Diolch i bawb a ymunodd â ni ar gyfer ein symposiwm blynyddol cyntaf ar 11 Rhagfyr 2020.
Roeddem yn falch o ddod â’r tîm sy’n ymwneud â rhedeg y gwasanaeth HHP Wales ((bellach yn cael ei alw’n Canopi Cymru) ynghyd â chynulleidfa ehangach sydd â diddordeb ac sy’n ymwneud â chymorth iechyd meddwl ledled Cymru a’r DU.
Yn ogystal ag adolygu’r gwasanaethau a gynigir trwy Canopi, clywsom gan gydweithwyr yn y GIG sydd wedi derbyn cefnogaeth gennym ni.
Diolch o galon i Sarah a Natalie am roi o’u hamser i rannu eu profiadau, o’r hyn a’u harweiniodd i’r gwasanaeth a sut y daethant o hyd i’r cymorth a gawsant.
Cafwyd sgwrs hynod ddiddorol gan yr Athro Neil Greenberg ynghylch cysyniadau anafu moesol ac arweiniodd Dr Julie Highfield fyfyrdod ar y strategaethau ymarferol i leddfu galar a cholled.
Gan fod ein symposiwm cyntaf wedi ei gynnal ar-lein o ganlyniad i bandemig COVID-19, mae recordiad ar gael o’r digwyddiad.
- Croeso – Jon Bisson
- Anerchiad agoriadol gan Brif Swyddog Meddygol Cymru – Frank Atherton
- Iechyd i Weithwyr Iechyd Proffesiynol Cymru: Y gorffennol, heddiw a’r dyfodol – Debbie Cohen a Jake Hard
- Anaf Moesol: Beth ydyw a beth i’w wneud amdano? – Neil Greenberg
- Myfyrio ar profiad o’r gwasaneth – Sarah, Natalie a Thomas Kitchen
- Gwneud synnwyr o’n galar a’n colled – Julie Highfield
- Sesiwn holi ac ateb, a diwedd y cyfarfod
Canopi Cymru
Mae Canopi yn cynnig mynediad at gymorth iechyd meddwl i weithwyr iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru.
Mae Canopi yn wasanaeth cyfrinachol am ddim sy’n cael ei gefnogi gan gyllid Llywodraeth Cymru a’i weinyddu trwy Brifysgol Caerdydd.