Ddydd Gwener, 28 Mehefin 2024, bu Dr Thomas Kitchen, Cyd-gyfarwyddwr Canopi, yn cyflwyno yn yr Uwch-gynhadledd Iechyd i Ymarferwyr Rhyngwladol.
Cafodd y gynhadledd ei threfnu ar y cyd gan Canopi, Iechyd Ymarferwyr y GIG a Gwasanaeth Arbenigol Gweithlu’r Alban, a’r thema oedd ‘gobaith newydd ar gyfer y dyfodol’.
Roedd y digwyddiad yn ymdrin ag amrywiaeth o bynciau, gan gynnwys croesawu niwroamrywiaeth ac ymyriadau a chanlyniadau sydd wedi cael effaith ar les y gweithlu.
Edrych yn ôl ar hyd y blynyddoedd er mwyn dod o hyd i obaith newydd ar gyfer y dyfodol
Gan feddwl am y gorffennol er mwyn llywio dyfodol gobeithiol, awgrymodd Dr Kitchen y dylen ni ddathlu’r hyn y mae gwasanaethau tebyg i Canopi wedi’i gyflawni o ran hyrwyddo ymwybyddiaeth a chael gwared ar y stigma sy’n gysylltiedig ag iechyd meddwl yn y gweithle.
Meddai Dr Kitchen: “Dydyn ni ddim wedi datrys y broblem, ond dylai edrych yn ôl ar yr hyn rydyn ni wedi’i gyflawni roi gobaith i ni.”
Gan droi at y dyfodol, siaradodd Dr Kitchen am bwysigrwydd dull integredig o gefnogi iechyd meddwl staff gofal cymdeithasol a’r GIG.
Dros ddegawd yn ôl, dim ond ar gyfer ‘meddygon yn unig’ bron yr oedd gwasanaethau tebyg i Canopi ar gael, gan weld dim ond un neu ddau o bobl yr wythnos fel arfer. Gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru a sefydliadau eraill megis Gofal Cymdeithasol Cymru, mae Canopi bellach yn cynnig gwasanaeth integredig.
Ers mis Ebrill 2022, mae dros 6,000 o hunan-atgyfeiriadau wedi dod i law Canopi gan staff gofal cymdeithasol a’r GIG ledled Cymru.
Cafodd dros 1,130 o hunan-atgyfeiriadau eu gwneud gan nyrsys, a chafodd dros 850 eu gwneud gan bobl a oedd yn gweithio ym maes gofal cymdeithasol.
“Mae gan bob un o’r bobl hyn stori sy’n werth gwrando arni – stori y mae’n rhaid i ni ei chlywed.” Dr Thomas Kitchen, Cyd-gyfarwyddwr Canopi
Gweithio gyda’n gilydd – nid ar wahân
Wrth i Canopi ehangu, roedd ystyriaethau gofalus ynghylch beth allai anghenion unigolion fod. A oedd gwahaniaethau yn yr anghenion ar draws y sectorau?
Mae’r dystiolaeth yn awgrymu bod staff gofal cymdeithasol a’r GIG yn wynebu llawer o heriau tebyg:
Ychwanegodd Dr Kitchen: “Daeth i’r amlwg bod y gweithlu gofal cymdeithasol yn rhannu anghenion a phryderon tebyg: poeni am ddatgelu a bod â chyflyrau iechyd meddwl cymhleth nad ydyn nhw’n aml dan reolaeth, y mae modd eu gwella gyda thriniaethau byr, cynnar a chosteffeithiol.”
Mae gwasanaethau integredig tebyg i Canopi yn hyrwyddo’r syniad o weithio gyda’n gilydd. Maen nhw’n cydnabod gwerth yr unigolyn a’r hyn y mae’n ei gyfrannu at y system ofal, waeth pwy sy’n ei gyflogi.
Mae Canopi yma os bydd angen cymorth arnoch chi ar gyfer eich iechyd meddwl.
- I gyfeirio eich hun neu i ddarganfod mwy, ewch i’n tudalen Amdanom ni.