Categorïau
Blog

Sut i feithrin gwydnwch a lles wrth wynebu gwahaniaethu a micro-ymosodeddau

Mae Susan Cousins yn swyddog prosiect, yn gwnselydd, a hi hefyd yw awdur y llyfr “Overcoming Everyday Racism: Building Resilience and Wellbeing in the Face of Discrimination and Microaggressions”. Yn y blog hwn, mae Susan yn sôn am ei phrofiadau personol a sut gwnaeth y rhain ei hysgogi i ysgrifennu llyfr. Mae hi’n rhannu ei phrif negeseuon am sut i feithrin gwydnwch a lles ac yn cynnig cyngor i’ch helpu i gofleidio pwy ydych chi’n llawn, y tu hwnt i gyfyngiadau canfyddiadau pobl eraill.

Doedd gen i ddim syniad bod pobl eraill yn teimlo dan fygythiad oherwydd fy hunaniaeth.

“Roedd yn agoriad llygad pan nes i sylweddoli bod y mathau o ymddygiad yr oeddwn i’n eu hwynebu yn deillio o ansicrwydd pobl eraill amdana i. Roeddent yn glynu wrth eu syniadau eu hunain o fy hunaniaeth ac yn eu defnyddio i warchod eu hymdeimlad o ddiogelwch a pherthyn i gymdeithas.

Felly, wrth iddyn nhw ymgartrefu yn eu byd eu hunain, fe arweiniodd hyn at deimlad dwfn ynof fi mod i ‘ddim yn perthyn’ – teimlad a wnaeth fy ysgogi i fynd ar daith lawn i ddod i adnabod fy hun.

Fy llyfr yw ffrwyth gwaith y daith honno. Mae’n wahoddiad i ystyried dyfnderoedd eich hunaniaeth, myfyrio ar eich realiti eich hun, yn ogystal â’ch profiadau mewnol. Drwy wneud hyn, mae’n bosibl y dewch o hyd i lwybr fydd yn eich galluogi i ddeall eich lles a’i wella, a chofleidio pwy ydych chi’n llawn.”

Dechreuwch eich taith drwy ddefnyddio’r chwe egwyddor lles hyn.

Fe amlinellodd y seicolegydd, Carol Ryff chwe egwyddor sy’n berthnasol i les seicolegol. Mae’r llyfr yn seiliedig ar yr egwyddorion hyn ac maent yn cael eu trafod yn nghyd-destun y gwahaniaethu a’r micro-ymosodeddau y mae pobl o leiafrifoedd ethnig yn eu hwynebu.

Mae pob pennod yn cynnig lle ar gyfer myfyrio, ymarferion, arsylwadau a heriau i’ch helpu i ddechrau sgwrs gyda chi’ch hun a helpu eich hun i ffynnu yn emosiynol ac yn gorfforol.

Egwyddor 1: Derbyn ein hunain a hunaniaeth

Mae derbyn ein hunain yn golygu derbyn pob rhan ohonoch chi’ch hun ag agwedd gadarnhaol a theimlo’n dda am eich gorffennol. Gall hunaniaeth eich amddiffyn, creu ymdeimlad o berthyn, a meithrin balchder mewnol. Mae’n esblygu’n gyson drwy ryngweithiadau bob dydd.

Mae’r bennod hon yn trin a thrafod ‘hil’ a ‘hunaniaeth sy’n seiliedig ar hil’, gan ddangos sut mae eich hunaniaeth yn ffurfio drwy ac ar draws rhyngweithiadau dyddiol mewn bywyd bob dydd.

Egwyddor 2: Meistrolaeth amgylcheddol

Mae meistrolaeth amgylcheddol yn golygu dewis a chreu cyd-destunau sy’n addas i’ch anghenion a’ch gwerthoedd personol.

Mae’r bennod hon yn eich atgoffa bod eich profiadau unigol yn bwysig. Nid profiad sydd wedi’i ddyrannu i chi yw hwn neu ryw brofiad ‘ail-law’ nad wy’n addas i chi.

Egwyddor 3: Perthnasoedd positif gyda phobl eraill

Mae ymddiriedaeth, empathi, hoffter ac agosatrwydd, yn ogystal â rhoi a derbyn, i gyd yn rhan o berthnasoedd positif Dylai’r rhain fod yn dwymgalon ac yn rhoi boddhad, a dylai lles y naill berson fod yn bwysig i’w gilydd.

Mae’r bennod hon yn eich helpu i ddod o hyd i ffordd yn wyneb hiliaeth bob dydd yn eich perthnasoedd o fewn y cyd-destun cymdeithasol presennol.

Egwyddor 4: Annibyniaeth

Mae annibyniaeth yn golygu peidio â gadael i bwysau cymdeithasol wneud i chi feddwl a gweithredu mewn ffordd benodol; mae’n golygu rheoleiddio eich ymddygiad o’r tu mewn – nid ar sail safonau pobl eraill.

I bobl o grwpiau lleiafrifol ac ethnig sy’n byw mewn diwylliant gwyn yn bennaf, gall bod yn driw i ni ein hunain fod yn gymhleth ac yn arwyddocaol.

Wrth i ni fyw ochr yn ochr â’r diwylliant hwn, gall dewis ein gwerthoedd, ein breuddwydion a’n credoau, a gwneud synnwyr ohonynt, fod yn broses anghyfforddus. Gall hefyd wneud i ni wrthdaro â ni ein hunain ac eraill.

Egwyddor 5: Twf personol

Mae twf personol yn golygu cael profiadau newydd a gweld eich hun yn gwella dros amser e.e. gwireddu eich potensial neu ddeall eich hun yn well.

Mae hiliaeth yn gwneud y broses o wireddu eich potensial yn un anodd dros ben.

Mae’r bennod hon yn eich helpu i ystyried sut rydych yn ymateb i sefyllfaoedd yn eich bywyd ac yn ymdopi â nhw ar hyn o bryd, a phenderfynu sut y gallwch wella heb gael eich llywio gan ddisgwyliadau a phwysau pobl eraill a mynd i gors yn sgîl hynny.

Egwyddor 6: Pwrpas mewn bywyd

Mae’r bennod hon yn eich helpu i gydnabod bodolaeth hiliaeth a’i heffaith, ond heb adael iddi ddiffinio eich bodolaeth chi neu gyfyngu arni.

Fel unigolyn, mae gennych yr annibyniaeth i ddiffinio nodau ac ymdeimlad clir o gyfeiriad, gan ddod o hyd i ystyr i’r hyn sy’n digwydd ar hyn o bryd yn ogystal â’ch profiadau o’r gorffennol. Mae gennych gredoau sy’n rhoi pwrpas i’ch bywyd yn ogystal ag amcanion sy’n arwain eich gweithredoedd.

Ceisiwch ymestyn y tu hwnt i’r cyd-destun hiliol yr ydym yn byw ynddo a thyfu i fod yn driw i chi eich hun, er gwaethaf yr hiliaeth bob dydd.

Diolch i Susan am rannu ei stori.

Gall yr ymdeimlad neu’r profiad o ddiffyg cynrychiolaeth, gwahaniaethu neu fod wedi eich ynysu, greu rhwystrau o ran cynnal sgyrsiau a datgelu pryderon iechyd meddwl.
Er bod profiadau Susan yn edrych ar hyn yng nghyd-destun hil ac ethnigrwydd, mae nodweddion a phrofiadau eraill sydd hefyd yn gallu arwain at deimladau tebyg. Mae Canopi yn rhoi’r cyfle i bobl ddatgelu eu pryderon iechyd meddwl mewn man diogel, cyfrinachol a rhad ac am ddim sy’n cynnig cymorth.