Yn y gwasanaeth Canopi, mae’ch adborth yn bwysig iawn inni. Dyna pam rydyn ni’n gofyn i bawb gwblhau arolwg adborth ar ôl cael cymorth gennyn ni.
Yr haf hwn, roedden ni am gael cipolwg dyfnach ar brofiadau pobl sydd wedi cyfeirio eu hunain at y gwasanaeth Canopi.
Er mwyn cael amrywiaeth o safbwyntiau, buon ni’n siarad â phedwar ar ddeg o bobl a oedd wedi defnyddio gwahanol agweddau ar y gwasanaeth, yn ogystal â’r rheiny a wnaeth hunan-gyfeirio ond a benderfynodd beidio â chael cymorth.
Gwnaeth y sgyrsiau hyn ddatgelu llawer o fanteision o ran cael mynediad at y gwasanaeth, y ffyrdd y mae’r gwasanaeth yn gweithio’n dda, a rhai argymhellion at ddibenion gwella yn y dyfodol.
Proses atgyfeirio sy’n hawdd ac yn effeithiol
“Roedd yn broses gyflym iawn, iawn ac yn hawdd i’w threfnu. Mae hynny wir yn fanteisiol, gan y bydd ei angen arnoch chi yn ôl yr angen, yn hytrach na bod ar restr aros.”
Roedd y mwyafrif o bobl o’r farn bod y broses hunanatgyfeirio yn un hawdd, ac fe wnaethon nhw ddweud eu bod yn gwerthfawrogi cael y cymorth yn gyflym. Y pethau hynny a wnaeth y broses atgyfeirio yn un cyflym a hawdd oedd y tîm desg gymorth effeithiol a chyfathrebu da, felly roedd pobl yn gwybod y drefn gydol y broses.
Man personol a diogel ichi fynegi pryderon o ran iechyd meddwl
“Bydda i’n ddiolchgar hyd byth i’r [therapydd] a roddodd o’i hamser y prynhawn hwnnw…ni alla i ei chanmol hi a rhaglen y Gwanwyn ddigon; mae’n ardderchog.”
Roedd ein therapyddion yn gwrando, yn deall ac yn cynnig lle diogel i bobl fynegi eu pryderon. Dywedodd pobl hefyd fod y therapyddion a staff y ddesg gymorth yn Canopi yn gyfeillgar ac yn hyblyg, gan ymateb i anghenion pob unigolyn.
Canlyniadau cadarnhaol ar gyfer iechyd meddwl
“Dyma oedd y trobwynt mawr yn fy adferiad llawn.”
Roedd y mwyafrif o’r bobl yn credu y cawson nhw brofiad buddiol yn Canopi, a dywedodd ambell i un bod Canopi wedi eu helpu i ddatrys yr anawsterau roedden nhw’n eu profi. Dywedodd eraill eu bod wedi profi emosiynau mwy cadarnhaol, wedi dysgu strategaethau o ymdopi’n dda, ac wedi cael safbwyntiau newydd ar y sefyllfaoedd heriol yn eu bywydau.
Edrych tua’r dyfodol
O ganlyniad i’r sgyrsiau hyn, byddwn ni’n canolbwyntio ar y gwelliannau canlynol:
- Parhau i godi ymwybyddiaeth o wasanaeth Canopi, yn enwedig yn y sector gofal cymdeithasol. E-bostiwch canopi@caerdydd.ac.uk i gael eich pecyn hyrwyddo rhad ac am ddim.
- Dod o hyd i ffyrdd y gallwn ni gefnogi pobl wedi i’w sesiynau Canopi ddod i ben.