Categorïau
Blog

Ôl-ymyrryd yn sgil hunanladdiad: y cynllun sydd ei angen ar bob gweithle

Ar Ddiwrnod Cofio Cenedlaethol staff Iechyd a Gofal a gollwyd i hunanladdiad, rydym yn amlinellu egwyddorion sylfaenol cynllun ôl-ymyrryd yn sgil hunanladdiad a luniwyd i gefnogi pobl yn y gweithle ar ôl i gydweithiwr farw drwy hunanladdiad. Mae’r blog hwn yn cynnwys gwybodaeth am hunanladdiad a allai beri gofid i rai pobl.
Os oes angen cymorth neu gefnogaeth frys arnoch chi, ewch i canopi.nhs.wales/help-in-a-crisis.

Mae ôl-ymyrryd yn sgil hunanladdiad yn helpu i gefnogi cymunedau y mae hunanladdiad wedi effeithio arnynt

Pan fydd rhywun yn marw drwy hunanladdiad, mae’n effeithio ar eu teulu, ffrindiau, cydweithwyr ac weithiau cymuned gyfan. Gall marwolaeth drwy hunanladdiad effeithio ar bobl mewn gwahanol ffyrdd, a gallai rhai ohonynt fod yn annisgwyl.

Mae’r cyfryngau yn aml yn rhoi sylw i farwolaeth drwy hunanladdiad, felly mae’n bwysig cael cynllun ar waith sy’n helpu i amddiffyn aelodau’r teulu ac eraill a allai gael eu heffeithio, o adeg y farwolaeth, hyd at gwest y crwner, a thu hwnt.

Os nad ydych chi’n gyfarwydd â’r term ‘ôl-ymyrryd yn sgil hunanladdiad’, mae’n ymwneud â sut mae sefydliad neu gymuned yn ymateb i gefnogi’r rhai sydd wedi dod i gysylltiad â hunanladdiad neu y mae hunanladdiad wedi effeithio arnynt. Mae’r blog hwn yn cynnwys egwyddorion sylfaenol cynllunio a chynnal ymateb ôl-ymyrryd, fel y cynghorir ym Mhecyn Cymorth Ôl-ymyrryd yn sgil Hunanladdiad y Samariaid. Gellir addasu’r pecyn cymorth hwn i weddu i anghenion eich sefydliad.

Cynlluniwch ymlaen llaw

Mae’n bwysig bod gweithle wedi cynllunio ymateb ôl-ymyrryd cyn i ddigwyddiad fel hyn ddigwydd. Mae’r Samariaid yn argymell y camau canlynol:

Siaradwch am iechyd meddwl a hunanladdiad

Gwnewch bob ymdrech i gael gwared ar y stigma o ran trafodaethau yn y gweithle ynghylch heriau iechyd meddwl a hunanladdiad. Mae cydweithwyr wedyn yn fwy tebygol o geisio cefnogaeth yn y naill ddigwyddiad neu’r llall. Mae Amser i Newid Cymru yn cyflwyno modiwl gwrth-stigma ar gyfer gweithwyr gofal iechyd proffesiynol a allai gefnogi’r cam hwn 

Gwerthuso: Modiwl Hyfforddi Gwrth-Stigma ar gyfer Gweithwyr Gofal Iechyd Proffesiynol (timetochangewales.org.uk)

Trefnwch god grŵp ôl-ymyrryd yn dod at ei gilydd a phenodi prif aelod

Ffurfiwch grŵp ôl-ymyrryd sy’n gallu rhoi cynllun at ei gilydd. Efallai y bydd nifer o bobl y gallwch eu gwahodd yn eich sefydliad. Gallai’r rhain gynnwys gwasanaethau iechyd galwedigaethol a chaplaniaeth yn ogystal â phobl o’ch timau cyfathrebu a rheoli. Mae gan bob Bwrdd Iechyd yng Nghymru arweinydd ym maes profedigaeth a ariennir gan Lywodraeth Cymru, ac efallai y bydd arweinydd atal hunanladdiad a hunan-niweidio yn eich sefydliad hefyd. Efallai y bydd pobl â phrofiad byw hefyd a allai ddarparu mewnwelediadau gwerthfawr i’r mathau o gymorth y gallai fod eu hangen ar bobl.

Cytunwch ar ddull ôl-ymyrryd

Os bydd hunanladdiad, efallai y bydd angen i chi gyfleu negeseuon allweddol ar draws y sefydliad i ddarparu gwybodaeth ffeithiol sensitif a all dawelu sibrydion, a chyfeirio at ffynonellau cymorth. Efallai y bydd cyfraniad aelodau’r teulu yn ddoeth yn hyn o beth, e.e. amseru a faint o wybodaeth a rennir.

Awgrymir y dylai’r ymateb ôl-ymyrryd gynnwys rheolwr uniongyrchol yr unigolyn sydd wedi marw, ond mae’n bwysig cofio y gallent hwy eu hunain deimlo’r angen i gael cymorth personol penodol. Ystyriwch ysgrifennu datganiad ymlaen llaw i gyhoeddi marwolaeth drwy hunanladdiad i wneud y cyfathrebu cychwynnol yn haws.

Cytunwch ar y cymorth y gallwch ei gynnig

Ni fydd pawb yn ymateb i hunanladdiad yn yr un modd. Mae’n bwysig ystyried gofynion unigol fel eu rôl, diwylliant, crefydd ac ysbrydolrwydd wrth greu pecyn cymorth i’ch cydweithwyr. Mae’n bwysig cofio y bydd gan reolwyr fwy o gyfrifoldeb i gefnogi eu tîm wrth reoli eu galar eu hunain, felly ystyriwch ffyrdd y gallai cymorth arbenigol eu helpu.

Yn ogystal â chefnogi cydweithwyr, bydd angen i chi gysylltu â theulu’r unigolyn a bod yn barod i gynnig cymorth iddynt lle bo angen trwy fod yn ymwybodol o gymorth ariannol a phrofedigaeth. Yng Nghymru, mae canllawiau cenedlaethol ar sut rydym yn ymateb i bobl sydd mewn profedigaeth, sydd wedi dod i gysylltiad â hunanladdiad neu y mae hunanladdiad wedi effeithio arnynt, sydd â gwybodaeth ychwanegol ynddo:  Canllawiau drafft ar ymateb i bobl y mae hunanladdiad wedi effeithio arnynt | GOV. CYMRU. Pan fyddwch wedi colli aelod o staff, mae yna hefyd y camau ymarferol i’w hystyried, megis cael pobl i weithio eu shifftiau, y mae angen eu gwneud yn sensitif.

Dilynwch eich gweithdrefn

Mae canllaw y Samariaid yn cynnig rhestr wirio i’ch helpu i gyflawni eich dull ôl-ymyrryd yn yr oriau, dyddiau, wythnosau a misoedd yn dilyn marwolaeth drwy hunanladdiad. Mae hyn yn cynnwys cyfleu’r neges yn effeithiol i gydweithwyr, agweddau ymarferol eraill a rheoli’r risg i weithwyr eraill y gallai eu meddyliau a’u teimladau eu hunain o hunanladdiad ddwysáu yn ystod y cyfnod hwn.

Cofiwch ond peidiwch ag ail-fyw

Bydd yr wythnosau, misoedd a’r blynyddoedd canlynol yn dod â phen-blwyddi, digwyddiadau a cherrig milltir sy’n atgoffa cydweithwyr o’r unigolyn sydd wedi marw. Mae hwn yn amser da i gynnig sesiynau galw heibio arbenigol, cefnogaeth a rhoi’r lle i bobl gofio’r unigolyn.

Mae’r Samariaid yn cynghori bod grwpiau ôl-ymyrryd yn gweithio gyda chydweithwyr i sefydlu ffyrdd y gallant gofio’r unigolyn sydd wedi marw ond heb ail-fyw’r digwyddiad.

A yw hunanladdiad wedi effeithio arnoch chi? Gall Canopi ddarparu cymorth iechyd meddwl i staff y GIG a gofal cymdeithasol yng Nghymru. Rhagor o wybodaeth.

Adnoddau eraill:

Help is At Hand Cymru: adnodd digidol gyda gwybodaeth i gefnogi’r rhai y mae marwolaeth sydyn a allai fod yn hunanladdiad wedi effeithio arnynt (yn Gymraeg ac yn Saesneg)

Tudalennau Help is at Hand – NHS SSHP

Atal ac ôl-ymyrryd yn sgil hunanladdiad, Cyflogwyr y GIG

Atal ac ôl-ymyrryd yn sgil hunanladdiad | Cyflogwyr y GIG

Hunanladdiad gweithwyr y GIG: pecyn cymorth ôl-ymyrryd i helpu i reoli’r effaith a darparu cefnogaeth

Cydffederasiwn y GIG a Phecyn Cymorth Ôl-ymyrryd yn sgil Hunanladdiad y Samariaid.

Ymateb i farwolaeth drwy hunanladdiad cydweithiwr ym maes Gofal Sylfaenol: fframwaith ôl-ymyrryd

SOM – cefnogi gweithwyr proffesiynol ym maes iechyd a lles galwedigaethol

LTF_SOM_Responding_to_the_death_by_suicide_of_a_colleague_in_Primary_Care.pdf

Canllawiau Ôl-ymyrryd: Cefnogi staff y GIG ar ôl marwolaeth drwy hunanladdiad cydweithiwr

Prifysgolion Surrey, Birmingham a Keele

uos-suicide-postvention-brochure.pdf (surrey.ac.uk)

Cymorth pellach yng Nghymru:

Rhaglen atal hunanladdiad a hunan-niwed genedlaethol, Gweithrediaeth GIG Cymru

sshp.cymru@wales.nhs.uk

Y Gwasanaeth Cynghori a Chyswllt Cenedlaethol (NALS)

Gwasanaeth cenedlaethol ar gyfer cefnogi pobl sydd mewn profedigaeth, sydd wedi dod i gysylltiad â hunanladdiad neu y mae hunanladdiad wedi effeithio arnynt

Gwasanaeth Cynghori a Chyswllt Cenedlaethol Cymru (nals.cymru) support@nals.cymru