Cyhoeddwyd y blog hwn cyn mis Ebrill 2022 pan oedd ein gwasanaeth yn cael ei adnabod fel Iechyd i Weithwyr Iechyd Proffesiynol Cymru (HHP Cymru). Rydym bellach yn cynnig cymorth iechyd meddwl i staff y GIG a staff gofal cymdeithasol yng Nghymru o dan yr enw Canopi.
Gall fod llawer o bwysau o gwmpas y Nadolig i gymdeithasu’n amlach nag arfer, i gofleidio ‘hwyl yr ŵyl’ ac i estyn yn rhy ddwfn i’n pocedi i fodloni disgwyliadau pobl eraill.
Canfu’r elusen iechyd meddwl Mind fod dros chwarter o bobl yn teimlo dan bwysau i greu’r ‘Nadolig perffaith’.
Gall y ffactorau hyn effeithio ar eich iechyd meddwl, yn enwedig ar ôl y cyfnod clo y llynedd, a newidiodd gyfnod yr ŵyl mewn ffyrdd na welwyd yn y DU ers yr ail ryfel byd.
Eleni, mae’n bosib y teimlwn bwysau i fynd i bartïon, bwyta ac yfed mwy nag yr ydym ei eisiau neu wario mwy o arian nag sydd gennym, neu’n unig am beidio â chael ein gwahodd i gymdeithasu.
Gall hyn i gyd effeithio ar ein hiechyd meddwl, felly beth am drafod sut y gallwn gael ein heffeithio a’r hyn y gallwn ei wneud i helpu ein hunain.
Ymrwymiadau cymdeithasol a gorbryder
Mae gorbryder yn gyffredin yn y DU. Mae gorbryder yn effeithio ar tua 10 miliwn o bobl.
O gwmpas y Nadolig, mae mwy o ddisgwyliadau i fod yn gymdeithasol.
I’r rhai sydd ag anhwylder gorbryder cymdeithasol, gall fod yn gyfnod arbennig o anodd.
Gall gorymrwymo i gymdeithasu eich blino’n lân, felly cofiwch ei bod hi’n iawn gwrthod gwahoddiad os ydych chi’n dymuno.
Mae’r GIG yn nodi y gall symptomau gorbryder cymdeithasol amrywio o boeni cyn, yn ystod ac ar ôl digwyddiadau i byliau o banig.
Gall gofyn am help fod yn anodd, ond mae’n syniad da gweld eich meddyg teulu, a all dawelu eich meddwl, neu ofyn am gyngor ar-lein gan sefydliadau fel Anxiety UK:
Materion ariannol
Efallai y bydd rhai ohonom yn teimlo pwysau enfawr i brynu anrhegion arbennig i’n hanwyliaid, gan estyn yn ddyfnach a dyfnach i’n pocedi.
Mae’n hawdd defnyddio cerdyn credyd i wneud y cyfan yn bosibl, ond gall y pwysau o dalu am ein benthyca fod yn llethol.
Canfu’r elusen iechyd meddwl Mind yn 2015 fod mwy na thraean o’r bobl sydd â phroblemau iechyd meddwl a arolygwyd ganddynt yn hunan-niweidio i ymdopi â phwysau’r Nadolig, gyda 76% yn cael problemau cysgu dros y cyfnod hwn.
Gall y rhai sydd ag Anhwylder Deubegynol orwario wrth brofi mania, neu gall pobl ag iselder ‘gysur-wario’ ar eraill i roi hwb i’w hwyliau.
Os ydych chi’n poeni am arian, mae’r Cyngor Iechyd Meddwl ac Arian a Mind ar gael drwy gydol y flwyddyn i roi cyngor a chymorth ymarferol.
Bwyta adeg y Nadolig
I unrhyw un sy’n wynebu anhwylder bwyta, gall y Nadolig fod yn amser arbennig o galed gyda disgwyliadau i wledda’n fwy nag arfer.
Mae’n bwysig bwyta cymaint ag y teimlwch yn gyfforddus yn ei wneud, a bwyta bwydydd y gwyddoch y gallwch eu bwyta.
Gall siarad â ffrind agos neu aelod o’r teulu neu gysylltu â sefydliad fel Beat eich helpu os oes angen cymorth arnoch.
Fel arall, efallai eich bod wedi cael diagnosis o anhwylder bwyta di-reolaeth (BED), a gall hyn fod yr un mor heriol.
Os ydych chi’n gofalu am rywun sydd ag anhwylder bwyta, rhowch gynnig ar weini bwyd fel bwffe yn hytrach na phryd o fwyd, a thrin prydau bwyd fel y byddech yn ei wneud fel arfer. Unwaith y bydd prydau bwyd ar ben, ceisiwch symud y ffocws i ffwrdd o fwyta.
Cofiwch, mae’n iawn mwynhau eich hun dros y cyfnod hwn, hyd yn oed os yw’n golygu bwyta ychydig yn fwy nag arfer.
Os oes angen cymorth arnoch, mae help ar gael ar-lein.
Cyfyngu eich amser ar y cyfryngau cymdeithasol
Yn ôl astudiaeth yn 2021, mae 38% o oedolion yn credu bod y cyfryngau cymdeithasol yn niweidiol.
Er y gall y cyfryngau cymdeithasol fod yn hwyl ar gyfer rhannu profiadau a chysylltu â ffrindiau a theulu, gallant hefyd gael effeithiau negyddol ar eich iechyd meddwl.
Mae cymharu eich hun yn anffafriol â sioeau uchafbwyntiau pobl eraill ar lwyfannau cymdeithasol yn gyffredin, ac yn arbennig o gyffredin dros y Nadolig. Gall “cenfigen bywyd” fod yn niweidiol.
Os yw’r cyfryngau cymdeithasol yn mynd yn ormod, mae yna bethau y gallwch eu gwneud i helpu eich hun:
- Cyfyngu eich amser ar-lein.
- Dad-ddilyn neu dawelu cyfrifon.
- Dileu apiau cyfryngau cymdeithasol.
Unigrwydd, nid dim ond dros y Nadolig
Adroddodd Elusen Age UK yn 2018 fod llawer o bobl ddim yn edrych ymlaen at gyfnod y Nadolig.
I 52% o’r bobl a holwyd, mae unigrwydd wedi dod yn rhan ‘normal’ o fywyd.
Ond nid pobl hŷn yn unig sy’n profi unigrwydd. Gall pobl iau hefyd wynebu’r anawsterau hyn.
Gwnaeth y cyfnod clo a ddaeth yn sgil y pandemig COVID-19 gynyddu teimladau o unigrwydd. Canfu astudiaeth yn 2019 fod bron i 88% o’r bobl ifanc a holwyd yn dweud eu bod wedi profi unigrwydd i ryw raddau.
Felly, sut y gallwn leddfu unigrwydd?
Mae’r Sefydliad Iechyd Meddwl yn awgrymu ei bod hi’n amser da i gofleidio’ch creadigrwydd, gwneud y pethau rydych chi’n mwynhau eu gwneud, neu efallai sbwylio eich hun i anrheg os gallwch chi fforddio gwneud; ac i werthfawrogi eich hun a chofio eich bod chi’n bwysig a bod pobl yn eich caru.
Gall hefyd fod yn ddefnyddiol, os gallwch chi, fynd allan i weld y byd o’ch cwmpas.
Gall gweld bywyd a rhyngweithio â phobl, hyd yn oed y person sy’n eich gweini mewn siop goffi, eich helpu i deimlo’n llai unig yn y byd.
Dros y Nadolig, ceisiwch roi galwad i rywun – byddant siŵr o fod yn falch eich bod wedi gwneud hynny.
Gobeithiwn y bydd ein hawgrymiadau yn eich helpu drwy gyfnod nad yw bob amser yn hawdd.
Sut bynnag y dewiswch ei dreulio, wedi’ch amgylchynu gan bobl neu’n mwynhau’r tawelwch, dymunwn Nadolig heddychlon i chi.