Categorïau
Uncategorized

Darllen er therapi: Pum syniad da ar gyfer Hunangymorth ar y Sul!

Gall darllen fod yn fath o gymorth seicolegol o’r enw bibliotherapi. I gydnabod ei fanteision, cychwynnodd Canopi y gyfres lyfrau Hunangymorth ar y Sul (‘Self-Help Sunday’). Yma, rydyn ni’n rhannu’r pum llyfr gorau y mae ein cydweithwyr wedi’u hargymell i ni.

Profwyd bod bibliotherapi yn helpu pobl ag amrywiaeth o anhwylderau iechyd meddwl drwy’r broses o ddarllen, myfyrio a thrafod llenyddiaeth i newid a datblygu ein prosesau meddwl dros amser. Mae darllen annibynnol yn cynnig nifer o fanteision cymdeithasol-wybyddol gan gynnwys dylanwadu ar ein gallu i gydymdeimlo, deall pobl eraill, a rhagweld patrymau ymddygiad. Gelwir hyn yn Theori’r Meddwl.

Mae adolygiad o bibliotherapi yn awgrymu y gallwn ni sylwi ar fanteision darllen ar ôl darllen un stori yn unig – newyddion da os ydych chi’n ddarllenwr achlysurol!

I gydnabod manteision darllen, dechreuodd Canopi argymhell llyfrau Hunangymorth ar y Sul (‘Self-Help Sunday’) bob wythnos ar ystod o bynciau, o gryfhau eich gwytnwch, i hunandosturi a chysylltu ag eraill trwy gyfathrebu effeithiol.

Ar ôl dwy flynedd o rannu argymhellion ar ein cyfryngau cymdeithasol gan gynnwys X ac yn ddiweddar, ein tudalen Instagram newydd, rydyn ni’n edrych yn ôl ar y llyfrau roeddech chi’n eu caru, yn eu hoffi ac yn eu hailbostio. Faint o’r llyfrau hyn ydych chi wedi’u darllen?

Y pum llyfr gorau a argymhellwyd i ni gan gydweithwyr sy’n gweithio ar draws gofal cymdeithasol a’r GIG yng Nghymru.

Listen: How to Find the Words for Tender Conversations gan Kathryn Mannix

Yma mae Kathryn Mannix, meddyg gofal lliniarol a seicotherapydd, yn cyfuno ei phrofiadau a’i doethineb i ddangos pŵer gwrando a chreu gofod diogel lle gellir clywed a deall eraill.

The Body Keeps Score gan Bessel van der Kolk

Mae’r arbenigwr trawma, Dr Bessel van der Kolk yn dangos sut mae straen wedi trawma yn ailweirio ein hymennydd a ffyrdd y gallwn ni adfer pleser, ymgysylltu, rheolaeth ac ymddiriedaeth.

Recovery: The Lost Art of Convalescence gan Dr Gavin Francis

Ydych chi wedi neilltuo lle ar gyfer adferiad yn eich bywyd? Mae Gavin Francis, meddyg teulu ac awdur, yn gwneud i chi feddwl am adferiad ac yn trafod sut a pham rydyn ni’n gwella yn gorfforol ac yn feddyliol.

Good Vibes, Good Life gan Vex King

Yn ei lyfr poblogaidd, mae Vex yn defnyddio ei brofiadau ei hun o adfyd i’ch helpu i fod yn fwy positif; o ymarfer hunanofal i ganfod eich pwrpas a goresgyn ofn.

Your Fully Charged Life gan Meaghan B Murphy

Bydd Your Fully Charged Life yn eich helpu i ailddarganfod eich brwdfrydedd a derbyn heriau gyda meddylfryd cadarnhaol a fydd yn lledaenu i eraill. Mae Meaghan B Murphy, golygydd cylchgronau, yn rhannu ei chyfrinachau gyda chi yn y llyfr grymus hwn!

Dilynwch ni ar X ac Instagram i gael rhagor o argymhellion ar gyfer llyfrau hunangymorth

Rhagor o ddeunydd darllen:

*Monroy-Fraustro D, Maldonado-Castellanos I, Aboites-Molina M, Rodríguez S, Sueiras P, Altamirano-Bustamante NF, de Hoyos-Bermea A, Altamirano-Bustamante MM. (2021) Bibliotherapy as a Non-pharmaceutical Intervention to Enhance Mental Health in Response to the COVID-19 Pandemic: A Mixed-Methods Systematic Review and Bioethical Meta-Analysis.

** Eekhof, L. S., van Krieken, K., and Willems, R. M. (2022). Reading about minds: The social-cognitive potential of narratives.