Gydag anogaeth ei reolwr, fe wnaeth y penderfyniad dewr i gysylltu â Canopi am gefnogaeth. Mae Chris yn rhannu ei brofiad yn y gobaith y bydd yn annog eraill i chwilio am gefnogaeth ar gyfer eu hiechyd meddwl.
“Doeddwn i ddim mewn argyfwng ar y pryd, ond roedd y straen a’r gorfeddwl cyson yn fy llethu. Roeddwn yn cael trafferth delio â sefyllfaoedd yn y gwaith. Roeddwn yn gorfeddwl ac yn cael meddyliau negyddol o hyd ac o hyd. Fe gollais i fy ffydd yn y gweithle ac roeddwn i’n teimlo’n unig ac yn wyliadwrus. Doeddwn i ddim yn gwybod pwy i ymddiried ynddo, felly fe roeddwn i’n canolbwyntio’n llwyr ar fy nhasgau ac yn cadw fy hun ar wahân i bawb arall, dim ond er mwyn cwblhau diwrnod arall o waith.
Ond roedd hyn yn effeithio ar fwy na fy ngwaith yn unig. Roedd y straen yn effeithio ar fy mywyd personol hefyd. Y tu allan i’r gwaith, roeddwn i mewn cysylltiad â theulu agos yn unig ac yn osgoi sefyllfaoedd cymdeithasol oni bai bod hynny’n gwbl angenrheidiol.
Therapi: y trobwynt
Fe ddechreuodd popeth newid wedi imi ddechrau cael therapi gyda Canopi. Am y tro cyntaf ers amser maith, roeddwn i’n teimlo fel bod rhywun yn gwrando arna i go iawn. Fe agorais fy nghalon i fy therapydd am yr hyn roeddwn i wedi bod drwyddo; pethau roeddwn i wedi’u cadw i mi fy hen ers llawer gormod o amser. Roedd gallu cael y meddyliau hynny o fy mhen, gan ddefnyddio’r mecanweithiau ymdopi y gwnaethon ni eu trafod, yn newid popeth.
Ond roedd mwy i hyn na’r technegau yn unig, er bod y rhain yn hynod ddefnyddiol. Roedd yn seiliedig ar y cysylltiad. Roeddwn i’n teimlo fel fy mod i a fy therapydd yn gweithio fel tîm. Fe wnes i sylweddoli mod i eisiau cyflawni nod penodol, sef dysgu sut i reoli popeth roeddwn i’n mynd drwyddo. Fe wnaeth cael rhywun wrth fy ochr, a oedd wir am fy ngweld yn gwella, fy helpu i ddod o hyd i fy ffordd o’r tywyllwch.
Roedd y newidiadau yn amlwg i bawb. Un o’r adegau mwyaf arwyddocaol oedd pan ddywedodd fy ngwraig wrtha i bod fy synnwyr digrifwch wedi dychwelyd. Roedd hynny’n golygu popeth i mi. Mae gwybod mod i’n dal i allu gwneud iddi chwerthin yn fy ngwneud i’n hapus.
Fe ddechreuodd sefyllfaoedd cymdeithasol deimlo’n llai brawychus hefyd. Fe ddysgais i sut i ddelio â nhw drwy ddefnyddio adnoddau a strategaethau ymarferol a wnaeth fy helpu i deimlo’n fwy hyderus ac mewn rheolaeth.
Fy neges i bobl eraill
A fyddwn i’n argymell Canopi i bobl eraill? Yn bendant. Os bydd rhywun yn cael trafferth, rwy’n gobeithio’n fawr y bydd eu rheolwr neu eu rheolwr llinell yn eu hannog i ystyried cael therapi drwy Canopi.
Mae’r manteision yn enfawr. Os ydych chi mewn sefyllfa debyg, fe fyddwn i’n eich annog i gymryd cam yn ôl a gofyn i chi’ch hun: Ydw i am barhau i fyw mewn cylch o orfeddwl a meddyliau negyddol? Neu ydw i eisiau teimlo’n well a symud ymlaen? Os dewisoch chi’r ail ateb, manteisiwch ar y therapi sydd ar gael. Gallai fod y trobwynt rydych chi wedi bod yn chwilio amdano.”
Diolch o galon i Chris – efallai y bydd rhannu eich profiad chi yn rhoi’r anogaeth sydd ei hangen ar rywun arall i gymryd y cam cyntaf i gael cefnogaeth.
Cefnogaeth sy’n gwneud gwahaniaeth
Yn Canopi, rydym yn falch o gefnogi unigolion yn ystod y teithiau hyn. Os ydych yn gweithio ym maes Gofal Cymdeithasol neu’r GIG yng Nghymru, mae Canopi yma i’ch helpu chi. Llenwch ffurflen atgyfeirio heddiw.
Rhagor o wybodaeth
I gael rhagor o straeon am brofiadau go iawn, yn ogystal ag argymhellion ynghylch iechyd meddwl a lles sy’n seiliedig ar dystiolaeth, darllenwch ein blog.