch lles meddyliol dros y gwanwyn, beth am roi cynnig ar rai o’r camau syml hyn
Glanhau a chlirio
Er bod glanhau yn gallu teimlo’n llafurus, gall clirio’r gofod o’n cwmpas gael effaith fawr ar ein hiechyd meddwl. Mae astudiaethau’n dangos bod gofod glân a threfnus yn gallu lleihau lefelau straen, hyrwyddo ymlacio a gwella ein hwyliau cyffredinol.
Dysgu sut i orffwys
Mae gorffwys yn bwysig iawn i’n hiechyd corfforol a meddyliol. Wrth orffwys, mae’r corff a’r meddwl yn cael cyfle i ddod at ei hun ac ail-wefru. Mae straen yn cael ei leddfu ac yn bwysicach na dim, mae ein hiechyd emosiynol yn cael ei gefnogi.
Treulio llai o amser yn edrych ar sgrîn
Mae technoleg yn rhan fawr o fywydau llawer ohonom – p’un ai a yw hynny at ddibenion gwaith, addysg neu gadw mewn cyswllt gyda theulu a ffrindiau. Er bod llawer yn bositif am dechnoleg, gall treulio gormod o amser yn edrych ar sgrîn gael effaith negyddol ar ein hiechyd meddwl. Trwy leihau’r amser rydych chi’n ei dreulio yn edrych ar sgrîn, gallech chi wella ansawdd eich cwsg, lleihau eich lefelau straen, cynyddu cynhyrchiant a chreadigrwydd a hybu iechyd gwell ar y cyfan.
Yfed digon o ddŵr a chadw’n heini
Yn union fel mae angen dŵr ar blanhigion, rydyn ni angen gwneud yn siŵr ein bod ni’n cael digon hefyd! Mae llawer o fanteision i yfed dŵr megis treulio bwyd yn well, organau’n gweithio’n iach, hwb i’r ymennydd, llai o flinder a llawer mwy. Gall bod yn actif wella eich iechyd mewn sawl ffordd, yn enwedig eich iechyd meddwl.
Gall gweithgarwch corfforol ac ymarfer corff wneud i’r ymennydd ryddhau cemegion ‘da’ fel dopamin a serotonin, sy’n helpu i wella eich hwyliau cyffredinol.
Treulio amser yn yr awyr agored
Mae astudiaethau’n dangos y gall bod yn yr awyr agored ymlacio’r meddwl. Gall edrych ar liwiau glas a gwyrdd sydd ym mhobman mewn natur arwain at lu o fanteision i’ch iechyd meddwl, a sicrhau bod ein cyrff a’n meddyliau yn ymlacio mewn natur. Gallwch ddarllen am fanteision gwylio adar yn y blog Canopi.
Cael digon o fitamin D
Mae’r gwanwyn ar ddod o’r diwedd ar ôl gaeaf hir a thywyll; mae’r heulwen ar ei ffordd! Mae’n bwysig cael digon o fitamin D naturiol i roi hwb i’ch iechyd meddwl. Credir hefyd bod gweld golau’r haul yn cynyddu faint o’r hormon serotonin y mae’r ymennydd yn ei ryddhau. Gall gweld yr haul yn gynnar yn y bore helpu i bennu rythm circadaidd naturiol. Bydd hyn yn ein helpu i gysgu, yn lleihau straen ac yn rheoleiddio ein chwant am fwyd.

Felly, wrth i ni symud o’r gaeaf i’r gwanwyn… mwynhewch y tywydd brafiach, ewch ati i lanhau adeg y gwanwyn ac yn bwysicaf na dim, treuliwch amser yn blaenoriaethu eich iechyd meddyliol a chorfforol.
Gweithio ar wella ein hiechyd meddwl yw’r cam cyntaf at y dyddiau brafiach sydd i ddod.
Ddim yn siŵr sut i gymryd y cam nesaf? Ydych chi’n poeni neu’n teimlo wedi’ch llethu? Gall Canopi helpu. Rydyn ni’n wasanaeth cymorth iechyd meddwl cyfrinachol rhad ac am ddim ar gyfer staff y gwasanaethau cymdeithasol a’r GIG yng Nghymru. Gallwch gyfeirio eich hunain drwy ein ffurflen ar-lein os ydych chi’n chwilio am gymorth.
Adnoddau
VeryWellMind: Glendid ac iechyd meddwl – beth yw’r cysylltiad?
Croeso Cymru: Syniadau i fod yn actif yn ystod y gwanwyn
Headspace: Clirio’r meddwl adeg y gwanwyn
Rhagor o wybodaeth
- Blog Canopi: Aros, edrych a gwrando: sut mae gwylio adar o les i fy iechyd meddwl
- Blog Canopi: Sut y gwnaeth celf a ffotograffiaeth fy helpu i wella
- Blog Canopi: Pum ffordd o hybu eich iechyd meddwl a’ch lles trwy ddeiet iach
- Blog Canopi: Darllen er therapi
Dyma ein rhestr o adnoddau lles a argymhellir.