Dywedwch wrthym pam y buoch yn ymgynghorydd seiciatrig i Creisis
Fe gysylltodd grŵp cynhyrchu Boom â mi, gan eu bod yn chwilio am seiciatrydd oedd yn medru’r Gymraeg i fod yn ymgynghorydd seiciatrig ar y ddrama newydd hon. Doeddwn i ddim yn ymwybodol o unrhyw ddrama arall oedd yn canolbwyntio ar weithwyr proffesiynol a gwasanaethau iechyd meddwl, yn ogystal â phobl oedd yn wynebu’r anawsterau hyn, yn enwedig yn Gymraeg.
Mae’r ffordd y caiff iechyd meddwl ei gynrychioli yn y cyfryngau o gryn ddiddordeb i mi hefyd, ac mae’n rhywbeth yr wyf wedi canolbwyntio arno mewn prosiectau ymchwil ac wrth addysgu ac ymgysylltu â’r cyhoedd.
Beth yw’r brif stori?
Mae Creisis yn ddrama am nyrs seiciatrig sy’n gweithio yng Nghwm Rhondda, ac am y tîm Argyfwng ehangach y mae’n gweithio ynddo, ei deulu a’i gymuned, yn ogystal â’r unigolion y mae’n eu cefnogi.
Mae’n amlygu’r dirywiad yn ei iechyd meddwl oherwydd straen gwaith, perthnasoedd personol a thrawma yn y gorffennol. Dyma rai o’r rhesymau cyffredin pam mae staff y GIG a gofal cymdeithasol sy’n gweithio yng Nghymru yn cyfeirio eu hunain atom ni yn Canopi.
Fel y soniais, dyma’r ddrama gyntaf i mi ei gweld, yn enwedig yn Gymraeg, oedd yn canolbwyntio ar y staff sy’n gweithio o fewn gwasanaethau iechyd meddwl. Roedd hyn yn cynnwys yr heriau a’r hyn sy’n gwneud y gwaith yn werth chweil, y berthynas rhwng gweithwyr proffesiynol a’u cleifion, a’r anawsterau y gall ymarferwyr (yn enwedig dynion) eu hwynebu wrth ofyn am gymorth.
Beth oedd yn rhaid i chi ei wneud yn y rôl hon?
Bues i mewn cyfarfodydd ac yn rhoi adborth ar y sgriptiau, yn enwedig mewn cysylltiad ag arferion a therminoleg iechyd meddwl. Fe wnes i ymweld â’r set hefyd a chymryd rhan mewn trafodaethau panel ar y ddrama.
Cafodd fy rôl fel ymgynghorydd seiciatrig ei lywio gan fy ngwaith gyda gwasanaethau iechyd meddwl, yn enwedig fy ngwaith yn rhan o dîm Datrys Argyfyngau a Thriniaeth Gartref yng Nghaerdydd ychydig flynyddoedd yn ôl. Roeddwn i hefyd yn gweithio’n rhan-amser yng Nghwm Rhondda (lle mae’r ddrama wedi’i lleoli) ar y pryd, ochr yn ochr â fy ngwaith gyda Canopi a Phrifysgol Caerdydd.
Er mwyn llywio rhai agweddau ar y ddrama, fe wnes i ddarllen rhywfaint o lenyddiaeth yn ogystal a chyfeirio’r tîm cynhyrchu at ganllawiau presennol ar sut mae iechyd meddwl yn cael ei bortreadu yn y cyfryngau, fel ar wefan y Samariaid. Fe wnes innau ddysgu o’r profiad hefyd.
Bywyd ar ôl y gyfres
Mae’r gwaith nes i ei wneud ar y gyfres yn parhau i fod yn arbennig o berthnasol i fy ngwaith gyda Canopi yn cefnogi staff y GIG a gofal cymdeithasol sy’n gweithio yng Nghymru.
Ers i’r gyfres gael ei darlledu, rwyf wedi cymryd rhan mewn trafodaethau panel am y gyfres yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru 2024 ac yng Ngholeg y Cymoedd. Mewn trafodaethau am iechyd meddwl yn y gweithle, roedd iechyd meddwl dynion yn bwnc a godwyd yn aml ar stondin S4C yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru.