Beth yw hunan-niweidio?
Mae hunan-niweidio yn cynnwys eich gwenwyno eich hunan, eich anafu eich hunan trwy, dorri, gwenwyno, crafu, llosgi, ergydio, bwrw, tynnu gwallt [neu] amharu ar welliant clwyfau (Samariaid; Mind). Mae’n gallu digwydd unwaith neu sawl gwaith.
Dydy pobl sy’n anafu eu hunain ddim yn bwriadu eu lladd bob tro
I rai, mae hunan-niweidio’n cael ei ddefnyddio gyda’r bwriad o’u lladd eu hunain Mae hon yn sefyllfa o argyfwng ac mae angen cefnogaeth ar y bobl hyn. Mae’n bosibl y bydd pobl eraill yn eu niweidio eu hunain fel ffordd o ymdopi â thrallod emosiynol.
Mae’n gallu bod yn anodd gwybod beth yw bwriadau rhywun pan fyddan nhw’n eu hanafu eu hunain. Efallai y byddan nhw’n amwys neu ddim yn glir am eu bwriadau eu hunain neu am y rhesymau dros wneud yr hyn y maen nhw wedi’i wneud. Drwy fod yn anfeirniadol a chaniatáu iddyn nhw siarad â chi, gallwch chi eu hannog i ofyn am gymorth.
Arwyddion y gallai rhywun fod yn hunan-niweidio
Gall fod yn anodd canfod hunan-niweidio ond mae rhai arwyddion cyffredin a all awgrymu y gallai rhywun fod yn hunan-niweidio.
Ar wahân i’r arwyddion corfforol y gallai rhywun fod yn ei frifo ei hun, fel clwyfau neu ddarnau o wallt ar goll, mae arwyddion ymddygiadol ac emosiynol pwysig eraill i edrych amdanyn nhw.
- Anafiadau heb eu hesbonio nad ydyn nhw’n gwella
- Creithiau
- Rhannau o’r gwall ar goll
- Gwisgo dillad llewys hir hyd yn oed mewn tywydd cynnes
- Llai o weithrediad yn y gwaith
- Profi heriau gyda pherthnasoedd
- Ymddangos fel eu bod wedi’u llethu neu amwys
- Tynnu yn ôl o ymwneud â phobl eraill
- Hunan-barch isel
Beth i’w wneud os ydych chi’n meddwl bod rhywun fod yn hunan-niweidio
Os ydych chi’n poeni am rywun yn y gweithle, mae’n bwysig dilyn unrhyw weithdrefnau diogelu presennol sydd ar waith. Gall hyn olygu trosglwyddo’ch pryderon i rywun sydd wedi’i hyfforddi’n arbennig i gefnogi cydweithwyr fel rheolwr llinell neu swyddog diogelu.
Os ydych chi’n teimlo’n gyfforddus i wneud hynny, gallwch chi siarad â’r person sydd, o bosibl, yn hunan-niweidio a chynnig eich cefnogaeth iddyn nhw trwy beidio â barnu a dweud wrthyn nhw am y cymorth sydd ar gael. Gallai hyn fod gan feddyg teulu’r person, gan wasanaeth cymorth iechyd meddwl neu les yn y gweithle (gweler ‘Cael cymorth’).
Mae hefyd yn bwysig cofio gofalu amdanoch chi eich hunan pan fyddwch chi’n cynnig eich cefnogaeth i rywun arall. Mae Mind yn cynnig rhywfaint o wybodaeth ddefnyddiol ar sut i gefnogi rhywun sy’n hunan-niweidio, a sut i ofalu amdanoch chi eich hun yn y broses.
Cael cymorth
Ai argyfwng iechyd meddwl yw hwn?
Os ydych chi’n poeni y gallai rhywun achosi anaf iddo ei hunan yn syth, mae hwn yn argyfwng iechyd meddwl. Gweler ein tudalen Cymorth mewn Argyfwng am restr o wasanaethau iechyd meddwl brys.
Cymorth i staff gofal cymdeithasol a GIG yng Nghymru
Dydy hunan-niweidio ddim yn argyfwng iechyd meddwl bob tro a gall ddod i’r amlwg ar draws ystod o ddiagnosisau iechyd meddwl, symptomau a materion cymdeithasol.
Os ydych chi’n gweithio i’r GIG neu i ofal cymdeithasol yng Nghymru, ac eisiau dweud wrth rywun eich bod yn hunan-niweidio, yna gallai Canopi fod yn fan cychwyn diogel hefyd. Rydyn ni’n darparu gwasanaeth cyfrinachol, yn rhad ac am ddim i gefnogi pobl i adrodd eu straeon ac i gyfeirio pobl eraill at wasanaethau cymorth priodol. Mewn rhai achosion efallai mai gofal sylfaenol fyddai’r gwasanaeth mwyaf priodol.